Ac wrth i’ch hwyliau wella yn yr awyr iach, efallai y cewch chi fudd ychwanegol o fod yn gymdeithasol gyda’r cymdogion fyddwch chi’n eu gweld – dim ond i chi gadw dwy fetr o bellter wrth gwrs.
A dweud y gwir, mae gan Tesni ddau gyngor syml iawn ar gyfer gofalu am iechyd eich meddwl yn ystod y cyfnod pryderus yma – cerdded a siarad.
“Yr hyn sydd wir yn helpu yw siarad gyda phobl a bod yn onest gyda nhw am eich teimladau,” meddai’r ferch 27 oed o’r Rhyl sy’n rhannu ei hamser rhwng gogledd a de’r wlad pan nad yw’n hedfan i bob cwr o’r byd i chwarae mewn twrnameintiau.
“Weithiau, rydw i wedi bod yn deffro heb unrhyw gymhelliant o gwbl. Mae’r tymor sboncen wedi dod i stop a does neb wir yn gwybod pryd bydd yn ailddechrau.
“Mae sôn am fis Medi, ond mae’r cyfan yn yr awyr ac mae’r ansicrwydd yma’n gallu gwneud pethau’n anodd o ran cael ffocws. Hefyd mae’r adroddiadau ar y newyddion a’r pethau rydych chi’n eu darllen ar gyfryngau cymdeithasol yn gallu gwneud i chi deimlo’n ansicr iawn am bethau.
“Dyna pam rydw i’n gwneud yn siŵr ’mod i’n siarad yn onest am sut rydw i’n teimlo gyda’r bobl agosaf ataf i sy’n fy nghefnogi i. Rydw i’n lwcus mai fy nhad yw fy hyfforddwr i hefyd, oherwydd rydw i wedi gallu cadw mewn cysylltiad ag o drwy’r amser.”
Gan ei bod wedi cael anaf i’w ffêr a achosodd oedi cyn iddi allu dechrau cymryd rhan yn y tymor sboncen presennol yn ôl ym mis Ionawr, nid yw Evans – sydd hefyd yn chwarae sboncen cynghrair i’r Welsh Wizards yng Nghaerdydd – wedi chwarae gêm gystadleuol ers mis Hydref diwethaf.
Mae’n gyfnod eithaf hir i rywun sydd ond wedi arfer peidio â chwarae sboncen am ddim ond deufis bob haf.
Ond mae’r cyfyngiadau symud wedi ei gorfodi i gyfrif ei bendithion a dysgu gwneud yn fawr o bethau.
“Fel arfer rydw i’n treulio naw mis o’r flwyddyn oddi cartref, yn chwarae mewn twrnameintiau, ond y gwir amdani yw ’mod i’n hoff iawn o fod gartref.
“Mae’r sefyllfa yma wedi galluogi i mi dreulio llawer o amser gartref ac rydw i wedi bod yn gwneud yn fawr o hynny.
“Rhaid i chi chwilio am elfennau positif. Fe fydd llawer ohonom ni’n edrych yn ôl ar y cyfnod yma ac yn gweld bod manteision iddo, am nad oedden ni’n brysio hyd y lle am unwaith.
“Mae’n hawdd teimlo braidd yn ddigalon pan mae teimladau negyddol yn dod i’ch meddwl chi, ond wedyn rydych chi’n cofio bod rhai pobl yn yr ysbyty gyda choronafeirws, yn brwydro am eu bywydau, ac mae hynny’n rhoi pethau mewn persbectif.”