Nid yw’r Celtic Manor ger Casnewydd – cartref Cwpan Ryder yn 2010 a gyda thua 1,000 o aelodau ymhell ac agos – yn bwriadu ailagor ei gyrsiau tan Fehefin 1 gan obeithio y bydd y cyfyngiadau wedi’u codi ymhellach erbyn hynny.
Dywedodd siaradwr ar ran y Celtic Manor, Paul Williams: “Gan fod cyfyngiadau’n berthnasol i ddim ond gallu chwarae gydag aelodau o’r un teulu, ac aros yn lleol, nid ydym yn bwriadu ailagor ar hyn o bryd .
“Ond rydyn ni’n gweithio’n galed i gyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol a diwygio ein gweithdrefnau chwarae fel ein bod yn barod i ddechrau cynnig golff eto cyn gynted ag y bydd hynny’n bosib. Ac mae’r staff sy’n gweithio’n gwneud yn siŵr y bydd y cyrsiau’n barod ar gyfer chwarae arnyn nhw.”
Ond dafliad pêl golff i ffwrdd bron o’r Celtic Manor, yng Nghlwb Golff Llanwern, mae’n stori wahanol iawn.
Mae’n fath gwahanol o glwb gydag aelodaeth lawer fwy lleol ac mae’n falch o gael agor ei gwrs – er bod hynny gan gadw’n llym at y rheolau newydd.
Dim ond hanner aelodaeth y Celtic Manor sydd gan Lanwern ac ychydig iawn o bobl sy’n byw bellter sylweddol i ffwrdd.
Mae’r clwb eisoes wedi bod yn rhoi clipiau ar ei gyfrif Twitter o aelodau’n chwarae – gan gynnwys un o’r aelodau ifanc, Taylor Pardue, yn glanio ergyd gyntaf y dydd mewn steil ar y cwrs.
Dywedodd Ian Harrison, cyfarwyddwr strategaeth a pholisi’r clwb, ei bod yn bwysig bod y clwb yn cyflawni ei rôl gymunedol o ddarparu manteision corfforol a chymdeithasol i’w aelodau i gyd.
“Rydyn ni’n eithaf hapus bod y protocolau rydyn ni wedi’u sefydlu’n darparu amgylchedd gweithio diogel i’n staff a hefyd amgylchedd diogel i’r aelodau ddod i chwarae,” meddai.
“Rydyn ni wedi addasu ein system archebu ac mae pobl yn chwarae golff un bêl ar eu pen eu hunain yn bennaf, neu mae rhai o’r rhai ffodus yn gallu chwarae gydag aelodau o’u teulu eu hunain sy’n byw gyda nhw.
“Mae’n braf iawn cael golff yn ôl, er mor ddieithr yw hynny gyda’r cyfyngiadau. Er bod llawer o’r pwyslais wedi bod ar ymarfer corff, rydyn ni wir yn gweld gwerth yn yr agwedd gysylltiedig ag iechyd meddwl.
“Mae gennym ni rai aelodau dros 65 oed sy’n byw ar eu pen eu hunain ac mae golff yn gyfle iddyn nhw am ryngweithio cymdeithasol allweddol. Mae hynny’n hanfodol.
“Ar hyn o bryd, mae gennym ni un gyfres o reolau i olffwyr yr ochr yma i Bont Hafren a chyfres arall ychydig filltiroedd yr ochr arall, ond gobeithio, ymhen amser, y bydd hynny’n newid.”
Dylai’r aelodau gysylltu â’u clwb lleol i sicrhau eu bod yn deall y prosesau sydd wedi cael eu rhoi yn eu lle oherwydd gallant fod yn wahanol o glwb i glwb. Dylech gysylltu cyn mynd i gwrs eich clwb.