Skip to main content

Diweddariad - Y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng

Mae dau gant a saith o glybiau yng Nghymru’n cael £380,377 o gyllid ar ôl pum wythnos o geisiadau i’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng.

Mae’r criw diweddaraf o geisiadau wedi arwain at gymeradwyo cefnogaeth ariannol o £32,098 ar gyfer 42 o glybiau. Mae chwe chais wedi cael eu rhoi i’r naill ochr wrth i ni aros am ragor o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth.         

Yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd Chwaraeon Cymru y byddai’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng yn cael ei chynyddu £150,000, gan gynyddu’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i £550,000.

 

Mae’n dod wrth i’r £400,000 cychwynnol ar gyfer Cronfa Cymorth Mewn Argyfwng Chwaraeon Cymru gael ei neilltuo i gyd bron ar ôl dim ond pedair wythnos.

Yn y ceisiadau yr wythnos yma, mae £60,027 wedi cael ei gymeradwyo i 33 o glybiau ledled Cymru, gan ddod â chyfanswm y cyllid mewn argyfwng i £345,279.

Mae un ar ddeg o geisiadau wedi cael eu gohirio wrth iddynt aros am ragor o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth.

Mae mwy o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd, a chwestiynau ac atebion, ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru yma. 

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau neu ymholiadau i [javascript protected email address]

Newyddion Diweddaraf

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy

Gwell cyfleusterau chwaraeon i fanteisio ar y cynnwrf Olympaidd

Ydi'r pêl fasged 3v3 yn y Gemau Olympaidd wedi gwneud i chi neu eich plant ddyheu am fynd ar gwrt?

Darllen Mwy