Mae bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru’n teimlo ei bod yn bwysicach nag erioed bod yn actif yn ystod argyfwng y coronafeirws, gyda cherdded, ymarferion yn y cartref a loncian yn profi i fod y ffurfiau mwyaf poblogaidd ar ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud.
Mae arolwg sydd wedi’i gynnal gan Savanta ComRes ar ran Chwaraeon Cymru wedi datgelu gwybodaeth ryfeddol am arferion ac ymddygiad gweithgarwch corfforol y genedl yn ystod y cyfyngiadau symud…
Pa weithgareddau mae pobl yn eu gwneud?
Cerdded yw’r gweithgaredd mwyaf poblogaidd ymhlith y bobl hynny sy’n cadw’n actif. Yn ôl yr arolwg, dywedodd 59% o oedolion Cymru eu bod wedi cerdded fel hamdden yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gyda’r grŵp oedran 55+ oed y mwyaf tebygol o fod wedi gwneud hyn.
Mae Joe Wicks wedi cael dylanwad yng Nghymru yn sicr, gyda 30% o bobl yn gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn y cartref yn ystod yr wythnos ddiwethaf, naill ai drwy ddilyn fideo neu ymarfer ar-lein, neu drwy greu eu sesiwn eu hunain. Mae’r math yma o weithgaredd ffitrwydd wedi profi’n fwy poblogaidd fyth ymhlith pobl 16 i 34 oed, gan fod hanner y grŵp oedran hwn wedi dweud eu bod wedi gwneud ymarfer yn y cartref yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Roedd dwy ran o dair (66%) o’r rhai wnaeth ymarferion ar-lein wedi eu gwneud drwy YouTube, a 3% wedi eu cael drwy dudalennau #CymruActif ar wefan Chwaraeon Cymru. Roedd un deg pedwar y cant o bobl wedi bod yn loncian neu’n rhedeg yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gyda phobl 16 i 34 oed y rhai mwyaf awyddus i wneud hynny, a 10% wedi bod yn reidio beic.