Mae’r freuddwyd yma wedi gorfod cael ei roi i’r naill ochr am flwyddyn, ond mae’r hyder yn parhau y gall sicrhau mwy o lwyddiant yn y gamp y mae’r partner hyfforddi ar lefel Prydain Fawr a’r Pencampwr Olympaidd dwbl Jade Jones wedi hoelio sylw Cymru gyfan arni.
“Pan wnes i ddechrau cymryd rhan mewn taekwondo, doedd y llwyddiant gefais i ddim yn syndod,” cyfaddefa. “Roeddwn i’n disgwyl ennill.
“Dyna sut ydw i. Fi’n cystadlu i ennill – nid dim ond i greu sgwad. Roedd gen i gefndir mewn chwaraeon eraill, oedd o help, ond does dim llwybr cyflym.
“Roedd gen i sylfaen athletig a rhywfaint o allu, ond roedd rhaid i mi dreulio llawer o amser yn dysgu’r system bwyntiau, a thriciau bach y gamp, a sut mae’r cyfan yn gweithio gyda’i gilydd.
“Nawr rydw i’n cyrraedd y cam o wybod manylion y gamp, felly rydw i’n sicr yn teimlo bod mwy i ddod.”
Pryd daw’r cyfle i brofi hynny, does neb wir yn gwybod eto. Cafodd y rowndiau cymhwyso Paralympaidd a oedd wedi’u trefnu ar gyfer Milan eu symud i ddechrau i Rwsia cyn cael eu canslo yn llwyr wrth i’r byd chwaraeon orfod cau yn fyd-eang.
“Yr awgrym oedd y byddai’r rowndiau cymhwyso hynny ar gyfer Tokyo yn cael eu cynnal yn awr ddiwedd y flwyddyn yma, ond does dim byd yn bendant eto,” ychwanegodd Matt.
“Rydw i’n dal ati i ymarfer ac fe fydda’ i’n cynyddu hynny cyn gynted ag y galla’ i, ac felly pan fydd y rowndiau cymhwyso’n cael eu cynnal, fe fydda’ i’n barod. Os byddan’ nhw’n dweud, ‘maen nhw’n digwydd fory’, bydd rhaid i mi fod yn barod am hynny.”
Ond tan hynny, yn ôl at y pwysau a’r sesiynau beicio hyfforddwr tyrbo yn y bore mae’n mynd – ac wedyn pacio caws yn y prynhawn.
Os yw hynny’n swnio’n bryderus i’r deietegwyr sy’n cael eu cyflogi gan GB Taekwondo, does dim angen iddynt boeni.
“’Sa i’n bwyta caws, fi wedi cael digon,” meddai Matt.
“Roedd yr un peth pan oeddwn i’n pacio siocled. Ar ôl ychydig o wythnosau a bwyta chryn dipyn, roeddwn i wedi cael digon ar hwnnw hefyd.”