Mae cefnogaeth y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi’i darparu yn awr i 245 o glybiau yng Nghymru yn dilyn y rownd ddiweddaraf o geisiadau cymeradwy.
Mae cymeradwyo cyllid i 36 o glybiau pellach yr wythnos hon wedi arwain at ddosbarthu £64,446 fel cefnogaeth ar unwaith.
Mae’n golygu bod £444,823 wedi cael ei roi i glybiau cymunedol yng Nghymru i’w helpu i oroesi baich ariannol y cyfyngiadau symud.
Hefyd, mae pedwar cais wedi cael eu gohirio yr wythnos hon tra maent yn aros am fwy o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth.