Main Content CTA Title

Mwy na hanner miliwn o bunnoedd wedi’i roi i gefnogi clybiau Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mwy na hanner miliwn o bunnoedd wedi’i roi i gefnogi clybiau Cymru

Mae mwy na £500,000 wedi cael ei roi yn awr i glybiau cymunedol sydd wedi’u taro gan effaith y Coronafeirws a llifogydd y gaeaf.

Yn wythnos saith y ceisiadau, mae £49,146 wedi’i gymeradwyo i 36 o glybiau ledled Cymru.

Mae cyfanswm y grantiau sydd wedi’u dyfarnu drwy’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi cyrraedd £527,120 i 280 o glybiau oedd angen cymorth ariannol ar unwaith.

Hefyd mae 15 o geisiadau wedi cael eu gohirio yr wythnos hon tra maent yn aros am ragor o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth.

 

Mae Chwaraeon Cymru wedi sicrhau bod £550,000 ar gael drwy’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng, ac mae cynlluniau i ddarparu cefnogaeth i chwaraeon ailddechrau wedi cael eu llunio’n derfynol.   

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru:

“Mae ein tîm yn prosesu ceisiadau cyn gynted â phosib ac rydyn ni’n gwybod bod y gefnogaeth yn hanfodol i lawer o glybiau sydd wedi cael eu taro’n galed gan y cyfyngiadau symud. Yn llythrennol, mae cannoedd o glybiau wedi cael eu hachub rhag mynd i’r wal o ganlyniad i’r gronfa argyfwng yma. Mae’r buddsoddiad yma’n golygu, pan mae chwaraeon mewn lle i ailddechrau cynnig gweithgarwch, bydd gan bobl ym mhob cymuned yng Nghymru glwb lleol na fyddai wedi bodoli fel arall. Mae ein hasedau cymunedol yn gwbl hanfodol i les corfforol a meddyliol y genedl ac rydw i’n eithriadol falch ein bod ni wedi gallu chwarae rhan mewn diogelu cymaint ohonyn nhw.             

“Wrth gwrs, mae cyfnod anodd iawn o’n blaen o hyd. Gall clybiau sydd angen gwneud cais fod yn dawel eu meddwl y bydd cyllid ar gael os ydyn nhw’n bodloni ein meini prawf. Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad i ychwanegu at y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng pan mae angen, wrth i ni weithio drwy gynlluniau ar gyfer cefnogaeth ariannol bellach i helpu clybiau i ailddechrau.”

Mae mwy o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd a chwestiynau ac atebion ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru yma. 

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau neu ymholiadau i emergencyrelief@sport.wales

Newyddion Diweddaraf

Academi dartiau’n taro’r targed gyda phobl ifanc

Mae academi dartiau’n boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc wrth i effaith Luke Littler gydio.

Darllen Mwy

Chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Dyma gyngor y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan.

Darllen Mwy

Out Velo yn dod â'r gymuned feicio LHDTQ+ at ei gilydd

Er ei fod yn cael ei arwain gan LHDTQ+, mae Out Velo hefyd yn agored i'r rhai nad ydyn nhw'n ystyried…

Darllen Mwy