Yn ogystal â gosod y chwaraeon amrywiol mewn grwpiau, gofynnwyd i gyfarwyddwyr perfformiad pob camp ddarparu rhestr o athletwyr y byddent yn hoffi eu gweld yn ôl fel blaenoriaeth.
Wedyn bydd ymdrechion yn cael eu gwneud i gael yr enwau hynny’n ôl yn weithredol cyn gynted ag y bo hynny’n ddiogel ac yn ymarferol.
Mae’r ystyriaethau ymarferol hynny’n cynnwys nid dim ond pa mor barod fydd y lleoliad hyfforddi, ond hefyd yr angen amlwg am oruchwyliaeth feddygol.
Gyda chadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau ar nifer yr athletwyr a’r hyfforddwyr, bydd lleoliadau hyfforddi’n cyrraedd lefel newydd, isel o gapasiti yn fuan iawn.
Yn yr un modd, mae lefel y gefnogaeth feddygol yn mynd i olygu bod dychweliad yr athletwyr yn mynd i fod ar raddfa fechan i ddechrau, yn hytrach na llif mawr.
Mae’r rhwystrau hyn, mynna Lewis, yn berthnasol i Loegr hefyd, er bod dychweliad yr athletwyr elitaidd fesul cam dros y ffin wedi digwydd, mewn gwirionedd, yn gyflymach nag yng Nghymru.
“Y ffordd fwyaf diogel o leihau’r risgiau yw drwy ddod yn ôl yn raddol a gyda nifer mor fach â phosib o athletwyr,” meddai.
“Mae’n rhaid wrth oruchwyliaeth feddygol a does dim digon o feddygon chwaraeon yng Nghymru i alluogi i ni ddod â llawer o athletwyr yn ôl.
“Dydi hon ddim yn broblem unigryw i Gymru. Mae’r un fath yn Lloegr. O ran y gymhareb o feddygon i athletwyr, dydyn nhw ddim mewn sefyllfa well na ni.”
Yr egwyddor arweiniol o hyd gyda dychweliad unrhyw athletwr mewn unrhyw gamp fydd lleihau’r risgiau i iechyd y cyhoedd.
Mae hynny, mynna Jenkins, yn rhywbeth y mae’r athletwyr, yr hyfforddwyr a’r swyddogion i gyd yn gytûn arno, er ei fod yn cyfaddef y bydd rhai athletwyr ifanc addawol yn eiddigeddus o hyn wrth weld eraill o’u blaen yn y ciw.
“Dydi pawb ddim yn mynd i fod yn mynd yn ôl yn syth,” meddai. “A does dim capasiti chwaith.
“Hefyd, nid Seland Newydd ydyn ni. Mae cyfradd yr haint yn rhy uchel o hyd. Nid yw athletwyr eisiau dal y feirws a mynd ag e i bartner neu riant. Na’r hyfforddwyr chwaith.
“Y neges yw bod yn amyneddgar a chadw’n ddiogel. Mae pawb yn cydweithio’n galed iawn er mwyn cael yr athletwyr yn ôl yn ddiogel. Gweithiwch gyda ni a bod yn amyneddgar. Byddwch yn mynd yn ôl a hynny o dan amgylchiadau diogel.”
Os yw hynny’n swnio braidd yn rhwystredig i’r athletwyr hynny sy’n dyheu am fynd yn ôl, mae Lewis yn cynnig dau gyngor pellach.
I ddechrau, nid oes llawer o werth i waith caled ar y cae hyfforddi os nad oes gan athletwr ddyddiad cystadleuaeth ar ei galendr.
Ac yn ail, gallai dysgu bod yn graff ac yn ddyfeisgar drwy hyfforddi gartref yn ystod cyfnod o bandemig byd-eang fod yn gam doeth iawn.
“Does neb yn gwybod sut mae hyn yn mynd i ddatblygu, ond efallai y bydd bod yn dda iawn am hyfforddi gartref yn fantais gystadleuol yn y diwedd,” meddai.
“Os bydd y pandemig yma gyda ni am sbel, efallai nad y ffordd orau i chi baratoi ar gyfer Birmingham 2022 fydd hyfforddi mewn canolfan elitaidd am gyfnod byr, ond ceisio bod cystal ag y gallwch chi yn hyfforddi gartref.”