Mae cefnogaeth i achub clybiau wedi cael ei rhoi yn awr i 313 o glybiau ledled Cymru ar ôl wythnos 10 y ceisiadau.
Mae’r cyfanswm sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer clybiau drwy’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi cyrraedd £570,079 erbyn hyn, ar ôl cymeradwyo £26,769 i 22 o glybiau eraill yr wythnos hon.
Hefyd mae 25 o geisiadau wedi cael eu gohirio ar hyn o bryd tra maent yn aros am ragor o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth.
Yn wreiddiol, neilltuodd Chwaraeon Cymru £400,000 i’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng. Cafodd y swm ei gynyddu yn ddiweddarach i £550,000 ond gydag ymrwymiad i fuddsoddi unrhyw arian mewn argyfwng ychwanegol oedd clybiau ei angen.