Rydyn ni’n byw mewn cyfnod digynsail. Mae COVID-19 wedi achosi tarfu sylweddol i ni i gyd; gan effeithio ar ein bywyd bob dydd, ein gwaith, ein ffordd o fyw ac, yn bwysicach, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ein hiechyd.
Wrth i bandemig COVID-19 ddod yn realiti, daeth yn glir yn fuan iawn nad oedd yn gwahaniaethu rhwng pobl sâl ac iach. Fel glywson ni fwy a mwy o straeon o bob cwr o’r byd am athletwyr elitaidd hynod heini’n cael eu taro gan y clefyd hwn. Yn ffodus iawn, dim ond mân symptomau neu symptomau cymedrol sydd gan fwyafrif yr unigolion ifanc a heini sy’n dal yr afiechyd, ac nid oes raid iddynt fynd i’r ysbyty. Er hynny, mae’n ymddangos bod hyd yn oed y rhai gyda dim ond mân symptomau i ddechrau yn gallu bod yn hir iawn yn dychwelyd i ymarfer, yn bennaf oherwydd y blinder a’r symptomau resbiradol sydd wedi’u hachosi gan yr afiechyd. Daeth yn glir i mi ac i gydweithwyr nad oedd gan chwaraeon imiwnedd i COVID-19, a bod cyfarwyddyd penodol i gynorthwyo athletwyr elitaidd i ddychwelyd at chwaraeon a/neu ymarfer yn bwysig iawn.
Cyfarwyddyd Dychwelyd yn Raddol at Chwaraeon ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol
Mae tîm meddygol Athrofa Chwaraeon Cymru wedi bod yn cydweithio â thimau meddygol Athrofa Gartref y DU i ysgrifennu dogfen dychwelyd at chwaraeon yn raddol. Mae’r cyfarwyddyd wedi cael ei ysgrifennu i arwain gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n goruchwylio dychweliad athletwyr elitaidd at chwarae. Ysgrifennwyd y ddogfen yn seiliedig ar unrhyw dystiolaeth oedd ar gael a hefyd mae’n seiliedig ar arbenigedd sawl arbenigwr blaenllaw yn fyd-eang.
Wrth i wyddonwyr a gweithwyr gofal iechyd fel fi ddysgu mwy a mwy am COVID-19 a’i effaith ar athletwyr, mae’n gwbl hanfodol ein bod ni’n rhoi’r cyfarwyddyd diweddaraf i’n hathletwyr a’n partneriaid. Felly, rydym yn adolygu cynnwys y ddogfen bob pythefnos.
Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o gydweithredu o’r fath a helpu i gyflwyno’r ddogfen gyfarwyddyd hon, gyda phob un ohonom yn defnyddio ein profiadau a’n harbenigedd. Mae fy mhrofiad personol i yn gweithio i’r GIG yn ystod y pandemig hwn wedi darparu gwybodaeth ragorol am ffurf ddifrifol yr afiechyd, sydd wedi helpu llawer gyda chynnwys y ddogfen gyfarwyddyd.