Rydyn ni i gyd angen arwr y dyddiau hyn – hyd yn oed pencampwyr Olympaidd.
Mae Lynn Davies – sy’n cael ei adnabod fel ‘Lynn the Leap’ yn dilyn ei gamp yn ennill gornest y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo 1964 – yn dweud ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan Gapten Tom.
Yn un o gewri mawr y byd chwaraeon yng Nghymru, mae Lynn bellach yn 77 oed.
Mae dal yn fain, yn heini ac yn actif iawn yn gorfforol – yn union fel yr oedd yn ei oes aur athletaidd – ac mae’n debyg iawn i seren ffilmiau Hollywood.
Ond fel pawb arall dros 70 oed, mae’r cyfyngiadau presennol yn creu cyfnodau o bryder, nerfusrwydd a rhwystredigaeth i Lynn.
Dyma pam mae wedi cael hwb gan ymdrechion nodedig Tom Moore, sydd wedi codi cyfanswm syfrdanol o £28m hyd yma i elusennau’r GIG drwy gerdded rownd ei ardd 100 gwaith fis cyn ei ben blwydd yn 100 oed.
“Mae Capten Tom wedi bod yn anhygoel – yn ysbrydoliaeth nodedig,” meddai Lynn.
“Fy modelau rôl i oedd pobl fel Carl Lewis, a sbrintwyr ac athletwyr mawr eu dydd.
“Ond nawr fy mod i wedi cyrraedd oedran penodol mae rhywun sydd fwy nag 20 mlynedd yn hŷn na mi’n dal i godi allan ac ymarfer ac fe wnes i feddwl, ‘bobl bach, os yw e’n gallu gwneud ’na, fe alla’ i wneud beth sydd raid i mi ei wneud’.
“Mae e’n ein cymell a’n ysbrydoli ni i gyd ac yn dangos nad oes raid i oedran atal pobl rhag bod yn actif.”