Skip to main content

Clybiau Pêl Droed yn goresi diolch i’r gronfa cymorth mewn argyfwng

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Clybiau Pêl Droed yn goresi diolch i’r gronfa cymorth mewn argyfwng

I Glwb Pêl Droed Dinas Llanelwy, roedd Covid-19 yn un trychineb ar ôl y llall. Ym mis Chwefror, roedd y cae dan ddŵr ar ôl i Afon Elwy orlifo ei glannau. Fe fu llifogydd mawr yn yr ystafelloedd newid, y gegin a’r storfa hefyd. 

“Fe gafodd storm Ciara effaith ddinistriol ar ein caeau a’n cyfleusterau ni,” esboniodd John Roberts o’r clwb. “Er bod y mwd a’r gwaddod wedi’u symud o’n cae ni, roedd angen gwneud llawer o waith eto er mwyn iddo ddychwelyd i’w gyflwr blaenorol.”

Diolch i Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r gwaith yma wedi cael ei gwblhau bellach.

Y cae yng Nghlwb Pêl Droed Dinas Llanelwy ar ôl Storm Ciara
Y cae yng Nghlwb Pêl Droed Dinas Llanelwy ar ôl Storm Ciara


Yn y cyfamser, mae clybiau pêl droed eraill ledled Cymru – ar ôl wynebu anawsterau gyda thalu eu biliau yn ystod y cyfyngiadau symud – yn falch iawn o’r gefnogaeth. 

Roedd Clwb Pêl Droed a Chwaraeon Abergwaun yn llwyddiannus yn ei gais am grant ac mae’n ei ddefnyddio i dalu costau cynnal a chadw’r cae, sy’n cynnwys ailhadu, gwrteithio ac ychwanegu tywod. 

Dyma Owen Duggan i esbonio sut mae Covid-19 wedi effeithio ar sefyllfa ariannol y clwb: Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’n clwb ni, sydd wedi colli tua £4500. Rydyn ni wir yn ddiolchgar i Chwaraeon Cymru am ddosbarthu’r grant yma mor gyflym. Bydd hyn wir yn sicrhau bod dyfodol y clwb yn ddiogel o bersbectif ariannol ac rydyn ni’n aros nawr am ddiwedd y pandemig difrifol yma fel bod y timau i gyd yn gallu mynd nôl allan ar y cae gyda gwên ar eu hwynebau.”

Mae’r gwanwyn a’r haf yn gyfnodau prysur i glybiau chwaraeon ac yn gyfnod pryd mae llawer yn gwneud y rhan fwyaf o’u gwaith codi arian. Er enghraifft, mae Clwb Pêl Droed Penycae, ger Wrecsam, yn creu’r rhan fwyaf o’i incwm rhwng misoedd Mawrth a Mehefin fel arfer.       

“Yn anffodus, oherwydd pandemig y Coronafeirws, fe gafodd yr holl ddigwyddiadau oedden ni wedi’u trefnu eu canslo ac fe gaewyd y clwb,” esboniodd Colin Jackson o’r clwb. “ Rydyn ni’n ffodus ein bod ni wedi gallu canslo neu ohirio llawer o’r biliau misol, oedd yn rhyddhad, ond roedd rhai yr oedd rhaid i ni eu talu.

“Heb unrhyw incwm o gwbl ar hyn o bryd, mae ein cais llwyddiannus ni am grant wedi galluogi i ni dalu’r biliau yma yn ystod y misoedd nesaf diolch byth, heb ein gorfodi i ddefnyddio arian wrth gefn fydd ei angen dros y gaeaf, pan mae’n llawer mwy anodd cynhyrchu incwm.”

Cae Dinas Llanelwy heddiw
Cae Dinas Llanelwy heddiw

Cyllid newydd i helpu i warchod a pharatoi chwaraeon yng Nghymru                    

Roedd Clwb Pêl Droed Dinas Llanelwy, Clwb Pêl Droed a Chwaraeon Abergwaun a Chlwb Pêl Droed Penycae ymhlith mwy na 300 o glybiau a sefydliadau cymunedol sydd wedi rhannu mwy na £600k o Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. 

I helpu i warchod mwy fyth o glybiau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru, a galluogi iddynt baratoi ar gyfer cynnal chwaraeon ochr yn ochr â Covid-19, fe fyddwn ni’n cyhoeddi cyllid newydd mawr ddydd Mawrth 7 Gorffennaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth lawn drwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr Cymru Actif

Newyddion Diweddaraf

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy

Gwell cyfleusterau chwaraeon i fanteisio ar y cynnwrf Olympaidd

Ydi'r pêl fasged 3v3 yn y Gemau Olympaidd wedi gwneud i chi neu eich plant ddyheu am fynd ar gwrt?

Darllen Mwy