Mae clwb rygbi cadair olwyn yng Nghanolbarth Cymru wedi dod y 30,000fed prosiect i dderbyn cyllid y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru.
Ers 1994, mae miliynau o bunnoedd wedi cael eu rhoi i glybiau chwaraeon, grwpiau cymunedol a sefydliadau ledled Cymru. Ac yn briodol, wrth i’r Loteri Genedlaethol ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed, mae Chwaraeon Cymru newydd ddyfarnu’r 30,000fed grant i Glwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets ac Aberystwyth.
Derbyniodd Clwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets ac Aberystwyth £37,589 i ateb y galw am fwy o gyfleoedd a mynediad i chwaraeon anabledd yng Nghanolbarth Cymru wledig.
Dywedodd Mark Baines, Swyddog Datblygu Cymru gyda Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr a sylfaenydd y clwb newydd:
"Mae'n anoddach i bobl yng nghefn gwlad Cymru gael mynediad i chwaraeon. Rydyn ni eisiau darparu'r un cyfleoedd i'r bobl hynny.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y cyllid yma gan Chwaraeon Cymru gan ei fod wedi ein galluogi ni i brynu 10 cadair olwyn sy’n addas ar gyfer rygbi cadair olwyn yn ogystal ag offer hanfodol arall.
“Diolch o galon a phen-blwydd hapus i’r Loteri Genedlaethol – mae’n anrhydedd cael bod y 30,000fed prosiect i dderbyn cyllid y loteri drwy Chwaraeon Cymru.”