Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi manylion sut bydd gwerth mwy na £3m o gyllid yn cael ei wario ar wneud gwelliannau mewn cyfleusterau chwaraeon cymunedol a chanolfannau hamdden ledled Cymru yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
Mae mwy nag £1.8m wedi cael ei ddyfarnu i awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden fel bod nifer o ganolfannau hamdden yn gallu dod yn fwy ynni-effeithlon - gan helpu gweithgareddau i barhau i fod yn fforddiadwy i gymunedau eu mwynhau.
Mae £1.3m pellach wedi cael ei ddyfarnu i 13 o brosiectau a fydd yn gwneud y cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon, gan gynnwys athletau, pêl fasged a chriced, yn fwy hygyrch a phleserus.
Mae’r holl grantiau wedi bod yn bosibl diolch i gyfanswm o £10.3m o gyllid cyfalaf ar gyfer 2023-24 sydd wedi’i ddyrannu i Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Dyma fanylion llawn pob prosiect sydd wedi derbyn cyllid…
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Canolfan Chwaraeon Tredegar
Wedi derbyn £123,693 ar gyfer mesurau arbed ynni.
Bydd uned trin aer Canolfan Chwaraeon Tredegar yn cael ei newid, gan gefnogi eu siwrnai at sero net. Bydd gan yr uned newydd system ddadleithio i wneud anadlu'n fwy cyfforddus, gan leihau biliau ynni ac allyriadau carbon.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Canolfan Cwm Ogwr
Wedi derbyn £97,200 ar gyfer uwchraddio cyfleusterau.
Bydd y ganolfan yn cael gwelliannau hanfodol, gan gynnwys uwchraddio ei chyfleusterau newid i'r anabl, ac adnewyddu llawr y neuadd chwaraeon.
Cyngor Caerdydd
Pwll Rhyngwladol Caerdydd
Wedi derbyn £57,899 ar gyfer prosiectau dadgarboneiddio.
Byddant yn gosod gwyntyllau dadhaenu yn eu lle, a fydd yn lleihau costau gwresogi ac yn hyrwyddo tymheredd ac ansawdd aer mwy cyson. Yn ogystal, bydd gwyntyllau llai yn cael eu gosod yn ardal y gampfa i wella cylchrediad yr aer a lleihau llwythi awyru, gan greu amodau gwell ar gyfer gweithgareddau corfforol.
Beth yw ffans destratification a pham fod eu hangen ar ganolfannau hamdden?
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Clwb Hoci Eirias
Wedi derbyn £54,000 i wella cyfleusterau'r clwb.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i osod goleuadau LED newydd yn eu lle, a fydd yn gwneud y safle'n fwy amgylcheddol gyfeillgar ac ynni-effeithlon.
Cyngor Gwynedd
Pyllau Nofio Byw’n Iach
Wedi derbyn £27,273 ar gyfer gorchuddion pyllau.
Gyda’r grant, bydd tri gorchudd pwll yn cael eu prynu ar gyfer pyllau nofio Byw’n Iach yng nghanolfannau Glaslyn, Arfon a Dwyfor. Bydd y gorchuddion yn eu helpu i leihau eu costau rhedeg a dod yn fwy cynaliadwy gan y byddant yn arbed ynni ac yn arbed dŵr.
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Canolfan Chwaraeon Castell-nedd, Canolfan Hamdden Pontardawe, a Chanolfan Hamdden Cwm Nedd
Wedi derbyn £200,000 ar gyfer mesurau arbed ynni.
Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwella perfformiad ynni a charbon tair canolfan hamdden yn sylweddol gyda phrosiectau goleuadau LED a rheoli. Bydd y prosiectau’n gwella’r goleuadau, yn lleihau costau rhedeg, yn helpu i liniaru costau ynni uchel ac yn lleihau allyriadau CO2.
Cyngor Sir Penfro
Pwll Nofio Penfro
Wedi derbyn £225,000 i uwchraddio cyfleusterau ac ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni.
Fel rhan o waith adnewyddu ehangach, mae cyllid wedi cael ei ddyfarnu i helpu i wneud y cyfleuster yn llawer mwy ynni-effeithlon. Bydd y datblygiadau’n sicrhau bod y pwll yn parhau i fod yn weithredol ar gyfer y gymuned leol a thua 1,000 o blant ysgol sy'n nofio yno'n rheolaidd.
Cyngor Sir Powys
Canolfannau Freedom Leisure
Wedi derbyn £97,928 ar gyfer mesurau arbed ynni.
Bydd Cyngor Sir Powys a Freedom Leisure yn cydweithio ac yn gosod gwyntyllau dadhaenu aer yn eu lle mewn deg canolfan hamdden leol. Bydd y gwyntyllau hyn yn helpu i leihau'r defnydd o ynni drwy gydbwyso tymereddau mewnol neuaddau’r pyllau.
Pwll Nofio Llanfair-ym-Muallt
Wedi derbyn £31,852 ar gyfer paneli solar ac inswleiddio.
Bydd pwll nofio Llanfair-ym-Muallt yn gosod paneli solar yn eu lle ac yn inswleiddio’r lofft yn yr adeilad i’w wneud mor effeithlon â phosibl a lleihau costau nwy a thrydan.
Canolfan Hamdden Rhaeadr
Wedi derbyn £61,626 ar gyfer paneli solar a goleuadau LED.
Bydd Canolfan Hamdden Rhaeadr yn gosod paneli solar a goleuadau LED yn eu lle a fydd yn lleihau costau rhedeg ac allyriadau’r ganolfan hamdden – gan ei helpu i ddod yn fwy ynni effeithlon a dibynnu llai ar danwyddau ffosil.
Cyngor Abertawe
LC Abertawe, Canolfan Hamdden Penlan a Phenyrheol a Champws Chwaraeon Elba
Wedi derbyn £51,215 ar gyfer gwelliannau arbed ynni.
Bydd canolfannau Freedom Leisure ar draws Abertawe yn cael gwelliannau diolch i'r cyllid. Bydd pob safle yn cael gwyntyll dadhaenu, a fydd yn galluogi i'r pyllau weithredu yn fwy effeithlon.
Cyngor Bro Morgannwg
Canolfan Chwaraeon Colcot (Y Barri)
Wedi derbyn £76,500 i adnewyddu llawr y gampfa.
Bydd gwelliannau i'r llawr yn ei wneud yn addas ar gyfer pobl â phroblemau symudedd, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn. Byddant hefyd yn uwchraddio eu cylchoedd pêl fasged a’u rhwydi criced i alluogi chwe chlwb newydd i chwarae'r ddwy gamp yn y ganolfan.
Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr
Wedi derbyn £81,000 i uwchraddio cyfleusterau'r pwll.
Bydd Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr yn defnyddio'r cyllid i adnewyddu uned trin aer y pwll, a fydd yn gwella effeithlonrwydd ynni, yn lleihau'r defnydd o ynni, ac yn cefnogi datgarboneiddio'r cyfleusterau.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Canolfan Chwaraeon Ysgol Clywedog, Canolfan Chwaraeon Ysgol Rhosnesni, Canolfan Chwaraeon Gwyn Evans, a Chanolfan Hamdden Y Waun
Wedi derbyn £22,351 ar gyfer gorchuddion pwll newydd.
Bydd gorchuddion pwll newydd yn cael eu prynu ar gyfer y pyllau mewn dwy ganolfan hamdden yn ogystal ag mewn dau gyfleuster ysgol defnydd deuol. Bydd y gorchuddion yn helpu i leihau costau rhedeg pob canolfan fel eu bod yn gallu parhau i ddarparu gweithgareddau hynod werthfawr.
Canolfan Chwaraeon Gwyn Evans (Wrecsam), Canolfan Hamdden Y Waun a Waterworld Wrecsam
Wedi derbyn £37,800 i helpu i leihau defnydd ynni.
Bydd gosod gwyntyllau dadhaenu aer yn eu lle yn helpu i gydbwyso’r tymereddau mewnol mewn ystafelloedd gyda nenfydau uchel i leihau'r defnydd o ynni, gan alluogi’r canolfannau hamdden i leihau eu costau a lleihau’r effaith amgylcheddol ar y blaned.
Canolfan Hamdden Plas Madog (Wrecsam)
Wedi derbyn £127, 513 ar gyfer gwelliannau arbed ynni.
Bydd system wresogi ac awyru newydd, ac uwchraddio goleuadau LED yn cael eu hariannu i wella effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd Canolfan Hamdden Plas Madoc.
Cyngor Sir Ynys Môn
Ysgol Uwchradd Bodedern
Wedi derbyn £100,000 ar gyfer llifoleuadau.
Bydd y llifoleuadau yn cael eu gosod ar eu caeau 3G a 2G. Bydd y caeau yn cael eu defnyddio yn ystod y dydd gan ysgolion lleol, a bydd y goleuadau newydd yn galluogi hyfforddiant y tu allan i olau dydd yn ystod y misoedd tywyllach a gwella argaeledd i'r cyhoedd y tu allan i oriau ysgol.
Canolfan Hamdden Caergybi
Wedi derbyn £100,000 i newid llawr.
Bydd llawr y neuadd yn cael ei newid i sicrhau amgylchedd diogel ar gyfer y defnyddwyr, clybiau lleol, dosbarthiadau, cystadlaethau a phartïon yn ystod yr wythnos a gwyliau ysgol.
Hamdden Sir Ddinbych Cyf.
Canolfan Hamdden Prestatyn
Wedi derbyn £225,000 ar gyfer stiwdio ryngweithiol.
Bydd y ganolfan hamdden yn gosod stiwdio PRAMA yn ei lle yno. Mae’r stiwdio yn rhaglen hyfforddiant cylchedau gyfranogol sy’n cyfuno cerddoriaeth, goleuadau, a waliau rhyngweithiol a lloriau i gynnig mwy na 2,500 o ymarferion hwyliog ac unigryw.
Dysgwch fwy am PRAMA gan Pavigym.
Urdd Gobaith Cymru
Pwll Nofio Glan-llyn
Wedi derbyn £12,600 ar gyfer mesurau arbed ynni.
Bydd Pwll Nofio Glan-llyn yn gosod paneli solar yn eu lle i leihau ei ôl troed carbon ac arbed costau ynni ac, yn ei dro, bydd y pwll yn gallu bod ar agor am oriau hirach.
Tennis Bwrdd Cymru
Cenedlaethol
Wedi derbyn £34,884 er mwyn gwneud tennis bwrdd yn fwy hygyrch i bobl ifanc.
Bydd byrddau a rhwystrau tennis bwrdd yn cael eu prynu ar gyfer hybiau rhanbarthol ledled Cymru, gyda'r nod o gynyddu cyfranogiad iau.
Tennis Cymru
Canolfan Byw’n Iach Arfon
Wedi derbyn £117,784 ar gyfer ailwynebu a mesurau arbed ynni.
Bydd y cyrtiau tennis dan do yng Nghanolfan Byw’n Iach Arfon yng Nghaernarfon yn cael eu hailwynebu a bydd goleuadau LED i arbed ynni yn cael eu gosod yn eu lle hefyd.
Lleoliadau Amrywiol
Wedi derbyn £176,006 ar gyfer adnewyddu cyrtiau tennis.
Bydd cyrtiau tennis mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru, gan gynnwys Gerddi Rumney Hill yng Nghaerdydd, yn cael eu hadnewyddu. Bydd y gwaith adnewyddu yn datblygu model cynaliadwy sy'n diogelu’r cyrtiau ar gyfer y dyfodol, a bydd yr incwm a gynhyrchir yn creu cronfa ar gyfer costau cynnal a chadw ac ailwynebu hirdymor.
Hoci Cymru
Cenedlaethol
Wedi derbyn £65,000 ar gyfer byrddau adlamu.
Er mwyn helpu i ddarparu mwy o gyfleoedd i’r fersiwn 5 bob ochr lai o hoci gael ei chwarae yng Nghymru, bydd Hoci Cymru yn defnyddio’r grant i brynu setiau o fyrddau adlamu hoci 5 (sy’n cael eu defnyddio i greu ffens ar gyfer y caeau). Bydd y setiau'n cael eu cadw ledled Cymru mewn lleoliadau i'w cadarnhau.
Bocsio Cymru
Cenedlaethol
Wedi derbyn £30,000 ar gyfer cadeiriau olwyn aml-chwaraeon.
Er mwyn helpu i wneud bocsio yn fwy cynhwysol, bydd 20 o gadeiriau olwyn aml-chwaraeon yn cael eu prynu a fydd yn galluogi pobl sydd â phroblemau gydag aelodau isaf y corff a’r asgwrn cefn i gymryd rhan mewn bocsio sylfaenol. Bydd y cadeiriau ar gael hefyd i chwaraeon eraill eu benthyca.
Criced Cymru
Neuadd Chwaraeon Gymunedol Mosg Abertawe
Wedi derbyn £68,160 ar gyfer offer criced.
Bydd Criced Cymru yn defnyddio’r cyllid i drawsnewid Neuadd Chwaraeon Gymunedol Mosg Abertawe yn gyfleuster criced dan do, ynghyd â rhwydi, yn ogystal â bod yn lleoliad sy’n addas ar gyfer chwaraeon eraill.
Athletau Cymru
Trac Cwrt Herbert (Castell-nedd)
Wedi derbyn £225,000 ar gyfer trac newydd.
Bydd Athletau Cymru yn newid trac Cwrt Herbert, sy’n gartref i lawer o glybiau rhedeg yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer clybiau pêl droed, rygbi, a thriathlon. Bydd uwchraddio'r cyfleuster hwn yn galluogi mwy o gapasiti ar gyfer defnydd, cynnal cystadlaethau a chyfleoedd cymryd rhan i bobl ifanc, cefnogi profiadau o ansawdd uchel, a chefnogi datblygiad athletwyr elitaidd.
Pêl Fasged Cymru
Cyrtiau Pêl Fasged Awyr Agored Y Fflint, Parc y Rhath (Caerdydd) ac Abertawe
Wedi derbyn £99,000 ar gyfer adnewyddu cyrtiau.
Bydd y cyrtiau pêl fasged awyr agored yn cael eu hadnewyddu fel rhan o strategaeth cyrtiau awyr agored Pêl Fasged Cymru mewn ymateb i'r galw.