Mae pêl-droed yng Nghymru yn sicr yn ffynnu. Am y tro cyntaf ers 64 mlynedd, mae Cymru yng Nghwpan y Byd. Ac yng Nghymru, mae cenedl yn cael ei hysbrydoli i fentro ar y cae.
Diolch i ymdrechion codi arian clybiau lleol drwy Crowdfunder – sydd wedi cael arian cyfatebol gan Chwaraeon Cymru - mae gwelliannau'n cael eu gwneud i gyfleusterau 'oddi ar y cae' ledled y wlad.
O well ystafelloedd newid i ffensys newydd, mae clybiau ar lawr gwlad yn cysylltu â'u cymunedau lleol er mwyn sicrhau eu dyfodol pêl-droed.
Dyma sut mae pum clwb cymunedol yng Nghymru wedi defnyddio cyllid cyfatebol Crowdfunder a Chwaraeon Cymru i sicrhau y bydd pawb sydd wedi eu hysbrydoli gan Rob Page a'i dîm yng Nghwpan y Byd FIFA 2022 yn cael gwell mynediad i bêl-droed yng Nghymru.
Newid ar droed yn Treharris Athletic
Os ydych yn chwilio am enghreifftiau llwyddiannus o ymgyrchoedd cyllido torfol ar gyfer clybiau chwaraeon yng Nghymru, cymerwch olwg ar dimau Ifanc ac Iau Treharris Athletic ym Merthyr.
Aeth y clwb, a oedd yn awyddus i ddatblygu ystafelloedd newid newydd, at Crowdfunder a chodi bron i £8000 mewn 28 diwrnod.
Eglurodd Cadeirydd y Clwb: "Mae'r timau ifanc ac iau wedi bod yn rhedeg ers 25 mlynedd a dydyn nhw erioed wedi cael eu cyfleuster eu hunain, lle i’w alw'n 'adref'. Dwi eisiau rhoi sylfaen i'r plant, lle i’w alw'n adref ac i fod yn falch ohono, lle maen nhw'n hyfforddi ac yn chwarae yno bob wythnos. Mae cael eu lleoli yn y pentref yn golygu y gall ffrindiau a theulu ddod i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar y plant i ffynnu yn yr oedran ifanc hwn yn ystod gemau.”
Yn ogystal ag ystafelloedd newid, mae ystafell gymunedol fechan wedi'i hadeiladu lle gall y clwb gynnal cyfarfodydd a chyrsiau hyfforddiant ond gall grwpiau cymunedol lleol ei defnyddio hefyd.
Cyngor da: Rhowch yr wybodaeth ddiweddaraf i’ch cefnogwyr am eich cynnydd
Dysgwch sut y gwnaethant lwyddo: Tîm Ifanc ac Iau Treharris Athletic