Skip to main content

5 ffordd o wneud eich clwb chwaraeon yn gyfeillgar i bobl fyddar

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. 5 ffordd o wneud eich clwb chwaraeon yn gyfeillgar i bobl fyddar

Ydi eich clwb chwaraeon chi’n cynnwys pobl fyddar neu drwm eu clyw? Ydych chi wedi ystyried sut gallwch chi wneud eich hyfforddiant yn fwy cyfeillgar i bobl fyddar? Dyma sut gallwch chi wneud eich sesiynau’n fwy hygyrch i sicrhau bod pobl â nam ar eu clyw yn gallu mwynhau’r manteision chwaraeon yn eich clwb.

Mae cyflwyno chwaraeon yn seiliedig ar gyfathrebu a sicrhau bod y cyfranogwyr yn gallu deall. Does dim un dull sy’n addas i bawb byth, ac mae hynny’n arbennig o wir am bobl â nam ar eu clyw.

Sefydlwyd Shotton Town United JFC yn 2015 gyda’r arwyddair – “Dylai pob plentyn chwarae”. Mae eu hyfforddwyr yn gallu defnyddio Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol ac maen nhw wedi'u hyfforddi mewn ymwybyddiaeth o fyddardod i sicrhau bod gan blant yng ngogledd Cymru sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw le i chwarae pêl droed.

Felly, pwy well i roi eu cyngor ar fod yn glwb chwaraeon cyfeillgar i bobl fyddar na nhw? Dyma awgrymiadau gwych Shotton Town United i sicrhau eich bod yn cynnwys cyfranogwyr sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw yn eich clwb chwaraeon.

Dysgu sut maen nhw eisiau cyfathrebu. 

Does dim dau berson yr un fath ac mae hynny'n wir am bawb sydd â nam ar eu clyw hefyd. Efallai y bydd gan gyfranogwr hoff ffordd o gyfathrebu wrth gymryd rhan mewn chwaraeon. Gwnewch yn siŵr mai'r peth cyntaf rydych chi'n ei wneud yw siarad â'r person i ddeall ei anghenion. Peidiwch byth â chymryd yn ganiataol!   

Aros mewn un lle. 

Arhoswch mewn un lle fel bod y cyfranogwyr yn gwybod ble i edrych a ble i ddod o hyd i hyfforddwyr unrhyw bryd. Os byddwch yn symud o gwmpas, ni fydd y rhai sydd ag anawsterau clyw yn gallu clywed eich llais chi i ddod o hyd i'ch lleoliad. Rhowch yr hyder iddyn nhw wybod yn union ble rydych chi i geisio cyfarwyddyd.

Hyfforddwyr pêl-droed yn siarad â grŵp o blant

Defnyddiwch iaith y corff a wynebu tuag at y chwaraewr er mwyn iddo allu darllen eich gwefusau. 

Mae'r rhai sy'n defnyddio iaith arwyddion yn dda iawn am adnabod iaith y corff. Gall cynnwys hyn yn eich cyfathrebu helpu pobl sydd â nam ar eu clyw i ddeall. Wrth siarad â chyfranogwr, cadwch gyswllt llygad i sicrhau eich bod bob amser yn wynebu tuag ato. Fel hyn gall ddarllen eich gwefusau.

Gwnewch yn siŵr bod eich wyneb yn glir, yn y golau, a’ch bod yn siarad yn glir. 

Gall cael yr haul y tu ôl i chi ei gwneud yn anoddach i gyfranogwr ddarllen gwefusau felly gwnewch yn siŵr bod eich wyneb yn weladwy drwy sefyll yn y golau. Siaradwch yn glir ac osgoi gorynganu eich geiriau hefyd. Ar gyfer hyfforddwyr sy'n siarad yn gyflym, ystyriwch arafu eich lleferydd i roi gwell cyfle i ddarllen gwefusau i'r rhai sydd â nam ar eu clyw.  

Siaradwch un ar y tro a gwneud y pwnc yn glir. 

Mae'n bwysig siarad yn unigol gan mai dim ond gwefusau un hyfforddwr ar y tro y gall cyfranogwr eu darllen. Os ydych chi'n arddangos ymarfer neu'n pwyntio at fwrdd tactegau, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n esbonio yn gyntaf, gan wneud y pwnc yn glir ac wedyn darparu'r arddangosfa ar ôl hynny. Gall arddangosfeydd gweledol fod yn fwy defnyddiol nag esboniad llafar ond peidiwch â dangos ac esbonio ar yr un pryd! 

Fe roddodd Chwaraeon Cymru £3,882 i Shotton Town United JFC o ‘Gronfa Cymru Actif’ i gefnogi gwaith anhygoel y clwb yng ngogledd Cymru. Fe wnaethon nhw ddefnyddio’r cyllid yma gan y Loteri Genedlaethol i brynu offer ac i gyllido cyrsiau hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr er mwyn iddyn nhw allu parhau i gyflwyno pêl droed cynhwysol i blant cymuned Shotton. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut i fod yn gynhwysol wrth hyfforddi pobl fyddar neu drwm eu clyw, darllenwch yr adnodd yma sydd wedi’i greu gan UK Deaf Sport ac UK Coaching.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy