Rydyn ni i gyd yn gwybod bod newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ddinistriol ym mhob rhan o’r byd. Ond ydych chi wedi ystyried faint mae chwaraeon yng Nghymru yn teimlo effeithiau llifogydd, gwres eithafol, a phrinder dŵr hefyd? A sut gall chwaraeon chwarae eu rhan wrth amddiffyn ein planed ni?
I helpu clybiau a sefydliadau i wneud eu rhan i leihau eu heffaith amgylcheddol, mae hwb ar-lein newydd gwych ar gael yn llawn syniadau, canllawiau a gwybodaeth.
Felly, beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.
Arbed arian
Yn ogystal â helpu'r blaned, gall dod yn glwb mwy cynaliadwy eich helpu chi i arbed arian hefyd.
Gall paneli solar, goleuadau LED ynni-effeithlon a synwyryddion symudiad, gwell systemau gwresogi a dŵr poeth eich helpu chi i gyd i ostwng eich biliau ynni.
Oeddech chi’n gwybod bod 58 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi derbyn Grant Arbed Ynni gan Chwaraeon Cymru i helpu i dalu cost mesurau arbed ynni?
Yn Llandudno, mae Clwb Golff Maesdu yn gweithio gyda Dŵr Cymru a’i brosiect Rainscapei gynaeafu dŵr fel bod posib ei ddefnyddio mewn chwistrellwyr o amgylch y cwrs, gan leihau dibyniaeth y clwb ar system y prif gyflenwad – a lleihau costau.
Mwy o wybodaeth am beth mae Golff Cymru yn ei wneud i chwarae ei ran.
Cyngor Doeth: Cadwch lygad am gyfle arall i wneud cais am Grant Arbed Ynni yn fuan!
Denu pobl newydd
Mewn byd sy'n ymdrechu i fod yn sero net, bydd aelodau newydd a gwirfoddolwyr yn gwerthfawrogi'r ymdrechion rydych chi’n eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.
Fwy a mwy, mae cwsmeriaid eisiau gwneud penderfyniadau moesegol felly cofiwch dynnu sylw at y camau rydych chi'n eu cymryd i fod yn wyrddach.
Yn 2023, dywedodd Run 4 Wales bod 75% o’r cyfranogwyr a gwblhaodd arolygon ar ôl digwyddiad gyda nhw wedi nodi bod diogelu’r amgylchedd yn bwysig iawn iddyn nhw wrth ddewis digwyddiadau. Dywedodd 21% pellach ei fod yn bwysig.
Dywedodd Gareth Ludkin, y Pennaeth Cynaliadwyedd yn Run 4 Wales:
“Rydyn ni’n gweld bod cyfranogwyr yn cael eu dylanwadu fwyfwy gan gynaliadwyedd wrth benderfynu pa ddigwyddiadau i gymryd rhan ynddyn nhw. Rydyn ni wedi lansio Cronfa Gweithredu dros yr Hinsawddsydd wedi codi £38,000 hyd yn hyn. Mae’n rhoi cyfle i’n cyfranogwyr ni gefnogi prosiectau cadwraeth, lleihau carbon ac addasu i’r hinsawdd.”
Cyngor Doeth: Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n hyrwyddo'r hyn rydych chi'n ei wneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar. Edrychwch ardudalen Cynaliadwyedd Run 4 Walesam rai syniadau.