Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf wedi dechrau yn Beijing ac mae sylw’r genedl eisoes wedi'i hoelio ar wefr, campau, beiddgarwch a sgiliau Tîm Prydain Fawr.
Ond yn nes at adref, yma yng Nghymru, mae Cronfa Cymru Actif yn cefnogi clybiau sy’n arbenigo mewn chwaraeon gaeaf drwy gydol y flwyddyn.
Crëwyd Cronfa Cymru Actif yn 2020 gyda’r bwriad o ddiogelu a sicrhau cynnydd clybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol drwy bandemig Covid-19 a thu hwnt.
I wneud yn siŵr nad oedden nhw’n mynd oddi ar y piste ar ôl Covid-19, gwnaeth saith o glybiau chwaraeon eira gais i Gronfa Cymru Actif …
Curo'r cloc
Teimlo'r gwynt yn eich gwallt wrth i chi sgïo i lawr allt? Does dim byd gwell. Wel, a dweud y gwir, oes… cyrraedd y gwaelod a darganfod eich bod wedi cyflawni gorau personol.
A dyna’n union beth mae aelodau Clwb Sgïo Caerdydd yn ei ddathlu ar ôl iddyn nhw dderbyn £3571 o Gronfa Cymru Actif ar gyfer offer amseru.
Sglefrio iâ ar dir sych
Pan gafodd Arena Iâ Cymru ei gorfodi i gau ei drysau am bron i 17 mis oherwydd Covid, roedd Synchro Cardiff - clwb sglefrio iâ - yn fwy penderfynol nag erioed o ddal ati.
Er mwyn cadw ei sglefrwyr yn heini, yn hyblyg ac mewn hwyliau da, daeth y clwb at ei gilydd i gyflwyno cais i Gronfa Cymru Actif.
Ar ôl derbyn grant o £3210, roedd y clwb yn gallu llogi neuaddau chwaraeon a chynnal sesiynau ballet ac ymestyn, cryfder a chyflyru, pilates a choreograffi dawns oddi ar yr iâ.
Hwre’r Huskies am gyllid
Pan oedd Huskies Caerdydd yn cael mynd yn ôl ar yr iâ, roedden nhw angen gwneud hynny’n ddiogel. Mae gan lawer o’r chwaraewyr hoci iâ para broblemau iechyd sylfaenol ac maen nhw wedi bod yn gwarchod eu hunain drwy’r pandemig ac felly mae diogelwch wedi bod yn hanfodol.
Buddsoddodd Cronfa Cymru Actif £645 mewn gorchuddion wyneb, offer diheintio a chonau marcio.
Cadw’n ddiogel
Mae Ski4all Wales yn ymwneud â chreu profiadau a chyfleoedd sy’n newid eu bywydau i oedolion ag anableddau corfforol, gweledol a niwrolegol, fel rhan o raglen adfer.
Wedi'i leoli yng Nghanolfan Sgïo Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin, rhoddwyd £1500 i'r clwb i brynu hancesi gwlyb, masgiau, menig, gel gwrthfacteria ac offer glanhau arall er mwyn iddo allu dal ati i wneud ei waith anhygoel!
Hyfforddi'r hyfforddwyr
Ar ôl y pandemig, gadawyd Clwb Sgïo Torfaen gyda llai o hyfforddwyr cymwys i ddysgu eu sgiliau cyntaf i ddechreuwyr ar y llethrau a chafodd ei orfodi i wrthod cwsmeriaid.
Drwy wneud cais i Gronfa Cymru Actif, llwyddodd i sicrhau £1360 i fuddsoddi mewn datblygu hyfforddwyr. Y cynllun yw annog yr aelodau presennol i ddod yn hyfforddwyr a helpu i redeg y clwb.