Mae wedi bod yn flwyddyn anodd ond mae llawer ohonoch chi wedi addasu. Dosbarthiadau campfa ar Zoom. Ymarfer yn yr ardd. Rhedeg yr un llwybr o stepen y drws. Ar ôl bod yn styc yn syllu ar yr un pedair wal am y flwyddyn ddiwethaf, mae'n amser rhoi eich iechyd meddwl yn gyntaf. A pha ffordd well o wneud hynny na thrwy ddychweliad y chwaraeon hynny rydych chi mor hoff ohonyn nhw ac wedi'u colli? Mae'n amser bod #NôlYnYGêm.
Mae ymarfer corff nid yn unig o fudd i chi'n gorfforol, ond hefyd mae'n chwarae rhan enfawr yn eich iechyd meddwl. Dyma 7 ffordd y mae'n gwneud hynny.
Ffrindiau / Rhyngweithio Cymdeithasol
Nid dim ond yr un pedair wal ydyn ni wedi bod yn syllu arnyn nhw, ond yr un hen wynebau hefyd. Mae bod #NôlYnYGêm mewn clwb chwaraeon yn gyfle i chi ryngweithio â’ch ffrindiau wyneb yn wyneb, gan gymryd rhan mewn gweithgaredd rydych chi i gyd yn ei fwynhau a bod â rhywbeth yn gyffredin.
Gwella Hunan-barch
Mae ymarfer mor bwerus. Gall roi hwb i’ch hyder a rhoi ymdeimlad gwych o hunan-werth. Os ydych chi wedi treulio gormod o ddyddiau dan do a’ch gweithgarwch corfforol wedi lleihau, mae’n amser bod nôl yn y gêm a theimlo’n dda amdanoch chi’ch hun eto.
Tynnu Sylw
Does dim gwell ffordd o gael gwared ar y straen sydd ar eich meddwl na thrwy fod nôl yn y gêm. Wedi clywed am bŵer meddwlgarwch? Pan rydych chi’n canolbwyntio ar weithgaredd, ac yn anghofio am bryderon bob dydd, gall arwain at lawer o lawenydd i chi.