Mae cyfanswm o 78 o glybiau chwaraeon ledled y wlad wedi derbyn Grantiau Arbed Ynni yn ystod 2023/24 i helpu i wneud eu cyfleusterau yn fwy ynni-effeithlon.
Bydd y rhan fwyaf o’r clybiau a dderbyniodd grantiau – sy’n dod i gyfanswm o bron i £1.4m – yn defnyddio’u cyllid i osod paneli solar yn eu lle, ac mae’r defnyddiau eraill yn cynnwys gwelliannau inswleiddio, uwchraddio systemau gwresogi a ffynonellau dŵr cynaliadwy.
Bydd y mesurau arbed ynni yma’n lleihau biliau ynni clybiau’n sylweddol, gan olygu eu bod yn llawer mwy cynaliadwy yn ariannol ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu gweithgareddau fforddiadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi gymaint gan eu cymunedau.
Ar gyfer beth fydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio?
Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo. Mae’r prosiectau ar gamau amrywiol o gael eu cwblhau, ac o’r 58 o glybiau:
- Mae 47 o glybiau'n bwriadu gosod paneli solar
- Mae 26 o glybiau'n bwriadu gosod goleuadau LED
- Mae 22 clwb yn bwriadu gosod neu uwchraddio eu system gwresogi
- Mae 11 clwb yn bwriadu gosod neu uwchraddio system inswleiddio eu hadeilad
Pa chwaraeon fydd yn elwa o'r cyllid?
Roedd unrhyw glwb chwaraeon a chanddo ei adeilad eu hun, neu brydles o fwy na deng mlynedd, yn gallu gwneud cais am gyllid gan y Grant Arbed Ynni, sy’n golygu y bydd amrywiaeth eang o chwaraeon yn elwa o’r cyllid, gan gynnwys:
- Rygbi
- Pêl-droed
- Bowls
- Tennis
- Sboncen
- Criced
- Bocsio
- Hwylio
- Golff
- Dawnsio
- Gymnasteg
- Rhwyfo
Y 57 clwb a dderbyniodd Grantiau Arbed Ynni ym mis Chwefror 2024...
Blaenau Gwent
Clwb Rygbi Glynebwy
Dyfarnwyd £22,000 i'r clwb osod goleuadau LED, gan gynnwys yn y mannau eistedd i’r cyhoedd wylio.
Pen-y-bont ar Ogwr
Clwb bocsio Dreigiau Cwm Ogwr
Dyfarnwyd £20,480 i'r clwb osod paneli solar ar y tu allan i'w adeilad i helpu i leihau costau ynni, a system wresogi newydd ar gyfer y brif gampfa.
Caerffili
Clwb Bowls Parc Bedwellte
Bydd £9,918 o gyllid yn mynd tuag at baneli solar i helpu i leihau ôl troed carbon y clwb a thorri ei filiau ynni.
Clwb Pêl-droed Llanbradach
Dyfarnwyd £5,353 i'r clwb osod 12 panel solar.
Academi Calzaghe
Dyfarnwyd £25,000 i'r academi osod deunydd insiwleiddio llofft a waliau, ochr yn ochr â phaneli solar.
Caerdydd
Clwb Sboncen Caerdydd
Bydd grant o £17,596 yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar ar do'r clwb ynghyd â storfa batri.
Clwb Bocsio Pheonix Llanrhymni
Dyfarnwyd £13,176 i'r clwb osod paneli solar.
Sir Gaerfyrddin
Ysgol Gymnasteg Sir Gaerfyrddin
Bydd dyfarniad o £25,000 yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar i alluogi’r clwb fforddio ynni.
Clwb Criced Hendy-gwyn ar Daf
Dyfarnwyd £23,360 i osod paneli solar gyda system batri ar gyfer gwresogi, a thwll turio.
Clwb Rygbi Llangennech
Dyfarnwyd £8,352 i osod paneli solar ar y tŷ clwb.
Clwb Golff Caerfyrddin
Dyfarnwyd £22,720 i'r clwb osod paneli solar ar do'r tŷ clwb.
Ceredigion
Cymdeithas Maes Chwarae Rhydypennau
Dyfarnwyd £25,000 i'r clwb osod system wresogi a dŵr poeth newydd yn eu clwb.
Clwb Golff Aberystwyth
Dyfarnwyd £17,916 i'r clwb i osod paneli solar ar eu tŷ clwb, a fydd yn lleihau costau ynni’r adeilad.
Conwy
Clwb Golff Llandudno (Maesdu) Cyf
Dyfarnwyd £23,880 i greu twll turio, a all gronni hyd at 20,000 litr y dydd.
Clwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy
Bydd y clwb yn defnyddio grant o £25,000 i newid ei hen system wresogi gyda dewisiadau eraill modern, arbed ynni.
Sir Ddinbych
Clwb Criced Llanelwy
Gan fod gan y clwb baneli solar eisoes, bydd grant o £7,323 yn cael ei ddefnyddio i brynu cyfleusterau storio batris a fydd yn eu galluogi i arbed eu hynni solar a hefyd gwerthu'r swm dros ben yn ôl i'r grid.
Clwb Rygbi’r Rhyl
Dyfarnwyd £20,473 i'r clwb osod paneli solar ar y tŷ clwb.
Sir y Fflint
Clwb Criced Pontblyddyn
Bydd £15,890 yn mynd tuag at osod paneli solar gyda batris i storio trydan dros ben.
Clwb Golff Penarlâg
Bydd £22,996 yn cael ei ddefnyddio i osod system newydd i ddal ac ailgylchu dŵr glaw fel y gellir ei ddefnyddio i olchi'r peiriannau amrywiol a ddefnyddir yn y clwb golff.
Gwynedd
Clwb Hwylio Port Dinorwig
Dyfarnwyd £21,003 i'r clwb i osod goleuadau arbed ynni a phaneli solar.
Clwb Pêl-droed Pwllheli
Gyda grant o £19,999, bydd y clwb yn gosod paneli solar a ffynonellau dŵr poeth a gwresogi newydd.
Nantporth CIC
Dyfarnwyd £15,264 i osod goleuadau LED arbed ynni newydd yn Stadiwm Nantporth.
Ynys Môn
Canolfan Biwmares
Gyda grant o £24,800, bydd goleuadau LED, system wresogi newydd, tapiau awyrydd, a thoiledau fflysio deuol yn cael eu gosod yn y ganolfan hamdden hon.
Merthyr Tudful
Clwb Golff Whitehall
Bydd dyfarniad o £1600 yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio goleuadau’r clwb i rai LED.
Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens a George
Dyfarnwyd £16,800 i'r ymddiriedolaeth, a fydd yn cael ei ddefnyddio i brynu paneli solar a goleuadau LED ar gyfer Canolfan Gymunedol Dowlais.
Clwb Rygbi Cefn Coed
Dyfarnwyd £5,200 i'r clwb osod goleuadau LED.
Sir Fynwy
Clwb Rygbi Brynbuga
Bydd £2,800 o arian yn mynd tuag at ailosod holl oleuadau’r clwb i rai LED.
Clwb Rhwyfo Trefynwy
Bydd £2,634 o gyllid yn cael ei ddefnyddio i osod goleuadau LED a synwyryddion symudiad newydd yn nhŷ cychod y clwb.
Cymdeithas Chwaraeon Trefynwy
Bydd grant o £19,071 yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar ar Faes Chwaraeon Trefynwy.
Clwb Criced y Fenni
Dyfarnwyd £21,214 i osod paneli solar ynghyd â storfa batris, uwchraddio eu system inswleiddio’r to, goleuadau LED a system oeri newydd yn y seler.
Castell-nedd Port Talbot
Clwb Criced Port Talbot
Dyfarnwyd £15,836 i'r clwb gyfrannu at brynu paneli solar, system wresogi wedi'i huwchraddio a goleuadau LED.
Clwb Rygbi Blaendulais
Dyfarnwyd £17,940 i'r clwb osod boeler a system wresogi newydd, goleuadau LED ac insiwleiddio ar gyfer y safle.
Casnewydd
Clwb Racedi Sboncen Casnewydd
Bydd £17,822 yn cael ei ddefnyddio i osod goleuadau LED arbed ynni newydd ar gyfer pedwar cwrt sboncen y clwb.
Clwb Tenis Lawnt Parc Stow
Bydd £25,000 o gyllid yn mynd tuag at ffenestri a drysau arbed ynni, goleuadau LED a system wresogi newydd.
Sir Benfro
ABC Penfro a Doc Penfro
Bydd £21,194 o arian yn mynd tuag at osod paneli solar yn y clwb.
Clwb Rygbi Arberth
Dyfarnwyd £25,000 i osod ffynonellau gwres a dŵr poeth arbed ynni newydd yn y clwb.
Chwaraeon Cymunedol Arberth a'r Cylch
Dyfarnwyd £19,622 i uwchraddio Bloomfield House, gan gynnwys goleuadau LED, uwchraddio boeler a phaneli solar.
Clwb Hwylio Neyland
Bydd £2,172 yn cael ei ddefnyddio i osod cawodydd trydan arbed ynni, a goleuadau LED yn y clwb.
Powys
Grŵp Canolfan Gymunedol Ystradgynlais
Bydd y ganolfan gymunedol yn defnyddio grant o £24,000 i osod paneli solar.
Clwb Golff y Trallwng
Dyfarnwyd £16,000 i'r clwb, a fydd yn mynd tuag at osod paneli solar ger y clwb, a gwelliannau i’r system wresogi.
Clwb Bowlio Machynlleth
Dyfarnwyd £2,509 i osod system wresogi fodern a goleuadau LED gyda synwyryddion symudiad yn yr adeilad.
Clwb Pêl-droed Llandrindod
Bydd grant o £24,000 yn mynd tuag at osod cladin allanol a drws ffrynt newydd a fydd yn galluogi’r clwb i leihau eu cyfraddau ynni uchel.
Clwb Golff Aberdyfi
Dyfarnwyd £5892 i'r clwb i'w galluogi i brynu a gosod goleuadau LED yn lle'r hen oleuadau.
Rhondda Cynon Taf
Clwb Tennis y Rhondda
Bydd £22,569 o gyllid yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar yn y clwb.
Clwb Bowls Thomastown
Bydd dyfarniad o £3,010 yn ariannu’r gwaith o uwchraddio goleuadau LED gyda synwyryddion symudiad a gosod gwydrau dwbl ar ffenestri’r clwb.
Clwb Rygbi Tonyrefail
Bydd £4,700 o gyllid yn mynd tuag at osod goleuadau LED gyda synwyryddion symudiad a gosod gwresogyddion eco yn lle'r gwresogyddion dŵr presennol.
Clwb Phoenix Dance & Gymnastics
Dyfarnwyd £25,000 i'r clwb i osod paneli solar ar eu hadeilad, a fydd yn lleihau costau rhedeg bob dydd yr adeilad.
Abertawe
Tennis Abertawe 365
Bydd dyfarniad o £25,000 yn cael ei ddefnyddio i osod goleuadau LED gyda synwyryddion symudiad ledled yr adeilad.
Grŵp Bryn Road o Glybiau Bowlio
Bydd £4,520 o gyllid yn cael ei ddefnyddio i newid y drysau presennol a gosod goleuadau LED gyda synwyryddion symudiad.
Clwb Criced Ynystawe
Dyfarnwyd £25,000 i fynd tuag at osod paneli solar yn y clwb.
Tor-faen
Clwb Golff Pontnewydd
Bydd £19,826 o'r Grant Arbed Ynni yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar ar y clwb.
Clwb Bowls Blaenafon
Dyfarnwyd £4,752 i'r clwb i osod goleuadau LED.
Bro Morgannwg
Clwb Rygbi Old Penarthians
Bydd grant o £22,176 yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar ar do tŷ’r clwb.
Clwb Athletau'r Bont-faen a'r Cylch
Bydd clwb tennis Y Bont-faen a’r Cylch yn defnyddio ei grant o £2,261 i osod system ddarllen INTEC ddigyswllt sy’n caniatáu i aelodau’r clwb dalu am y llifoleuadau gyda cherdyn debyd neu gredyd i atal llifoleuadau rhag cael eu defnyddio’n ddiangen neu eu gadael ymlaen pan nad oes angen.
Wrecsam
Sefydliad Lles Glowyr Llai
Mae’r adeilad yn gartref i glybiau pêl-droed, criced a bowls, a bydd £25,000 o arian yn mynd tuag at osod paneli solar a system wresogi newydd.
Clwb Bowlio Garden Village
Bydd £624 o gyllid yn cael ei ddefnyddio i wella’r system dŵr poeth ac i ddarparu dŵr poeth yn nhoiledau’r dynion yn y clwb.
Y 58 clwb a dderbyniodd Grantiau Arbed Ynni ym mis Ebrill 2024...
Caerffili
Clwb Bowls Bedwas a Threthomas
Mae Clwb Bowls Bedwas a Threthomas yn amcangyfrif y bydd ei grant o £9,756 i brynu paneli solar a storfa batris yn arbed swm aruthrol o £74,000 iddo dros 25 mlynedd.
Clwb Rygbi Senghenydd
Wedi’u cyllido diolch i Grant Arbed Ynni o £15,680, bydd y paneli solar newydd yng Nghlwb Rygbi Senghennydd yn lleihau ôl troed carbon y clwb a’r costau ynni yn y tymor hir, gan helpu’r clwb i barhau i dyfu a chefnogi ei gymuned.
Sir Gaerfyrddin
Clwb Rygbi Llanymddyfri
Gosododd y clwb rygbi yma baneli solar yn eu lle tua deng mlynedd yn ôl, sy’n gweithio’n dda. Mae wedi cael grant o £15,034 i osod mwy o baneli solar yn eu lle, a storfa batris er mwyn cronni’r pŵer dros ben mae’n ei gynhyrchu.
Ceredigion
Clwb Golff Cilgwyn
Bydd grant o £13,880 yn cael ei ddefnyddio gan y clwb golff yma yn Llanbedr Pont Steffan i helpu i gyllido paneli solar a storfa batris, gwaith inswleiddio atig a goleuadau LED newydd ynghyd â synwyryddion ar gyfer y clwb. Bydd hefyd yn gosod system cynaeafu dŵr glaw yn ei lle, a fydd yn lleihau ei ddibyniaeth ar ddŵr o’r prif gyflenwad ar gyfer golchi peiriannau a dyfrio’r lawntiau ar adegau o sychder. Bydd yr holl fesurau yma’n rhoi'r clwb mewn sefyllfa gref i oroesi pwysau ariannol ac amgylcheddol yn y dyfodol.
Sir y Fflint
Clwb Golff yr Wyddgrug
Y llynedd, gosododd y clwb baneli solar yn eu lle sy'n cynhyrchu arbedion ynni da, ond dim digon o ynni dros ben i ddefnyddio'r storfa batris a osodwyd yn ei lle ganddo hefyd. Nawr, diolch i Grant Arbed Ynni o £13,666, bydd y clwb yn gosod 16 panel arall yn eu lle ac yn dyblu ei storfa batris. Mae’n bwriadu defnyddio'r ynni dros ben i wefru ei fflyd o wyth bygi golff, sy’n cael eu defnyddio yn ddyddiol gan aelodau ac ymwelwyr. Bydd ei grant hefyd yn ei alluogi i osod goleuadau LED ynni-effeithlon yn eu lle.
Gwynedd
Clwb Chwaraeon Pwllheli
Mae biliau trydan a nwy blynyddol y clwb aml-chwaraeon yma tua £20,000 ar hyn o bryd. Bydd gosod paneli solar a phwmp gwres ffynhonnell aer yn eu lle, gyda chymorth Grant Arbed Ynni o £24,440, yn helpu i wneud y clwb yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ariannol am flynyddoedd lawer i ddod.
Ynys Môn
Clwb Criced Porthaethwy
Yr unig glwb criced ar Ynys Môn. Mae gan Glwb Criced Porthaethwy gynlluniau cyffrous i uwchraddio ei gyfleusterau fel ei fod yn gallu gwneud mwy fyth i ddiwallu anghenion ei gymuned leol. Bydd Grant Arbed Ynni o £21,055 yn mynd tuag at osod paneli solar a gwydrau trebl yn eu lle ym mhafiliwn y clwb.
Merthyr Tudful
Clwb Pêl Droed Tref Merthyr
Wrth i’r clwb geisio lleihau ei ddefnydd o danwydd ffosil, bydd grant o £5,952 yn mynd tuag at y gost o brynu boeler nwy cyfradd effeithlonrwydd ynni ‘A’, synwyryddion symudiad ac insiwleiddio pibellau agored yn ei gae ym Mharc Penydarren.
Clwb Golff Castell Morlais
Wedi’i leoli mewn llecyn anghysbell i’r gogledd o Ferthyr Tudful, nid oes gan y clwb golff yma gyflenwad nwy uniongyrchol ar hyn o bryd ac mae’n dibynnu ar hen systemau gwresogi tanwydd olew ar gyfer dŵr poeth a gwres canolog. Fodd bynnag, mae ganddo baneli solar eisoes, felly bydd yn defnyddio grant o £25,000 i gysylltu’r paneli hynny â system wresogi a dŵr newydd sbon. Bydd hefyd yn prynu storfa batris i ddal unrhyw bŵer gormodol sy’n cael ei gynhyrchu gan y paneli a bydd yn gwneud rhywfaint o waith inswleiddio hefyd.
Castell-nedd Port Talbot
Clwb Pêl Droed Briton Ferry Llansawel
Mae biliau trydan a nwy y clwb pêl droed yma wedi dyblu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae ei fil dŵr ddeg gwaith yn uwch. Bydd Grant Arbed Ynni o £24,995 yn mynd tuag at brynu boeler ynni effeithlon newydd, a hefyd rheiddiaduron newydd, fel bod posib ailwampio'r system gwres canolog sy'n gwasanaethu’r clwb, y caffi a’r ystafelloedd newid. Bydd tapiau atal dŵr yn cael eu gosod yn lle'r holl dapiau yn y cyfleuster, a bydd pennau’r cawodydd yn yr ystafelloedd newid yn cael eu newid am osodiadau pwysedd uchel newydd sy'n arbed dŵr.
Clwb Bechgyn a Merched Giants Grave
Ychydig i fyny'r ffordd o Glwb Pêl Droed Briton Ferry Llansawel, mae'r clwb pêl droed cymunedol yma i'r de o Gastell-nedd yn un o'r 10% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Bydd Grant Arbed Ynni o £22,902 yn cyllido'r gwaith o osod paneli solar yn eu lle, gan helpu'r clwb i ddelio â biliau ynni sy'n codi'n aruthrol, er mwyn iddo allu parhau i ddarparu gweithgareddau fforddiadwy i'w gymuned leol.
Clwb Pêl Droed Cwmafan
Yng Nghwm Afan, ychydig i'r gogledd o Bort Talbot, mae'r clwb yma wedi bod yn darparu cyfleoedd chwaraeon ers dros 30 mlynedd. Yn wyneb prisiau ynni cynyddol, roedd y clwb yn awyddus i edrych ar opsiynau ar gyfer lleihau ei filiau. Bydd yn defnyddio grant o £13,000 i helpu i dalu am osod paneli solar yn eu lle ac mae’n rhagweld cael elw ar y buddsoddiad yma o fewn pum mlynedd.
Sir Benfro
Clwb Pêl Droed a Chwaraeon Abergwaun
Mae'r clwb pêl droed yma yn Sir Benfro wedi derbyn grant o £10,888 i helpu i gyllido nifer o welliannau Inswleiddio yn ogystal â system wresogi newydd. Bydd hefyd yn prynu batri panel solar i storio mwy o'r pŵer dros ben sy’n cael ei gynhyrchu gan ei baneli solar presennol a osodwyd yn eu lle yn 2022.
Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Kingsmoore
Bydd grant o £16,201 yn cael ei ddefnyddio i gyllido paneli solar, a hefyd storfa batris, y mae’r clwb yn rhagweld fydd yn darparu dros 50% o’i anghenion ynni. Bydd hyn yn cyfrannu llawer tuag at helpu’r clwb i barhau i aros ar agor a gwasanaethu’r gymuned leol.
Clwb Hwylio Sir Benfro
Mae Clwb Hwylio Sir Benfro yn disgwyl gosod 35 o baneli solar yn eu lle, a hefyd storfa batris, i leihau ei filiau ynni yn sylweddol. Mae wedi derbyn Grant Arbed Ynni o £15,146.
Powys
Clwb Golff Llandrindod
Gyda tho adeilad y clwb yn wynebu tua’r de, wedi’i leoli heb rwystrau yn uchel i fyny ar ochr bryn, mae Clwb Golff Llandrindod mewn lleoliad perffaith i wneud defnydd o’r paneli solar y bydd yn eu prynu gyda’i grant o £20,774.
Rhondda Cynon Taf
Clwb Rygbi Beddau
Bydd Clwb Rygbi Beddau, sydd wedi bod yn weithredol ers dros 125 o flynyddoedd, yn defnyddio grant o £15,635 i osod paneli solar yn eu lle a fydd yn ei wneud yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir. Gyda chostau is, mae'r clwb yn edrych ymlaen at fod ar agor am oriau hirach ac ar gael yn well i'r gymuned leol.
Abertawe
Clwb Rygbi Penlan
Bydd y clwb rygbi yma yn Abertawe yn defnyddio ei grant o £11,600 i wneud nifer o welliannau arbed ynni yn ei glwb 43 oed. Bydd drysau a ffenestri newydd yn cael eu gosod yn eu lle i arbed gwres yn well, a bydd gosodiadau golau LED newydd a phwmp gwres ffynhonnell daear newydd yn lleihau ei filiau ynni.
Bro Morgannwg
Clwb Bowls Dinas Powys
Fel cymaint o glybiau eraill, mae costau ynni cynyddol wedi bod yn straen enfawr ar gyllid Clwb Bowls Dinas Powys, felly mae’n gyffrous am ddefnyddio grant o £14,598 i ddiogelu ei ddyfodol yn y tymor hir. Bydd yn gosod paneli solar, goleuadau LED a gwresogydd dŵr trydan 80-litr yn eu lle i wneud defnydd o'r paneli solar yn lle ei foeler dŵr poeth nwy. Mae ei Arolwg Ynni yn rhagweld y bydd y gwelliannau yn arwain at arbedion o £51,250 dros 20 mlynedd.
Clwb Bowls Romilly y Barri
Mae’r clwb bowls prysur yma ym Mro Morgannwg yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau cymunedol hefyd ar gyfer gweithgareddau sy’n amrywio o ioga i reiki. Oherwydd bod y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn, bydd gosod paneli solar a storfa batris yn eu lle, diolch i grant o £13,041, yn arwain at arbedion enfawr. Mewn gwirionedd, o gyfuno hyn â’r ffaith eu bod hefyd wedi gosod gwydr dwbl, goleuadau LED a system wresogi trydan newydd yn eu lle yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r clwb yn rhagweld y bydd ei ddefnydd o drydan o’r prif gyflenwad yn sero cyn bo hir!
Clwb Criced y Fro
I'r gorllewin o'r Bont-faen, ym mhentref Corntown, mae Clwb Criced y Fro hefyd yn cofleidio paneli solar. Mae wedi cael y grant uchafswm o £25,000 i gyllido paneli solar a storfa batris a fydd yn lleihau ei filiau cyfleustodau yn sylweddol.
Wrecsam
Clwb Criced Parc Gwersyllt
Bydd grant o £13,904 yn galluogi’r clwb i brynu paneli solar, a hefyd storfa batris, ac mae’n amcangyfrif y bydd yn arbed tua £5,000 iddo bob blwyddyn. Bydd y grant hefyd yn cyllido ‘goleuadau is-goch goddefol’ mewn rhai ardaloedd ar draws ei adeilad lle nad oes angen goleuadau cyson, yn ogystal â ‘thechnoleg seler glyfar’ sy’n ddull mwy ynni-effeithlon o gadw ei seler yn oer ar gyfer storio cwrw.