Main Content CTA Title

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. 97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed ynni i’w heiddo chwaraeon.

Ar ôl ei lwyddiant yn 2023/24, agorwyd y Grant Arbed Ynni unwaith eto i glybiau yng Nghymru ym mis Mai 2024. Eleni, mae £1.7m wedi'i ddyfarnu i 97 o glybiau chwaraeon ar draws y 22 Awdurdod Lleol.

Ar gyfer beth fydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio?

Bydd y grant yn galluogi'r clybiau hyn i wneud gwelliannau arbed ynni, ac mae’r prosiectau'n amrywio yn dibynnu ar ba uwchraddio fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'r clwb neu'r cyfleuster.

  • Bydd 27 o glybiau yn defnyddio eu cyllid i uwchraddio eu systemau gwresogi neu ddŵr poeth i opsiynau mwy ecogyfeillgar.
  • Bydd 5 clwb yn gosod ffenestri a drysau newydd yn eu hadeiladau, a bydd 12 clwb yn gosod inswleiddiad i leihau colli gwres.
  • Bydd 20 clwb yn gosod goleuadau LED yn eu lle i leihau eu defnydd o ynni.
  • Bydd 70 o glybiau’n defnyddio’r grant i osod paneli solar yn eu heiddo, a bydd 3 chlwb oedd â phaneli solar eisoes yn eu defnyddio i brynu batris storio.
  • Bydd 4 clwb yn cyllido datrysiadau dŵr cynaliadwy gan gynnwys tyllau turio a systemau casglu dŵr glaw.

Pa chwaraeon fydd yn elwa o'r cyllid?

Er mwyn i glybiau fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid iddynt fod â’u hadeiladau eu hunain gyda phrydles o 10 mlynedd neu fwy. Roedd nifer enfawr o glybiau’n bodloni’r gofynion hyn, a rhoddwyd cyllid i’r chwaraeon canlynol:

  • BMX
  • Bowlio
  • Bocsio
  • Criced
  • Pêl Droed
  • Golff
  • Gymnasteg
  • Rhwyfo
  • Rygbi
  • Sboncen
  • Tennis

Mae nifer o gyfleusterau aml-chwaraeon wedi derbyn Grantiau Arbed Ynni hefyd, a fydd yn cefnogi llu o wahanol weithgareddau i fod yn fwy cynaliadwy ar gyfer eu cymunedau lleol.

Yr 97 o glybiau a dderbyniodd Grantiau Arbed Ynni 

Blaenau Gwent

  • Bydd CIC AB Boxing and Fitness yng Nglynebwy yn defnyddio eu grant o £19,651 i wneud diweddariadau i inswleiddio eu hadeilad yn well. Bydd goleuadau hefyd yn cael eu huwchraddio ym mhob rhan o’r clwb i LEDs ynni-effeithlon.
  • Fel cymaint o glybiau eraill, mae biliau ynni cynyddol wedi bod yn ergyd drom i Glwb Rygbi Beaufort. Bydd y clwb poblogaidd hwn yng Nglynebwy yn defnyddio grant o £18,863 i osod paneli solar yn eu lle a fydd yn helpu i leihau eu costau cyfleustodau dros nifer o flynyddoedd. Drwy ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol, byddant hefyd yn gallu cadw’r ffioedd am logi eu cyfleusterau i’r gymuned leol am bris fforddiadwy.
  • Bydd Clwb Pêl Droed Nantyglo yn defnyddio grant o £19,340 i osod paneli solar ar do adeilad y clwb ym Mharc Duffryn yn y Blaenau i leihau allyriadau carbon ac i helpu i’w gwneud yn fwy sefydlog yn ariannol.

Pen-y-bont ar Ogwr

  • Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Clwb Criced Maesteg wedi cael gwelliannau amrywiol er mwyn hybu apêl y clwb a chael mwy o bobl leol i chwarae criced. Fodd bynnag, mae'r clwb wedi teimlo pwysau biliau ynni cynyddol, felly bydd Grant Arbed Ynni o £23,550 i osod paneli solar yn eu lle yn gwneud gwahaniaeth mawr.
  • Mae cynaliadwyedd yn ffocws allweddol i Glwb Rygbi Porthcawl. Mae'r clwb wedi prynu system boeler ynni-effeithlon yn y gorffennol, wedi uwchraddio'r goleuadau yn yr adeilad ac wedi gosod llifoleuadau ynni-effeithlon ar gyfer eu meysydd chwarae. Nawr, diolch i grant o £16,928, byddant yn gosod paneli solar ar do’r clwb.
  • Ar ôl gwasanaethu'r gymuned leol am fwy na 40 mlynedd, mae Clwb Sboncen Maesteg ar fin dod yn un o'r cyfleusterau mwyaf ynni-effeithlon yng Nghymru. Diolch i Grant Arbed Ynni o £25,000 - yr uchafswm a ddyfarnwyd gan Chwaraeon Cymru - bydd paneli solar yn cael eu gosod yn eu lle, bydd goleuadau fflworoleuol yn cael eu newid am LEDs ynni-effeithlon ac i sicrhau’r arbedion ynni gorau posib bydd system wresogi parthau’n cael ei gosod yn ei lle.
  • Bydd Clwb Golff y Pîl a Chynffig yn gosod paneli solar ar adeilad y clwb i leihau eu hôl troed carbon a lleihau costau cyfleustodau, diolch i £25,000 o gyllid.

Caerffili 

  • Er mwyn darparu ar gyfer anghenion ynni eu hadeilad, bydd Clwb Rygbi Penallta yn defnyddio uchafswm grant o £25,000 i osod paneli solar yn eu lle.
  • Clwb arall fydd yn elwa o osod paneli solar yn eu lle yw Clwb Criced Tref Y Coed Duon, sydd wedi derbyn grant o £20,632.
  • Bydd biliau ynni Clwb Rygbi’r Coed Duon yn cael eu lleihau’n sylweddol o filoedd o bunnoedd bob blwyddyn diolch i osod paneli solar yn eu lle. Mae'r clwb wedi derbyn grant o £20,174.
  • Mae ABC Gelligaer a'r Cylch yn cymryd camau enfawr i ddod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ariannol. Bydd y clwb yn defnyddio grant o £24,868 i osod paneli solar, gwydr dwbl ac unedau gwresogi ac oeri newydd yn eu lle a fydd yn rhedeg oddi ar y pŵer solar i wresogi’r gampfa yn ystod y misoedd oerach ac i’w hoeri yn ystod yr haf.
  • Fel llawer o glybiau eraill, mae'r cynnydd mewn biliau ynni wedi bygwth bodolaeth Clwb Rygbi Bargoed. Er mwyn gwarchod ei ddyfodol fel rhan annatod o'r gymuned leol, bydd grant o £25,000 yn cael ei ddefnyddio i gyllido paneli solar, uwchraddio’r boeler, a gosod system oeri newydd yn ei lle ar gyfer eu hystafell storio.
  • Bydd goleuadau LED ynni-effeithlon yn cael eu gosod ym mhob rhan o Glwb Rygbi Pontllanfraith diolch i Grant Arbed Ynni o £1,200.

Caerdydd 

  • Gan ddefnyddio grant o £25,000, bydd system casglu dŵr glaw yn cael ei gosod yn ei lle y Ganolfan Rasio BMX newydd yn Llanrhymni, Caerdydd i leihau costau gweithredu ac i ddarparu ffynhonnell gynaliadwy o ddŵr ar gyfer cynnal a chadw’r traciau a thirlunio.
  • Bydd grant o £25,000 yn galluogi Clwb Golff Radur i newid ei system boeler hen ffasiwn am un newydd ynni-effeithlon.
  • Mae Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Rygbi Gogledd Llandaf yn disgwyl i'w bil trydan misol gael ei haneru diolch i osod paneli solar yn eu lle. Bydd eu grant o £10,195 hefyd yn cyllido gwelliannau i inswleiddio nenfwd a seler. Gyda llai o gostau, bydd gan y clwb fwy o arian ar gael i wneud gwelliannau eraill i'w adeilad er mwyn rhoi profiad gwell fyth i’w aelodau.
  • Mae grant o £23,091 wedi’i ddyfarnu i Glwb Tennis Lawnt Radur i dalu am osod paneli solar yn eu lle a fydd yn cynhyrchu digon o ynni i bweru llifoleuadau’r clwb.
  • Clwb arall fydd yn elwa o baneli solar yw Cosmos Gogledd Caerdydd, sydd wedi derbyn grant o £11,130 i osod paneli ar do Ystafelloedd Newid Parc Llanisien.
  • Bydd y biliau ynni yn cael eu lleihau yng Nghlwb Hamdden Rhiwbeina diolch i osod paneli solar yn eu lle ac ychwanegu rheolyddion gwresogi parthol ar gyfer prif adeiladau ac adeiladau allanol y clwb sy’n cael eu defnyddio ar gyfer sboncen, tennis, tennis bwrdd a bowlio dan do. Dyfarnwyd uchafswm grant o £25,000 i'r clwb.
  • Yn glwb bocsio ffyniannus yn un o’r cymunedau sy’n cael ei thanwasanaethu fwyaf yn Ne Cymru, mae Apollos ABC yn gosod paneli solar yn eu lle i’w helpu i barhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol. Mae'r clwb wedi derbyn grant o £19,908.

Sir Gaerfyrddin 

  • Dyfarnwyd £25,000 i Ysgol Gymnasteg Sir Gaerfyrddin i brynu batris paneli solar i'w galluogi i storio mwy o ynni. Bydd waliau ychwanegol gydag inswleiddiad yn cael eu hychwanegu i'w galluogi i rannu ardaloedd a'u gwresogi ar wahân.
  • Bydd Clwb Bowlio Caerfyrddin yn defnyddio £15,526 i osod paneli solar yn eu lle. Ar ôl gweld cynnydd o 300% yn eu costau gwresogi, bydd y paneli solar yn lleihau eu costau rhedeg ac yn galluogi iddynt barhau i gynnig lleoliad i drigolion Caerfyrddin chwarae bowls.
  • Er mwyn gwneud gwelliannau arbed ynni i'w gyfleusterau, dyfarnwyd £25,000 i Glwb Tennis a Sboncen Llanelli ar gyfer gosod paneli solar yn eu lle, a fydd yn golygu bod costau ei gyfleustodau'n lleihau ac y bydd yn gallu parhau i gynnig gweithgareddau fforddiadwy i'r gymuned.
  • Bydd Clwb Pêl Droed Rhydaman yn defnyddio £24,285 o gyllid ar gyfer gosod paneli solar yn eu lle, a fydd yn lleihau ôl troed carbon y clwb yn sylweddol drwy ei alluogi i gynhyrchu a defnyddio ei ynni gwyrdd ei hun. Bydd y paneli solar hefyd yn sicrhau bod biliau ynni’r clwb yn haneru!
  • Gyda grant o £15,480, bydd Clwb Rygbi Trimsaran yn gosod paneli solar ar adeilad y clwb, a fydd yn helpu i leihau biliau ynni cynyddol y clwb.
  • Yng Nghlwb Criced Dafen, bydd £23,913 o gyllid yn mynd tuag at osod paneli solar ar adeilad y clwb i helpu i leihau ei filiau ynni uchel.

Ceredigion

  • Derbyniodd Clwb Rygbi Aberteifi £21,000 o'r Grant Arbed Ynni i uwchraddio ei systemau presennol, paneli solar a goleuadau LED i leihau costau ynni a dod yn glwb mwy cynaliadwy. Ei nod yw gwneud rhedeg y clwb yn fwy fforddiadwy, a fydd yn caniatáu iddo gefnogi'r gymuned yn well.
  • I gefnogi ei nod o fod yn fwy ynni-effeithlon, dyfarnwyd £20,258 o gyllid i Glwb Pêl Droed Ffostrasol Wanderers i uwchraddio ei danciau dŵr, gosod paneli solar yn eu lle ac inswleiddio ei gyfleusterau yn well.
  • Diolch i £17,767 o gyllid, bydd boeler a system wresogi newydd, goleuadau LED gyda synwyryddion ac inswleiddiad yn yr atig yn cael eu gosod yng Nghlwb Bowlio Llanbedr Pont Steffan, i helpu i leihau costau ynni a biliau gwresogi.
  • Er mwyn lleihau ei ôl troed carbon a’i gostau trydan a gwresogi uchel, dyfarnwyd £25,000 i Glwb Pêl Droed Penrhyncoch i osod paneli solar ar do ei ystafelloedd newid, a hefyd inswleiddio ffenestri newydd.
  • Gyda grant o £2,762, bydd y biliau ynni yn lleihau’n fawr yng NghlwbPêl Droed Aberystwyth diolch i osod switshys amseru effeithlon ar gyfer gwresogyddion yn y clwb, ochr yn ochr â system rheoli tymheredd.

Conwy

  • Bydd SRA Bae Cinmel a Thowyn yn defnyddio £25,000 i osod paneli solar yn eu lle i'w helpu i arbed ynni a lleihau ei allyriadau carbon.
  • I helpu gyda chynnal a chadw’r cae a thwf mewn biliau fel nwy, trydan a dŵr, bydd Clwb Pêl Droed Phoenix Penmaenmawr yn defnyddio £23,963 o gyllid i osod paneli solar, tyllau turio a darpariaethau gwresogi yn eu lle.

Sir Ddinbych

  • Drwy ddefnyddio £25,000 o gyllid, bydd Clwb Rygbi Dinbych yn lleihau costau ynni, yn gwella cynaliadwyedd ac yn gwella profiad yr aelodau drwy osod paneli solar ac inswleiddiad yn ei gyfleusterau.
  • Gan ddefnyddio £23,600 i osod paneli solar yn eu lle, bydd Clwb Pêl Droed Tref Dinbych yn defnyddio'r arian sy’n cael ei arbed ar filiau ynni i ostwng ffioedd a gwneud ei weithgareddau'n fwy hygyrch a fforddiadwy i'r gymuned ehangach.

Sir y Fflint

  • Bydd paneli solar, goleuadau LED, inswleiddiad a darpariaethau gwresogi yn cael eu gosod yng Nghlwb Criced Carmel a'r Cylch diolch i £19,598 o gyllid i helpu i leihau costau ynni a'i ôl troed carbon.
  • Er mwyn lleihau'r defnydd o ynni o amgylch y caeau, derbyniodd Clwb Pêl Droed Tref y Fflint £20,605 i osod paneli solar yn eu lle.
  • Bydd ffaniau nenfwd dadhaenu’n cael eu gosod yn eu lle yng Nghlwb Gymnasteg Delyn gyda chymorth £2,160 o gyllid i helpu i leihau costau tanwydd a thrydan a chreu amgylchedd cyfforddus i gyfranogwyr drwy gynnal tymheredd cyson.
  • Er mwyn lleihau biliau ynni a gwresogi, dyfarnwyd £12,540 i Glwb Bocsio Shotton i osod paneli solar a gwresogyddion yn eu lle.

Gwynedd

  • Bydd Clwb Hwylio Dyfi yn defnyddio £24,581 o'r Grant Arbed Ynni i osod paneli solar ar adeilad y clwb a fydd yn lleihau costau ynni'r clwb yn fawr. Bydd y cyllid hefyd yn mynd tuag at uwchraddio ei oleuadau presennol i LEDs.
  • Diolch i £23,950 o gyllid, bydd Clwb Criced a Bowls Bethesda yn gosod paneli solar ac inswleiddiad yn eu lle i wella effeithlonrwydd ynni’r adeilad.
  • I helpu gyda’i nod o gyrraedd sero net, bydd Clwb Rygbi’r Bala yn defnyddio £24,451 o gyllid i osod paneli solar yn eu lle a fydd yn rhoi arbediad ynni o hyd at £3000 y flwyddyn iddo. Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi gosod inswleiddiad yn ei le yn y clwb.
  • Bydd Clwb Golff Caernarfon yn defnyddio £25,000 o gyllid i osod paneli solar yn eu lle i leihau eu biliau ynni a chadw costau aelodaeth yn fforddiadwy.

Merthyr Tudful

  • Bydd £21,429 o gyllid yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar ym Mhafiliwn I.C.I ym Merthyr Tudful, cartref Clwb Pêl Droed Seintiau Merthyr. Bydd y paneli solar yn cefnogi'r clwb i ostwng ei filiau trydan a'i alluogi i gadw'r cyfleuster yn gynnes i ddefnyddwyr.
  • Bydd Clwb Rygbi Dowlais yn gosod paneli solar ar ei adeilad diolch i £24,800 o gyllid a fydd yn cefnogi'r clwb i ddod yn hunangynhaliol.
  • Yng Nghlwb Rygbi Bedlinog, bydd £14,620 yn mynd tuag at uwchraddio’r system wresogi a newid y goleuadau presennol am LEDs i wella effeithlonrwydd ynni’r clwb.

Sir Fynwy

  • Bydd £16,744 o gyllid yn galluogi Clwb Athletau Brynbuga i osod paneli solar ar adeilad y clwb tennis.
  • Bydd Clwb Pêl Droed Tref Caldicot yn defnyddio £20,000 o gyllid i osod paneli solar ar y clwb cymdeithasol, gan ostwng ei gostau cyfleustodau a gwella ei gynaliadwyedd amgylcheddol.
  • Yng Nghlwb Criced Sudbrook, bydd £25,000 yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar yn eu lle, uwchraddio hen foeleri aneffeithlon a chynyddu’r inswleiddiad a gollwyd yn y clwb er mwyn lleihau ei ôl troed carbon a lleihau biliau ynni. Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi'r clwb i newid y goleuadau presennol am oleuadau LED, gan leihau ei filiau ynni ymhellach.
  • Bydd £24,479 o gyllid yn cael ei ddefnyddio yng Nghlwb Bowlio Cymunedol Gilwern i wella effeithlonrwydd ynni ei bafiliwn. Bydd gosod paneli solar, goleuadau LED, inswleiddiad a system dŵr poeth newydd yn eu lle yn lleihau biliau’r clwb.
  • Gyda £18,156 o gyllid, bydd Clwb Golff Sir Fynwy yn gosod system wresogi ynni effeithlon yn ei lle, yn lle hen foeler nwy, i gadw’r adeilad yn gynnes ac i leihau biliau ynni ac allyriadau carbon hefyd.

Castell-nedd Port Talbot

  • Yng Nghlwb Criced Ynysygerwn, bydd £18,950 yn mynd tuag at osod paneli solar ar yr adeilad. Bydd y paneli solar yn cefnogi'r clwb i ddod yn fwy cynaliadwy ac yn lleihau ei gostau ynni.
  • Mae Clwb Pêl Droed Lido Afan wrthi'n adnewyddu ei ystafelloedd newid a bydd yn defnyddio £25,000 ychwanegol o'r Grant Arbed Ynni i osod paneli solar ar yr adeilad ar ei newydd wedd.

Casnewydd

  • Bydd £20,000 yn cyllido gosod paneli solar yn eu lle yng Nghlwb Golff Parc Tredegar, sy'n rhagweld arbedion trydan o fwy na £130,000 dros 25 mlynedd.
  • Yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Whitehead, bydd paneli solar yn cael eu gosod yn eu lle i wella ei gynaliadwyedd diolch i £18,960 o gyllid.
  • Bydd £18,945 o gyllid yn cael ei ddefnyddio yng Nghlwb Rygbi Caerllion i osod paneli solar yn eu lle ac i uwchraddio ei system wresogi. Mae'r clwb yn gobeithio y bydd yr arbedion ynni yn ei alluogi i gynnig mwy o sesiynau i bobl yn y gymuned.

Sir Benfro

  • Bydd Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Hook yn defnyddio £16,238 o gyllid i osod paneli solar ar yr adeilad, gan leihau ei ôl troed carbon.
  • Bydd £25,000 o gyllid yn mynd tuag at osod paneli solar yng Nghlwb Golff Aberdaugleddau, i gefnogi ei nod o leihau costau ynni a dod yn hunangynhaliol fel clwb yn y pen draw.
  • Bydd Clwb Rygbi Penfro yn gosod paneli solar ar ei adeilad er mwyn lleihau ei ôl troed carbon a lleihau costau cyfleustodau, diolch i £25,000 o gyllid.
  • Yng Nghlwb Criced Penfro, bydd £1,037 o'r Grant Arbed Ynni yn mynd tuag at uwchraddio goleuadau yn y prif bafiliwn. Bydd newid hen oleuadau halogen neu fflworoleuol am LEDs yn gwella effeithlonrwydd ynni'r clwb ac yn lleihau ei filiau trydan.
  • Bydd Clwb Rygbi Hwlffordd yn defnyddio £12,544 o gyllid i osod inswleiddiad atig yn ei adeilad a’i ystafelloedd newid i leihau biliau gwresogi a gwella cynaliadwyedd y clwb.
  • Bydd Clwb Pêl Droed Heol Clarbeston yn gosod paneli solar ar adeilad ei ystafell newid ganolog a'r storfa offer diolch i £14,531 o gronfa'r Grant Arbed Ynni.
  • Mae Clwb Pêl Droed a Chriced Caeriw wedi derbyn y £25,000 llawn o gyllid i ddiweddaru ei systemau gwresogi a dŵr poeth presennol i ddewisiadau amgen mwy cynaliadwy, newid y goleuadau am oleuadau LED a gosod paneli solar yn adeilad y clwb. Bydd y newidiadau hyn yn cefnogi'r clwb i leihau ei filiau ynni a dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Powys

  • Yng Nghlwb Clwb Bowlio Llanandras, bydd £13,065 yn cael ei ddefnyddio i osod goleuadau LED yn lle’r goleuadau presennol ac i osod paneli solar yn eu lle. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu'r clwb i arbed ynni.
  • Bydd £20,526 yn cael ei ddefnyddio yng Nghlwb Golff St Giles i osod paneli solar a goleuadau LED yn yr adeilad.
  • Bydd Clwb Bowlio Llandrindod yn defnyddio £21,130 i uwchraddio ei oleuadau presennol i LEDs ac i osod paneli solar ar yr adeilad, a fydd yn gwneud iawn sylweddol am ddefnydd ynni presennol y clwb.
  • Mae Clwb Tennis y Drenewydd yn adeilad pren heb unrhyw wres. Gyda £2,866 o gyllid, bydd yn gosod ffenestri a drysau newydd yn lle’r rhai presennol er mwyn gwella tymheredd yr adeilad a lleihau’r angen am wresogyddion gofod trydan.
  • Bydd £2,154 yn cael ei ddefnyddio yng Nghlwb Criced Y Trallwng i wella ei system wresogi aneffeithlon bresennol gyda phedwar gwresogydd trydan ynni-effeithlon.
  • Diolch i grant o £24,158 o gronfa’r Grant Arbed Ynni, bydd Clwb Rygbi Cobra ym Meifod yn gosod paneli solar yn eu lle ac yn prynu batris storio i gwrdd â'r galw am ynni gyda'r nos.
  • Bydd Clwb Rygbi Aberhonddu yn gosod paneli solar ar do adeilad y clwb diolch i grant o £18,727. Bydd y paneli solar yn helpu'r clwb i ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol.
  • Mae adeilad y clwb yng Nghlwb Golff Cradoc yn cael ei gynhesu ar hyn o bryd gan hen foeler olew. Gyda £17,760 o gyllid, byddant yn gosod system wresogi newydd, ynni-effeithlon ar y safle.
  • Er mwyn helpu i frwydro yn erbyn biliau ynni cynyddol, bydd ClwbPêl Droed St Andrews Llanandras yn defnyddio £15,798 o gyllid i osod paneli solar ar adeilad y clwb.

Rhondda Cynon Taf

  • Yng Nghlwb Golff Pontypridd, bydd £15,475 yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio'r system wresogi bresennol sy'n gwresogi'r adeilad cyfan gyda fersiwn newydd, effeithlon a all gynhesu rhai rhannau o'r clwb.
  • Bydd Cymdeithas Chwaraeon Cymunedol Y Rhigos yn defnyddio £19,360 o gyllid i osod paneli solar ar do'r neuadd chwaraeon i leihau ei allyriadau carbon ac i arbed arian.
  • Bydd £2,800 o gyllid yn mynd tuag at osod system wresogi newydd yn lle hen foeleri aneffeithlon yng Nghlwb Rygbi Ystrad Rhondda a fydd yn ei helpu i dorri costau a dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Abertawe

  • Ychydig o inswleiddiad sydd yn adeilad Clwb Hwylio’r Mwmbwls, mae’r boeler yn methu ac mae’n talu biliau uchel. Diolch i £17,143 o gyllid bydd yn gosod paneli solar yn eu lle, yn uwchraddio ei systemau gwresogi a dŵr poeth, ac yn gwneud y clwb yn fwy ecogyfeillgar fyth gyda goleuadau LED newydd.
  • Yng Nghlwb Criced Gorseinon, bydd £6,887 yn cael ei ddefnyddio i osod system casglu dŵr glaw yn ei lle. Bydd y dŵr fydd yn cael ei gasglu’n cael ei ddefnyddio i ddyfrio’r sgwâr criced, gan arbed y clwb rhag gorfod defnyddio’r tap sy’n cael ei fwydo o’r prif gyflenwad dros y misoedd sychach.
  • Bydd £25,000 o gyllid yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar ar yr adeilad yng Nghlwb Golff Mond Valley, gan leihau ei allyriadau carbon ac arbed arian i'r clwb.
  • Bydd Clwb Rygbi Uplands Abertawe yn gosod goleuadau LED arbed ynni yn eu lle yn lle ei oleuadau presennol ac yn gosod modelau newydd, mwy effeithlon yn lle eu boeleri nwy, diolch i £11,366 o gronfa'r Grant Arbed Ynni.
  • Bydd £25,000 o gyllid yn mynd tuag at osod paneli solar ar adeilad Clwb Pêl Droed Treforys, ynghyd â gwelliannau arbed ynni eraill i’r insiwleiddio a’r ffynonellau gwresogi a dŵr poeth.

Torfaen

  • Bydd Clwb Pêl Droed Iau Griffithstown yn defnyddio £433 o gyllid i osod goleuadau LED cynaliadwy yn eu lle yn lle'r goleuadau presennol.
  • Mae Coed Eva Athletic Seniors wrthi’n adeiladu ystafelloedd newid newydd a byddant yn defnyddio £16,325 o gyllid gan Chwaraeon Cymru i osod paneli solar yn eu lle i wella eu heffeithlonrwydd ynni.
  • Bydd £19,999 yn mynd tuag at osod paneli solar yng Nghlwb Chwaraeon a Chymuned Ponthir, gan arbed arian i'r clwb a lleihau ei effaith amgylcheddol.
  • Gosodwyd paneli solar yn flaenorol yng Nghlwb Pêl Droed Blaenafon Blues, a byddant yn defnyddio £18,100 o gyllid i ychwanegu batris storio, gan alluogi iddynt storio mwy o ynni ar gyfer yr amseroedd y mae ei angen fwyaf. Byddant hefyd yn uwchraddio eu gwresogyddion i fodelau mwy cynaliadwy ac yn newid y goleuadau presennol am LEDs.
  • Mae Clwb Criced Pontnewydd wedi derbyn £21,404, a fydd yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar ar adeilad y clwb.
  • Yng Nghlwb Criced Croesyceiliog, bydd £19,660 o gyllid yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar ar yr adeilad mawr, sydd hefyd yn cefnogi nifer o ddigwyddiadau cymunedol. Bydd hyn yn cefnogi'r clwb i leihau ei filiau ynni ac yn galluogi'r gymuned gyfan i ddod yn fwy cynaliadwy.
  • Bydd adeilad y clwb yng Nghlwb Pêl Droed Croesyceiliog yn cael paneli solar, diolch i £23,501 o gyllid, a fydd yn helpu’r clwb i arbed arian ar ei filiau ynni.

Bro Morgannwg

  • Bydd £19,734 yn cael ei ddefnyddio yng Nghlwb Pêl Droed Caerau Elái i osod paneli solar ar yr adeilad, a fydd yn ei alluogi i ostwng ei filiau a pharhau i ddarparu sesiynau am ddim dros wyliau hanner tymor.
  • Bydd Clwb Bowlio Millwood yn gosod paneli solar ar ei adeilad, gan leihau ei ôl troed carbon, diolch i £18,658 o gyllid. Bydd hefyd yn uwchraddio'r system wresogi i fersiwn fwy cynaliadwy.
  • Gyda £24,544 o gyllid, bydd Clwb Racedi Sboncen y Bont-faen yn gosod ffynonellau gwresogi a dŵr poeth mwy cynaliadwy, ffenestri a drysau newydd, a phaneli solar yn ei adeilad. Bydd y gwelliannau hyn yn ei helpu i gadw'r adeilad yn gynnes mewn ffordd gynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol.
  • Ar hyn o bryd, nid oes gan Glwb Tennis Windsor ym Mhenarth unrhyw wres yn ei adeilad. Gyda £4,424 o gronfa'r Grant Arbed Ynni, bydd y clwb yn gosod system wresogi gynaliadwy yn ei lle. Bydd y cyllid hefyd yn mynd tuag at gasgen dŵr glaw fawr a fydd yn galluogi casglu dŵr glaw ar gyfer dyfrio tiroedd y clwb.

Wrecsam

  • Yng Nghanolfan Chwaraeon Brymbo, bydd £9,950 yn cael ei ddefnyddio i osod boeler arbed ynni newydd yn ei le ar gyfer gwres a dŵr poeth.

Ynys Môn

  • Bydd Clwb Gymnasteg Ynys Môn yn defnyddio £4,862 o gyllid i osod goleuadau LED ynni-effeithlon yn yr adeilad yn lle'r goleuadau presennol.
  • Bydd £16,850 o gyllid yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar yn eu lle yng Nghlwb Pêl Droed Pentraeth. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi'r clwb i osod goleuadau LED yn yr adeilad yn lle'r goleuadau presennol.
  • Yng Nghlwb Golff Caergybi, gosodwyd paneli solar yn eu lle yn gynharach eleni. Bydd y clwb yn defnyddio £20,269 o gyllid ar gyfer batris storio i storio ynni dros ben ac i osod boeler ynni-effeithlon newydd yn yr eiddo.

Bydd 

Clwb Golff Porth Llechog

 yn defnyddio £24,947 i osod paneli solar ar y ddaear i leihau biliau ynni’r clwb a’i helpu i ddod yn fwy cynaliadwy. 

Newyddion Diweddaraf

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy

Rhowch gynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiad nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Ydych chi’n meddwl rhoi cynnig ar nofio dŵr oer mewn sesiwn nofio Nadoligaidd yng Nghymru?

Darllen Mwy