Mae academi dartiau’n boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc wrth i effaith Luke Littler gydio yn nhref fechan Cwmcarn, ger Caerffili.
Gyda help llaw gan y Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru, mae Academi Dartiau Dragon Chasers yn taro’r targed; gan godi lefelau hyder, gwella sgiliau rhifedd a gwasanaethu fel hwb cymunedol i bobl ifanc.
Yn ôl yn 2024, roedd grŵp o dadau, sy’n hyfforddwyr rygbi iau, eisiau ehangu’r gweithgareddau chwaraeon oedd ar gael i bobl ifanc yr ardal. Roeddent yn awyddus i sicrhau bod pobl ifanc leol o bob gallu yn medru dod at ei gilydd a chwarae camp oedd yn cynnig cae chwarae teg, a’r penderfyniad oedd dartiau.
Cyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer offer dartiau
Roedd y syniad yn un penigamp – yn ystod y misoedd dilynol, ymunodd mwy a mwy o blant i gymryd rhan. Roedd mwy o blant, wrth gwrs, yn golygu bod angen mwy o offer, a dyna pryd camodd y Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru ar yr oci gyda chyllid hanfodol. Sicrhaodd y clwb £1,000 i gael mwy o fyrddau dartiau a’r cylch o’u hamgylch, goleuadau a matiau.
Dywedodd Nathan Dark, a helpodd i sefydlu’r Academi: “Roedd yn faich ariannol cyn i’r Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru helpu. Ond diolch i’r cyllid, rydyn ni wedi gallu dyblu ein niferoedd a rhoi cyfleoedd i fwy o bobl ifanc na fydden nhw’n eu cael fel arall.”