Skip to main content

Adele Nicoll – Yr athletwraig amryddawn sy’n methu rhoi’r gorau i roi cynnig ar wahanol chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Adele Nicoll – Yr athletwraig amryddawn sy’n methu rhoi’r gorau i roi cynnig ar wahanol chwaraeon

Mae Adele Nicoll eisoes yn athletwraig ryngwladol mewn dwy gamp, ond mae’n ymddangos fel bet rhesymol y bydd hi un diwrnod yn gwneud hynny yn hatrig. 

Dywedodd Adele helo wrth bobsled ar ôl dod i'r amlwg gyntaf fel athletwraig trac a maes ddawnus ac mae hi'n teimlo bod rhoi cynnig ar chwaraeon newydd yn rhoi’r un boddhad ag ennill.

Bydd y ferch 25 oed o’r Trallwng yn cystadlu dros Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham mewn taflu maen, camp y mae ei chynnydd cyflym diweddar ynddi yn ei gosod ymhlith y ffefrynnau am fedal.

Athletau oedd ei champ gyntaf, ond wedyn arweiniodd ei hyblygrwydd - yn ogystal â'i chwilfrydedd - at roi cynnig ar fobsled a dim ond dwy flynedd yn ddiweddarach roedd yn cystadlu fel rhan o garfan Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Beijing nôl ym mis Chwefror.

Felly, fel y rhan fwyaf o bobl brwd am chwaraeon sy’n cael gwefr drwy ychwanegu camp newydd at eu casgliad, oes ganddi unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ehangu ei gorwelion ymhellach?

“’Fyddwn i ddim yn dweud fy mod i’n chwilio am drydedd camp,” meddai.

“Fe gefais i fy holi’n ddiweddar am y dyfodol ac i mi dydi fy nyfodol i ddim yn gorffen gyda’r ddwy gamp yma yn unig.

“Dydw i ddim yn gwybod beth fydd y drydedd gamp. Rydw i’n awyddus iawn i aros yn y byd athletau am gylch Gemau’r Gymanwlad arall o leiaf hyd at 2026 ac wedyn Gemau’r Haf.

“Fe hoffwn i hefyd fod yng Ngemau Olympaidd yr Haf yn 2028.

“Ac wedyn byddaf yn gweld sut bydd fy mywyd i ar y pwynt hwnnw. Ond fe hoffwn i gymryd rhan mewn camp arall yn broffesiynol cyn ymddeol.”

Wrth baratoi ar gyfer Birmingham 2022 eleni, fe roddodd Adele - sy'n cystadlu dros Glwb Athletau enwog Birchfield - berfformiad ei bywyd i ennill y teitl 'taflu maen' ym Mhencampwriaethau Athletau Muller y DU, bythefnos yn unig ar ôl cipio teitl Cymru.

Taflodd yr athletwraig sy’n aelod o Dîm Cymru y maen 42 centimetr ymhellach nag yr oedd hi wedi'i wneud erioed o'r blaen i gofrestru gorau personol newydd o 17.59m.

Adele Nicoll yn hyfforddi trwy wthio bobsleigh ar drac mewn gardd
Adele Nicoll yn hyfforddi ar gyfer ei champ arall - y bobsleigh
Dydi fy nyfodol i ddim yn gorffen gyda’r ddwy gamp yma yn unig. Fe hoffwn i gymryd rhan mewn camp arall yn broffesiynol cyn ymddeol.
Adele Nicoll

Drwy wneud hynny, sicrhaodd Adele ei bod yn rhagori ar ddau gystadleuydd gorau’r Deyrnas Unedig gan sichrau safle’r fedal aur ar bodiwm y bencampwriaeth.

Roedd yr emosiwn o ddod yn bencampwraig Prydain yn enfawr, ond felly hefyd y wefr o gael gwybod y byddai'n cystadlu dros Gymru yn ei Gemau Cymanwlad cyntaf.

“Rydw i newydd roi cymaint o flynyddoedd o waith caled i mewn i hyn. Mae llawer o isafbwyntiau wedi bod ar hyd y ffordd.

“Mae hynny mor emosiynol ac mor heriol yn feddyliol – dal ati bob tro ar ôl wynebu ergyd galed.

“Rydw i mor falch ohono i fy hun am ddod yn ôl bob tro ac wedyn profi ’mod i’n deilwng o'r lle yma.

“Mae pobl yn gofyn i mi beth ydi’r cyflawniad rydw i falchaf ohono. Yn amlwg, mynd i’r Gemau Olympaidd fel rhan o Dîm Prydain Fawr ac ennill medal arian yng Nghwpan y Byd yn y bobsled – mae’r rhain yn fomentau anhygoel.

“Ond dim ond ers rhai blynyddoedd ydw i wedi bod yn ymwneud â bobsled, rydw i wedi bod yn gobeithio am gystadlu yn y Gemau Cymanwlad dros Gymru er pan oeddwn i tua naw neu 10 oed.

“Roedd yn gyflawniad enfawr i mi ac roedd yn golygu popeth.”

Mae Adele hefyd yn awyddus i drosglwyddo ei sgiliau athletau i ieuenctid canolbarth Cymru sydd eisiau bod yn rhan o’r byd trac a chae.   

Mae’r gyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal gwersyll hyfforddi haf i bobl ifanc rhwng pump a 18 oed yn Ysgol Uwchradd y Trallwng rhwng Awst 30 a Medi 2.

“Y cyngor gorau o fy mhrofiad i mewn chwaraeon yw i bobl ifanc fod y fersiwn gorau ohonyn nhw eu hunain a pheidio â phoeni am eraill.

“Rydw i’n meddwl, beth bynnag rydych chi’n ei fwynhau’n naturiol a beth bynnag rydych chi’n ei wneud orau, yna dylech chi weithio ar eich cryfderau a pheidio â cheisio bod yn rhywun arall, na cheisio bod yn athletwr gwahanol.

“Rydw i’n meddwl fy mod i wedi treulio llawer o amser yn meddwl, ‘O, mam bach, mae rhai o’r merched yma gymaint yn fwy, gymaint yn gryfach, mae angen i mi dyfu, cryfhau.’

“Ond mewn gwirionedd, pan ddaeth hynny i ben, fe ddechreuodd fy nghryfderau i ddangos trwodd eto, sef y cyflymder a’r pŵer.

“Dydw i byth yn mynd i fod mor fawr a chryf â rhai pobl eraill yn y taflu, ond dydyn nhw byth yn mynd i fod mor gyflym ag ydw i.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy