Fe wnaethom gyhoeddi ym mis Awst bod y corff rheoli cenedlaethol yn wynebu dadgydnabod ar ôl i adolygiad ganfod nad oedd yn bodloni meini prawf Polisi Cydnabod y Cynghorau Chwaraeon.
Mae pedwar Cyngor Chwaraeon y Gwledydd Cartref yn adolygu ar hyn o bryd yr wybodaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas Ju Jitsu Prydain Fawr (BJJAGB) fel rhan o adolygiad cydnabyddiaeth corff rheoli cenedlaethol (CRhC) o'r sefydliad.
Yn dilyn adolygiad cydnabyddiaeth cynhwysfawr a gynhaliwyd gan Sport England yn unol â meini prawf Polisi Cydnabod y Cynghorau Chwaraeon, penderfynodd Byrddau Sport England, sportscotland, Chwaraeon Cymru a Sport Northern Ireland yn unfrydol dderbyn canfyddiadau’r adolygiad a symud ymlaen i ddadgydnabod y BJJAGB.
Wrth gyfathrebu’r penderfyniad ym mis Awst eleni, rhoddwyd dyddiad cau i’r BJJAGB, sef Hydref 1, i gyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth berthnasol yn dangos ei fod yn gallu bodloni meini prawf y polisi er mwyn cynnal ei statws fel CRhC.
Mae unrhyw benderfyniad i ddadgydnabod CRhC yn un y mae'n rhaid i bob un o Gynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref perthnasol ei wneud.
O’r herwydd, bydd Byrddau’r pedwar sefydliad perthnasol – Sport England, Chwaraeon Cymru, Sport Northern Ireland a sportscotland – yn cyfarfod yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod yr wybodaeth a gyflwynwyd.
Bydd y canlyniad yn cael ei gyfathrebu maes o law.