Skip to main content

Agor drysau newydd i denis bwrdd ym Merthyr Tudful

Mae treftadaeth Merthyr Tudful o ran chwaraeon yn gyfoethog ac yn adnabyddus, ond mae pennod newydd yn cael ei hysgrifennu diolch i bartneriaeth arloesol rhwng coleg y dref a Thennis Bwrdd Cymru.

Yn fuan, gallai plant enwogion yr hen dref ddiwydiannol ym maes chwaraeon - fel y bocswyr Howards Winstone a Johnny Owen, y judoka Natalie Powell, y pêl-droediwr Mark Pembridge a'r chwaraewraig pêl-rwyd Chelsea Lewis - ymuno â'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr tennis bwrdd rhyngwladol.

Ochr yn ochr â chreu canolfan perfformiad uchel ac academi tennis bwrdd newydd yng Ngholeg Merthyr, mae clwb cymunedol cynhwysol hefyd wedi'i sefydlu yno ar gyfer chwaraewyr o bob oed a gallu.

Dechreuodd rhai o chwaraewyr tennis bwrdd gorau Cymru ddefnyddio cyfleuster hyfforddi penodedig Coleg Merthyr yn y cyfnod cyn Gemau'r Gymanwlad yr haf diwethaf.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi lansiwyd y clwb cymunedol, sy’n canolbwyntio ar ddarparu mwy o gyfleoedd chwaraeon mewn ardal lle gallant fod yn anodd dod o hyd iddynt. Mae wedi bod yn ganlyniad cydweithio gyda phartneriaid eraill megis Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Gemau Stryd a Merthyr Actif.

Bydd yn cael ei redeg bob nos Fercher, ac yn elwa o fewnbwn hyfforddi Callum Evans, chwaraewr gwrywaidd gorau Cymru.

Fe wnaeth Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 Chwaraeon Cymru – a oedd yn casglu barn plant ledled Cymru am yr hyn maent yn ei hoffi a’r hyn nad ydynt yn ei hoffi am chwaraeon – ganfod bod galw mawr am dennis bwrdd ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae canlyniadau'r arolwg yn awgrymu bod 1,700 o blant a phobl ifanc yn y sir a fyddai'n hoffi mwy o gyfleoedd i chwarae'r gamp.

Mae Coleg Merthyr – sydd eisoes yn cynnal academi golff – yn gobeithio y bydd ei academi tennis bwrdd nid yn unig yn newid byd i chwaraewyr ifanc, ond hefyd yn newid canfyddiadau o'r dref ei hun.

"Mae'r adeilad yn creu argraff fawr ar rieni sy'n dod â'u plant i ymweld â'r coleg hwn," meddai Simon Evans, cyfarwyddwr data a pherfformio.

"Byddan nhw'n dweud wrtha i eu bod nhw'n disgwyl ysgol flêr mewn ardal ddifreintiedig, ond maen nhw’n nodi bod hyn yn ffantastig. 

"Mae'n ymwneud â goresgyn y farn gynhenid honno o'r hyn y mae Merthyr yn ei olygu. Dyna'r rhwystr anoddaf sy'n ein hwynebu. Felly, mae'r uned perfformiad uchel wedi helpu i newid y canfyddiadau hynny a bydd yr academi yn gwneud yr un fath."

Ar gyfer Tennis Bwrdd Cymru, mae'r cytundeb partneriaeth gyda Choleg Merthyr yn cynnig cyfleuster hyfforddi o ansawdd uchel, sydd ar gael i'w chwaraewyr ifanc gorau, ond hefyd yn un sy'n agor ei ddrysau i'r gymuned ehangach i ddod i roi cynnig ar y gamp.

Efallai eu bod nhw'n bobl ifanc obeithiol sy'n cyrraedd ar ddydd Mercher, yn awyddus i roi cynnig ar y gêm am y tro cyntaf, neu’n oedolion sydd eisiau chwarae'r gamp am yr elfen ffitrwydd a chymdeithasu.

Rydyn ni wedi sefydlu clwb cymunedol a ffordd dda o fesur llwyddiant fydd faint sydd yma ymhen tri mis.
Owen Rodgers, prif weithredwr Tennis Bwrdd Cymru

Mae Owen Rodgers, prif weithredwr Tennis Bwrdd Cymru, yn mynnu bod yn rhaid i'r strategaeth ar gyfer datblygu'r gamp yng Nghymru wneud mwy na dim ond darparu ar gyfer y 28 clwb presennol mewn ardaloedd sy'n gymharol dda o ran mynediad i chwaraeon.

"Mae cefnogaeth ar gael i'n clybiau presennol, ond mae'n rhaid cael datblygiadau y tu allan i'r clybiau hynny hefyd - ac mae hwn y tu allan, yma ym Merthyr, lle does 'na ddim clwb tennis bwrdd wedi bod," meddai.

"Mae'n ymwneud â dod o hyd i dalent newydd a'i datblygu ar gyfer amcanion perfformiad, gan geisio helpu'r chwaraewyr hynny i fynd cyn belled ag y gallan nhw.

“Ond rydyn ni hefyd yn cyflawni ein nodau o ran amrywiaeth a chydraddoldeb. Dyna pam rydyn ni wedi cysylltu gyda sefydliadau fel Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, oherwydd eu bod yn gwneud yr union yr un gwaith."

Mae'r cynhwysion ar gyfer llwyddiant yn edrych yn addawol – neuadd a chyfleusterau modern o ansawdd uchel, egni pobl ifanc lleol, ynghyd â hyfforddwr ifanc ysbrydoledig.

"Mae gennym gyfleuster gwych yma, mae gennym y brwdfrydedd, ond roedden ni angen hyfforddwr adnabyddus - yn yr achos yma, Callum - sy'n mynd i ddenu pobl," ychwanega Owen.

"Rydyn ni wedi sefydlu clwb cymunedol a ffordd dda o fesur llwyddiant fydd faint sydd yma ymhen tri mis.

“Fe allai hyn fynd o'i le. Ond os nad ydych chi’n mynd amdani, dydych chi byth yn mynd i ddatblygu pethau ac rydyn ni'n gwybod yn bendant bod ein camp wedi wynebu problem amrywiaeth, fel rydyn ni wedi'i weld mewn campau eraill hefyd.”

I Simon Evans, mae'r potensial o ddod o hyd i'r Callum Evans nesaf - neu’r Charlotte Carey neu’r Anna Hursey, aelodau o Dîm Cymru a enillodd fedalau yng Ngemau'r Gymanwlad - yn ogystal â defnyddio tennis bwrdd er budd yr ardal a'r coleg lleol, yn ei gwneud yn werth yr ymdrech.

“Dyw llawer o'n myfyrwyr ni erioed wedi bod yng Nghaerdydd, yn anffodus, ac mae'n debyg na allen nhw fforddio'r daith i goleg yno," ychwanega Simon.

“Ond os ydyn nhw'n gallu cerdded i mewn yma a bod yr Anna nesaf, neu'r Charlotte nesaf, neu'r Callum nesaf, byddai hynny'n wych.

“Dyna sy'n bwysig i mi. Rydych chi'n rhoi'r addysg orau iddyn nhw ac yn gwella delwedd Merthyr fel tref.

"Ac rydyn ni'n rhoi cyfle i fyfyrwyr eraill yr Academi ddod i ardal na fydden nhw erioed wedi ei hystyried.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy