Skip to main content

Alisha Butchers a Jasmine Joyce yn paratoi ar gyfer eu cystadleuaeth Chwe Gwlad gyntaf fel chwaraewyr rygbi proffesiynol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Alisha Butchers a Jasmine Joyce yn paratoi ar gyfer eu cystadleuaeth Chwe Gwlad gyntaf fel chwaraewyr rygbi proffesiynol

Yn ferch fach, roedd gan Alisha Butchers freuddwyd amhosibl o fod yn chwaraewraig rygbi broffesiynol. Nawr, mae’r freuddwyd yn realiti. 

Bydd y chwaraewraig rygbi ryngwladol dros Gymru yn mynd i bencampwriaeth nesaf Chwe Gwlad y Menywod fel un o'r dwsin o chwaraewyr sydd wedi creu hanes drwy ddod y grŵp cyntaf yn y wlad o chwaraewyr proffesiynol llawn amser benywaidd.

I Butchers, roedd y penderfyniad i ddilyn gyrfa rygbi lawn amser yn haws diolch i’w chyflogwyr presennol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, lle’r oedd yn gweithio fel swyddog datblygu chwaraeon, wedi rhoi 12 mis o wyliau heb dâl iddi. 

Roedd y cyfle i gyflawni uchelgais oes, a haelioni ei chyflogwr blaenorol wrth gadw ei swydd ar agor, yn golygu ei bod yn gynnig na allai ei wrthod.

“Dyma beth rydw i wedi bod eisiau ei wneud ers i mi fod yn ferch fach," meddai Butchers.

"Pan rydych chi'n cymryd rhan mewn chwaraeon, mae hyn yn freuddwyd y mae’n rhaid i chi ei gwireddu. Allwch chi ddim dweud na. 

"Mae'n un o'r pethau hynny y mae'n rhaid i chi ei wneud, beth bynnag fo’r sefyllfa. Yn amlwg, mae'n rhaid i chi feddwl yn iawn cyn gwneud penderfyniad, ond mae'n rhaid i chi fanteisio ar y cyfle yn y pen draw.”

Felly, ynghyd ag 11 o chwaraewyr eraill – gan gynnwys ei dyweddi Jasmine Joyce – mae Butchers, sy'n 24 oed, wedi mynd amdani ac mae Undeb Rygbi Cymru yn gobeithio y bydd y ffaith bod y chwaraewyr yn gallu canolbwyntio ar rygbi yn unig yn talu ar ei ganfed mewn blwyddyn Cwpan y Byd.

Nid bod y penderfyniad yn un hawdd, o ystyried ei hymroddiad cyfartal i'w rôl flaenorol, lle’r oedd yn gweithio mewn ysgolion yn ceisio helpu plant i fod yn fwy actif.

“Roeddwn i'n gweithio fel swyddog pobl ifanc ar ochr cyfranogiad y llwybr.

"Roeddwn yn gweithio gyda Chyfnod Allweddol 2 hyd at 6ed Dosbarth. Byddwn mewn ysgolion uwchradd yn bennaf lle byddwn yn darparu gweithgareddau ar gyfer plant AAA (Anghenion Addysgol Arbennig) gan gynnal sesiynau ymgysylltu.

"Fy rôl i oedd canolbwyntio ar geisio cael plant mor actif â phosibl mewn ysgolion a gwneud llawer o waith yn y gymuned hefyd. Byddem yn gweithio mewn ardaloedd difreintiedig.

"Fe wnaethom drefnu pethau fel Haf o Hwyl, yna roeddwn yn cysylltu ag ysgolion cynradd hefyd, gan redeg gwahanol fentrau.

"Roedd yn benderfyniad enfawr gadael hynny, ond roedd fy nghyflogwyr yn deall yn iawn ac mae wedi rhoi blwyddyn o absenoldeb di-dâl i mi, i bob pwrpas. Rydw i wedi gadael y rôl yn swyddogol, ond mae gennyf gyfle i fynd yn ôl ym mis Ionawr os oes angen. Rydw i'n lwcus iawn.”

Nid dyma'r tro cyntaf i Butchers orfod gwneud penderfyniad mawr o ran ei swydd a'i rygbi.

“Ro'n i'n swyddog hwb i dîm Gleision Caerdydd, yn nhîm cymunedol y Gleision. Yna, symudais i, Jaz a Hannah Jones i Awstralia am ychydig fisoedd i chwarae. 

"Gadewais fy rôl fel swyddog hwb i fynd i chwarae i gynghrair AON  Sevens. Yna daethom yn ôl a dyna pryd y cefais fy rôl gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.”

Mae Alisha Butchers a Jasmine Joyce yn cerdded gyda'i gilydd i hyfforddiant
Chwaraewyr Rygbi Cymru a cwpl, Alisha Butchers a Jasmine Joyce. Llun: Undeb Rygbi Cymru
Dyma beth rydw i wedi bod eisiau ei wneud ers i mi fod yn ferch fach
Alisha Butchers

Erbyn mis Ionawr nesaf, bydd 12 chwaraewr Cymru sydd â chontractau llawn amser – ynghyd ag 11 arall ar gytundebau rhan-amser – wedi mynd drwy bencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd.

Byddant wedi cael blwyddyn lawn o weithio, hyfforddi a pharatoi gyda'i gilydd ar gyfer gemau, a'r gobaith yw y byddant yn gwella o ran perfformiad a chanlyniadau.

Os oes unrhyw amheuon ynghylch pa enillion y gellir eu gwneud drwy ganolbwyntio ar y gamp yn llawn amser, yna does dim rhaid edrych ymhellach na phrofiadau diweddar Butchers a Joyce.

Flwyddyn yn ôl, nid oedd gan Butchers hyd yn oed ddigon o yswiriant meddygol i dalu am lawdriniaeth ar ôl iddi anafu ei ffêr yn chwarae i’r Bristol Bears.

Nid oedd ei chytundebau clwb yn ddigon i dalu ei biliau meddygol, felly bu'n rhaid iddi gynnal proses cyllido torfol i godi'r £5,000 oedd ei angen ar gyfer y llawdriniaeth.

Ychydig wedi hynny, dychwelodd Joyce, sy'n 26 oed – chwaraewraig rygbi fenywaidd fwyaf cyffrous y byd gellid dadlau – i Gymru yn ddi-waith ar ôl bod yn chwarae i’r tîm saith bob ochr yng Ngemau Olympaidd Tokyo.

Tra oedd yn jyglo cwrs TAR a’i hymrwymiadau rygbi, gwnaeth Undeb Rygbi Cymru ymrwymiad i fuddsoddi’n sylweddol yng ngêm elitaidd y menywod a neilltuo arian ar gyfer contractau llawn amser a chadw, ynghyd ag adnoddau eraill fel staff a chefnogaeth ar bob lefel.     

Dywedodd Joyce – a ddaeth y chwaraewraig fenywaidd gyntaf i ymddangos ar glawr blaen Rugby Journal yn ddiweddar – wrth y Western Telegraph: "Mae’n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i 12 chwaraewraig fod yn llawn amser, dyna’r union beth sydd arno n ni ei angen fel carfan i symud i mewn i’r Chwe Gwlad ac yna Cwpan Rygbi’r Byd.

“Mae cyfnod cyffrous iawn o’n blaenau ni, mae’n rhywbeth rydyn ni i gyd wedi aros yn amyneddgar amdano, ac yn cael ein cyfle o’r diwedd. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fwynhau swydd fy mreuddwydion i am flwyddyn arall.”

I'r ddwy chwaraewraig - a gyhoeddodd eu bod wedi dyweddïo yn gynharach eleni - mae'r penderfyniad i ddod yn athletwyr proffesiynol llawn amser yn frawychus, ond yn gyffrous iawn.

"Mae'n golygu llawer i ni, rydw i'n credu ei fod yn gam enfawr ymlaen i'r cyfeiriad cywir ar gyfer rygbi yng Nghymru," meddai Butchers.

"Rydw i'n credu bod angen hyn yn fawr ac mae pob un ohonom ni wedi manteisio ar y cyfle. Mae'n wych ac yn gam i'r cyfeiriad iawn i ni ac rydyn ni’n edrych ymlaen.

"Y Chwe Gwlad yw fy ffocws nesaf i ac mae'n amlwg yn flwyddyn Cwpan y Byd. Rydw i'n anelu at fod y chwaraewraig rygbi orau y gallaf fod. 

"Rydw i'n hedfan i Gwpan y Byd ac yn perfformio ar lwyfan y byd, mae'n debyg. Mae gennym ni lawer o hyfforddiant ar hyn o bryd, rydyn ni yn y degfed bloc, ond yn mwynhau ein hunain.

“Rydw i'n gwireddu breuddwyd.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy