Mae From Home 2 The Games yn cael ei sbarduno'n ddigidol ac yn gweithio gyda saith llysgennad athletau a fydd yn defnyddio eu sianeli i adrodd eu straeon personol eu hunain am ymgysylltu â chwaraeon, lle mae eu siwrnai wedi mynd â hwy a rhai o'r heriau maent wedi'u hwynebu ar hyd y ffordd.
Y saith llysgennad athletau yw Adam Peaty, Ali Jawad, Bianca Walkden, Laura Muir, Kadeena Cox, Kye Whyte a Tegan Vincent-Cooke. Ymgysylltodd Cox ei hun am y tro cyntaf ag UK Sport ac EIS fel darpar athletwr yn ystod ymgyrch 2014.
Waeth beth fydd eu cynnydd ac unrhyw benderfyniadau dewis ar gyfer rhaglenni datblygu Cyrff Rheoli Cenedlaethol, bydd yr holl bobl ifanc sy'n ymgysylltu â From Home 2 The Games yn cael eu cyfeirio at sut gallent ymwneud â chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd yn eu hardaloedd a'u cymunedau lleol.
Dywedodd Adam Peaty, pencampwr Olympaidd, byd, Ewropaidd a'r Gymanwlad: "I unrhyw oedolyn ifanc sydd allan yna – beth sydd gennych chi i'w golli? Dyna'n union ddywedais i wrthyf i fy hun. Byddwch yn dysgu cymaint o bethau drwy chwaraeon nad ydych hyd yn oed yn gwybod amdanyn nhw eto oherwydd nad ydych yn adnabod eich hun eto. Os ydych chi wedi wynebu’r anhawster hwnnw o beidio â bod â digon o arian, yn methu gwneud hyn, rydw i'n credu ei fod yn gwneud y siwrnai honno ychydig yn well. Roeddwn i'n gaeth i nofio ar unwaith. Fe wnaeth fy machu i – fy nal a fy nhynnu i mewn. Fe ddechreuodd yr hoffter gynyddu’n gyflym iawn ar ôl i mi ddechrau rasio."
Ers 2007 mae UK Sport wedi gweithio mewn partneriaeth ag Athrofa Chwaraeon Lloegr a mwy na 22 o chwaraeon yn y gymuned perfformiad uchel Olympaidd a Pharalympaidd i gynnal 16 o ymgyrchoedd chwilio cenedlaethol am athletwyr y dyfodol, gan ymgysylltu â mwy nag 11,000 o bobl ifanc.
Ymhlith yr athletwyr hynny sydd wedi llwyddo i ddod drwy’r ymgyrch recriwtio ac ar y Rhaglenni o Safon Byd sy’n cael eu cyllido gan y Loteri Genedlaethol mae nifer o bencampwyr ac enillwyr medalau Olympaidd a Pharalympaidd gan gynnwys Lizzy Yarnold, Helen Glover, Lutalo Muhammad, Laura Deas, Jon-Allan Butterworth, Joanna Butterfield yn ogystal â Kadeena Cox.
Yr 19 Corff Rheoli Cenedlaethol sy'n ymwneud â From Home 2 the Games yw:
- Archery GB
- Badminton Lloegr
- GB Boccia
- GB Snowsport
- Athletau Prydain
- Canŵio Prydain
- Beicio Prydain
- Ffensio Anabledd Prydain
- Deifio Prydain
- Gymnasteg Prydain
- Tennis Bwrdd Para Prydain
- Rhwyfo Prydain
- Saethu Prydain
- Sgeleton Prydain
- Nofio Prydain
- Triathlon Prydain
- Codi Pwysau Prydain
- Y Gymdeithas Tennis Lawnt
- Pentathlon GB