Efallai bod Cymru a Chwpan Rygbi'r Byd yn hoelio sylw'r genedl gyfan bron ar hyn o bryd, ond mae cod arall y gamp yn gweithio'n galed iawn i gael ychydig o sylw hefyd.
Mae Rygbi'r Gynghrair yng Nghymru wedi wynebu her erioed i beidio â byw yng nghysgod rygbi'r undeb ac efallai mai'r tymor yma fydd y mwyaf eto os bydd tîm Warren Gatland yn mynd bob cam i'r ffeinal yn Japan.
Ond mae gan y fersiwn arall o'r gêm - un sy'n cael ei chwarae gyda 13 yn hytrach na 15 o chwaraewyr - wreiddiau dwfn yng Nghymru erbyn hyn ac mae'n gwybod sut i ddal ei thir.
Bydd tîm o Gymru sy'n cynnwys un o sêr ifanc disgleiriaf yr Uwch Gynghrair, Regan Grace, yn Awstralia y mis yma ar gyfer Cwpan y Byd y Timau Naw - fersiwn naw bob ochr o rygbi'r gynghrair - sy'n dechrau yn Sydney ar Hydref 18.
Dyma pryd bydd Cymru'n dechrau ar ei hymgyrch yn erbyn Ffrainc, gyda gemau grŵp yn erbyn Lloegr a Lebanon wedyn. Hefyd mae carfan Cymru'n cynnwys ymgyrchwyr profiadol fel Elliot Kear, Rhys Williams a Ben Flower.
Mae'n dwrnamaint newydd ac felly mae'r rhestri gemau rhyngwladol ar gyfer y fersiwn llawn 13 bob ochr o'r gêm wedi cael eu gadael yn glir - sy'n golygu nad oes gan Gymru gemau Prawf o gwbl yr hydref yma.
Ond dylai hynny roi cyfle am fwy o ffocws ar dîm rygbi'r gynghrair newydd merched Cymru, sy'n paratoi ar gyfer chwarae am y tro cyntaf yr hydref yma.
Ddydd Sadwrn Hydref 26, ar y Gnoll, Castell-nedd, bydd hanes yn cael ei greu pan fydd merched Cymru'n herio Athrawon Prydain Fawr yn eu gêm gyntaf. Mae'n garreg filltir i rygbi'r gynghrair, gydag ail gêm - a'r Prawf cap cyntaf - yn erbyn Llewesau Lloegr, ar Dachwedd 16 mae'n bur debyg, yn Leigh.
Cynhaliodd y prif hyfforddwr Craig Taylor dreialon ar gyfer mwy na 50 o chwaraewyr posib cyn dewis ei garfan o 24 o chwaraewyr.
"Rydw i wedi ymwneud â rygbi cynrychioliadol ers sawl blwyddyn bellach a hwn oedd un o'r dyddiau gorau i mi eu cael mewn treialon," meddai Taylor.
"Ar sail y diwrnod hwnnw, mae dyfodol rygbi'r gynghrair yng Nghymru'n ddisglair iawn.
"Rydw i wedi bod mewn cysylltiad â nhw i gyd yn barod, yn anfon gwaith cartref - fideos i'w gwylio ac i roi adborth. Mae pawb mor frwdfrydig."