Roedd llwybr Anna Morris i Gemau’r Gymanwlad yn bell o fod yn draddodiadol.
A hithau’n feddyg iau yn ystod pandemig Covid-19, cafodd yr athletwr o Gaerdydd daith anarferol i ddod yn feiciwr o safon fyd-eang ar ôl cael magwraeth wedi’i thrwytho mewn chwaraeon.
Cafodd Morris ei magu yng Nghaerdydd, a phan oedd yn ifanc roedd yn mwynhau pêl-rwyd, hoci, traws gwlad, gymnasteg, triathlon a thennis, ond yn rhyfedd ddigon, ni fentrodd ar y trac beicio nes ei bod yn y brifysgol.
Neidiwch ymlaen ychydig o flynyddoedd, ac mae Morris eisoes wedi gorffen yn bedwerydd yn ras tîm ymlid y merched ac fe gynrychiolodd ei gwlad eto yng Ngemau’r Gymanwlad yn y treial amser ar 4 Awst.
Er bod Morris wedi bod yn frwd dros chwaraeon ers tro byd, ni ddechreuodd feicio o ddifrif tan iddi gyrraedd y brifysgol. Felly pam yn union benderfynodd hi fynd ar y beic?
“Fe es i i Brifysgol Southampton ac roeddwn i eisiau dod o hyd i glwb triathlon. Yna, yn fy ail flwyddyn, fe wnes i ymuno â chlwb beicio’r brifysgol ochr yn ochr â’r clwb triathlon, gan fod beicio’n rhan bwysig o’r gamp ac roedd yn faes lle roedd angen i mi wella,” eglura Anna.
“Roeddwn i eisiau bod yn fwy hyderus, ac fe es i o nerth i nerth. Roedden nhw eisiau pobl ar gyfer tîm y trac ym mhencampwriaethau’r brifysgol, felly fe wnes i ddechrau cymryd rhan mewn sesiynau ar y trac.
“Dechreuodd fynd yn anodd pan oeddwn i ar leoliad yn fy nhrydedd flwyddyn yn ceisio jyglo tri chwaraeon.
“Mae’n debyg mai rhedeg oedd y peth hawsaf i’w wneud o ran amser, ond cefais drafferth gydag anaf, felly roeddwn i’n reidio’r beic yn amlach ac roeddwn i’n dal i wella, sydd bob amser yn ffordd dda o fy ysgogi.
“Rwy’n ffodus iawn ac yn ddiolchgar bod tîm beicio’r brifysgol wedi fy helpu gymaint.”
Pan raddiodd Morris, dechreuodd weithio fel meddyg iau yn ystod pandemig Covid-19, cyn cymryd seibiant haeddiannol i ganolbwyntio ar ei hangerdd arall.
“Roeddwn i’n gweithio yn 2020 a 2021, felly mae Gemau’r Gymanwlad yn nodi blwyddyn ers i mi gymryd blwyddyn allan i ganolbwyntio ar fy meicio,” meddai.
“Yn ffodus ddigon, mae wedi talu ar ei ganfed. Rydw i wedi cael llawer o brofiad, felly bydd yn rhaid i mi weld sut mae’n mynd.”
Aeth Morris i Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd ac mae nifer o gyn-fyfyrwyr yn ymuno â hi yn Nhîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad eleni.
Mae’r rhestr yn cynnwys ei chyd-fyfyriwr Elinor Barker a’i chwaer iau Megan, Jake Hayward, Bethan Davies a Luke Rowe.
Cafodd y ferch 27 oed ei hannog gan ei rhieni a’r ysgol i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon, a chafodd ei hudo pan oedd hi’n ifanc iawn.