Fel gweithgaredd perffaith ar ôl y cyfnod clo - allan yn yr awyr iach ac yn cadw pellter cymdeithasol oddi wrth dorfeydd – nid yw'n syndod bod ton newydd o bobl wedi dechrau cymryd rhan mewn chwaraeon rhwyfo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ogystal â bod wrth eu bodd gyda’r diddordeb cynyddol mewn chwaraeon dŵr o safbwynt cyfranogiad, mae Canŵio Cymru hefyd yn teimlo’n galonogol am y sgil-effeithiau y gallai'r cynnydd mewn poblogrwydd eu cael ar achos sy'n agos iawn at eu calon – yr amgylchedd.
Mae gan rwyfwyr yng Nghymru enw da am ofalu am yr amgylchedd maent yn mwynhau eu camp ynddo. Wrth gwrs, mae dyfroedd glanach yn brafiach i rwyfo ynddynt, ac mae mwy o fioamrywiaeth yn y dŵr ac ochr yn ochr ag ef yn cynnig profiad gwell yn gyffredinol.
Felly, i gyd-fynd â Diwrnod y Ddaear 2021 (22 Ebrill), mae Canŵio Cymru yn galw ar y miloedd o newydd-ddyfodiaid sy'n mentro i'r dŵr ledled Cymru y Gwanwyn yma i gynnal y traddodiad sydd wedi’i sefydlu gan rwyfwyr mwy profiadol o gario bagiau bin wrth iddynt deithio ar hyd ein dyfrffyrdd a'u llenwi gydag unrhyw sbwriel maent yn dod ar ei draws.
Annog ton newydd o rwyfwyr i gynnal traddodiadau eco-gyfeillgar

Dywedodd Alistair Dickson, Canŵ Cymru Prif Weithredwr: "Fel rhwyfwyr mae gennym ni gyfrifoldeb i helpu i warchod ein hafonydd, ein llynnoedd a’n harfordir prydferth yng Nghymru. Mae cael gwared ar sbwriel wedi bod yn nodwedd o'r gymuned rwyfo erioed, ac rydyn ni’n gobeithio yn fawr y bydd hynny'n parhau.
"Mae hefyd yn bwysig iawn i bawb fod yn ymwybodol o'r camau y gallant eu cymryd i helpu i atal anifeiliaid a phlanhigion ymledol rhag lledaenu, a all gael effeithiau trychinebus ar ein dyfrffyrdd. Mae digon o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar ein gwefan ni."
Er mwyn lleihau faint o rywogaethau annymunol sy'n ymledu rhwng gwahanol ddyfroedd, dyfarnwyd cyllid i sefydliad Canŵio Cymru gan Lywodraeth Cymru i osod gorsafoedd golchi cit newydd mewn safleoedd prysur, yn ogystal ag arian i greu llwyfannau newydd i bobl anabl yn Llandegfedd, Cosmeston, Llandysul, Plas y Brenin a Llyn Padarn, i wella hygyrchedd.
Gyda dyhead mor enfawr ymhlith pobl i fynd i mewn i ddŵr, arno neu wrth ei ymyl, mae Canŵio Cymru hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i wneud hawliau dros fynediad i ddŵr yn gliriach. Mae'n sefyllfa gymhleth, ond yn un y mae Canŵio Cymru yn benderfynol o chwarae eu rhan ynddi er mwyn sicrhau eglurder fel ei bod yn haws i bawb ddeall pa ddyfroedd gallant eu defnyddio heb gael eu herio.
Mae cynaliadwyedd wrth wraidd y dyhead hwn hefyd, fel yr esbonia Phil: "Rydyn ni’n falch iawn mai ein camp ni yw un o'r rhai gwyrddaf, ond byddai hyd yn oed yn well pe bai gan bobl fwy o ryddid i ddefnyddio'r dyfroedd sy’n agos atynt, felly rydyn ni’n pwyso am drefniadau tebyg i'r rhai sydd yn eu lle eisoes yn yr Alban."
I gael gwybod mwy am chwaraeon rhwyfo yng Nghymru, ewch i www.canoewales.com
Newyddion Diweddaraf
Out Velo yn dod â'r gymuned feicio LHDTQ+ at ei gilydd
Er ei fod yn cael ei arwain gan LHDTQ+, mae Out Velo hefyd yn agored i'r rhai nad ydyn nhw'n ystyried…
Adnodd newydd yn mapio caeau artiffisial yng Nghymru
Mae Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn falch o lansio adnodd newydd sbon ar gyfer y sector chwaraeon…
97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni
Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…