Skip to main content

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn ymweliadau ysbyty ac yn teimlo’n sâl iawn, ond mae beicio wedi bod yn ffordd iddo ddianc erioed.

Felly, pan sefydlodd y clwb beicio cynhwysol Active Wheels ym Merthyr Tudful yn 2018, dyma oedd ffordd Tomas o helpu eraill i brofi ei hoffter o feicio hefyd.

Mae uchelgeisiau Tomas wedi cael eu cefnogi’n dda gan y Loteri Genedlaethol, gyda’r clwb yn derbyn dau grant ar wahân yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, sy’n defnyddio arian y Loteri.

Mae'r grantiau - cyfanswm o £16,842 - wedi helpu i dalu am e-feiciau, beiciau cyffredin, cynhwysydd storio ac amrywiol eitemau o offer diogelwch gan gynnwys goleuadau, helmedau, cloeon a festiau llachar.

Dywedodd Tomas: "Mae Active Wheels yn darparu ar gyfer beicwyr sy'n teimlo bod y clybiau prif ffrwd presennol yn ormod braidd iddyn nhw ymuno â nhw."

Dan arweiniad gwirfoddolwyr, mae Active Wheels yn cyfarfod am daith fer ar ddyddiau Sadwrn, taith olygfaol hirach ar ddyddiau Sul, ac maen nhw hefyd yn cynnig sesiynau trac un i un yn Ysgol Uwchradd Aber Taf.

Mae holl deithiau beicio a sesiynau’r clwb wedi’u teilwra i wahanol alluoedd, a hwyl yw’r flaenoriaeth bob amser, fel yr ychwanega Tomas: “Mae ffocws cadarn ar yr elfen gymdeithasol ac rydyn ni bob amser yn trefnu stop mewn caffi ar hyd y llwybrau! Mae pob taith feicio’n cael ei dewis ar sail gallu’r grŵp ac rydyn ni’n beicio gyda’n gilydd – mae’n ymwneud â gwneud i bobl deimlo’n hyderus ac yn gyfforddus.”

Tomos Evans beicio
Tomos Evans
Aelodau Active Wheels yn beicio yn yr awyr agored
Aelodau Active Wheels yn beicio yn yr awyr agored.

Dywedodd Cadeirydd y Clwb, Phil Lewis, sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu i ddatblygu’r clwb ers iddo gymryd rhan am y tro cyntaf dair blynedd yn ôl: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cyllid rydyn ni wedi’i dderbyn gan Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol, yn ogystal â’r gefnogaeth rydyn ni wedi'i chael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ers i ni ddechrau.

“Rydyn ni’n frwd dros greu cyfleoedd i bawb fwynhau beicio. Mae croeso i bawb yn ein clwb ni. Mae tua 10% o'n beicwyr ni’n bobl ag anabledd neu wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl.

“Gall y beicwyr ddewis dod â’u beic eu hunain neu, diolch i arian y Loteri, mae ganddyn nhw’r opsiwn o fenthyca ein beiciau ni yn ogystal ag offer diogelwch.”

Phil ar ei feic
Phil Lewis, Cadeirydd y Clwb

 

Os oes gennych chi syniadau gwych a allai helpu mwy o bobl yn eich cymuned leol i fod yn actif, gallai Cronfa Cymru Actif eich cefnogi chi hefyd. Mae grantiau rhwng £300 a £50,000 ar gael i glybiau nid er elw a sefydliadau cymunedol wneud cais amdanynt.

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Olympaidd

Pan fydd Olympiaid Cymru yn camu allan ar lwyfan y byd yr haf yma, bydd byddin gyfan o wirfoddolwyr,…

Darllen Mwy

Ella Maclean-Howell: Canllaw Olympiad i Feicio Mynydd yng Nghymru

Dyma ddadansoddiad Ella o’r llwybrau beicio mynydd gorau yng Nghymru.

Darllen Mwy

Megan Barker: Sut mae chwaraeon wedi ei helpu i oresgyn ei swildod

Dywed Megan Barker fod chwaraeon wedi dysgu pwysigrwydd gwaith caled iddi, ac wedi rhoi hwb i'w hyder.

Darllen Mwy