Mae gan eithafion tywydd fel llifogydd y gaeaf a thywydd poeth yn yr haf y potensial i gael effaith niweidiol ar gyfranogiad chwaraeon, felly mae Chwaraeon Cymru yn blaenoriaethu’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd i sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd lle gall chwaraeon barhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau ein hôl troed carbon ein hunain yn ogystal ag arwain y sector chwaraeon ehangach yng Nghymru fel bod modd gwneud gwelliannau ar raddfa fwy.
I helpu gyda hyn, rydyn ni eisiau deall yn llawn anghenion y sector chwaraeon yng Nghymru fel ein bod yn gallu cefnogi clybiau a sefydliadau i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy.
Rhwng 19 Ebrill a 19 Mai rydyn ni’n gwahodd clybiau chwaraeon yng Nghymru i gwblhau arolwg byr i rannu eu barn ar y pwnc pwysig yma.
Felly, os ydych chi newydd ddechrau meddwl am gamau amgylcheddol neu fod gennych fentrau ar waith yn barod, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi, i ddarganfod yr heriau sy’n eich wynebu a sut gallwn eich cefnogi chi.
Mae'r arolwg yn cymryd tua 10 i 15 munud i'w gwblhau a bydd enw pob clwb sy'n cymryd rhan yn cael ei gynnwys mewn raffl am ddim i gael cyfle i ennill taleb gwerth £100.