Mae’r bencampwraig focsio Lauren Price wedi mynd yn ôl at ei gwreiddiau i weld sut mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddyrannu i brosiectau ar lawr gwlad gan Chwaraeon Cymru i helpu mwy o ferched i ddilyn eu breuddwydion am lwyddiant mewn chwaraeon.
I nodi pen blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 oed, ymwelodd Lauren â Dreigiau Caerffili - clwb pêl droed i ferched yn unig - yn ogystal â Chlwb Gymnasteg VGA ger Crymlyn i glywed sut mae arian y Loteri yn helpu prosiect StreetGames i wella bywydau merched ifanc drwy chwaraeon.
Wrth ddyfarnu cyllid y Loteri, naill ai yn uniongyrchol i glybiau chwaraeon neu i sefydliadau fel StreetGames, mae Chwaraeon Cymru yn blaenoriaethu ei fuddsoddiadau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau fel bod chwaraeon yn gallu cael mwy o effaith ar y gwahanol fathau o bobl sy’n cymryd rhan leiaf ar hyn o bryd, fel merched.
Fel un o athletwyr benywaidd mwyaf llwyddiannus Cymru, mae Lauren yn ysbrydoliaeth i bob merch ifanc sydd ag uchelgais yn y byd chwaraeon. Drwy gydol ei gyrfa chwaraeon ei hun, mae Lauren nid yn unig wedi goresgyn llawer o’r rhwystrau sy’n wynebu merched mewn chwaraeon, ond wedi eu chwalu.
Wrth dyfu i fyny, roedd ei mam-gu bob amser yn dweud wrthi am estyn am y lleuad a phe bai'n methu â chweit cyrraedd, y byddai'n glanio ar y sêr. Yn ddim ond wyth oed, fel rhan o brosiect ysgol, ysgrifennodd ei bod eisiau bod yn bencampwraig cicfocsio y byd, chwarae pêl droed rhyngwladol dros Gymru a mynd i’r Gemau Olympaidd.
Erbyn i Lauren fod yn 27 oed, roedd hi wedi cyflawni pob un o’i thri nod – gan orffen gyda Y fedal aur Olympaidd yna yn Tokyo – ac mae wedi ychwanegu mwy o deitlau byd at ei chyflawniadau ers symud i fyd bocsio proffesiynol.
Yn ystod ei chyfnod fel bocswraig amatur, fe wnaeth cyllid gan y Loteri Genedlaethol ysgogi ei dyhead diwyro i lwyddo.
“Diolch i’r Loteri Genedlaethol, roeddwn i ar gyflog misol felly roeddwn i’n gallu rhoi popeth i mewn i ymarfer deirgwaith y dydd a gorffwys ar benwythnosau. ‘Gwely cynnar yn ennill gornestau’ oedd fy arwyddair i.”