Mae seren rygbi'r Dreigiau Ashton Hewitt wedi ysgrifennu llythyr agored yn gwahodd eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan hiliaeth mewn chwaraeon i rannu eu profiadau fel rhan o ymgyrch #RhannwchEichStori.
Mae'r asgellwr – a dargedwyd gan y diweddaraf mewn cyfres o negeseuon hiliol ffiaidd ar twitter ar ôl i’w dîm golli yn erbyn y Sgarlets ddechrau’r flwyddyn – eisiau i eraill ymuno ag ef i gyfrannu eu barn at y prosiect arloesol sy'n ceisio creu newid ystyrlon a dileu anghydraddoldeb hiliol unwaith ac am byth.
Yn ystod y deufis diwethaf, mae ymgyrch #RhannwchEichStori wedi bod yn cynnig lle diogel i bobl rannu eu profiadau byw o anghydraddoldeb hiliol a hiliaeth mewn chwaraeon, boed fel cyfranogwyr, athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, cyflogeion neu rieni.
Cynhaliwyd cyfres o fforymau a chyfweliadau ar-lein, ac mae'r wefan www.storiesmatter.co.uk yn cael ei defnyddio i uwchlwytho straeon ysgrifenedig neu fidoes fel bod posib deall yn well y rhwystrau sy’n atal cymryd rhan mewn chwaraeon, yn ogystal â’r rhwystau sy’n atal cynnydd gyrfaol ar gyfer y rhai sydd eisiau gweithio yn y byd chwaraeon.
Bydd y wefan yn cau ddiwedd mis Ionawr ac mae Hewitt yn annog eraill i beidio â cholli'r cyfle i dynnu sylw at eu profiadau.
Comisiynwyd yr ymchwil gan Chwaraeon Cymru a chynghorau chwaraeon y gwledydd cartref eraill gan obeithio y bydd yn darparu lefel o wybodaeth sydd heb fod ar gael erioed o'r blaen, gan roi cyfle am ymdrech fwy gwybodus a chynaliadwy i fynd i'r afael yn uniongyrchol â hiliaeth.