Skip to main content

Athletau wedi rhoi cymaint mwy na medalau i James Ledger

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Athletau wedi rhoi cymaint mwy na medalau i James Ledger

Mae James Ledger wedi mynd o fod yn rhywun oedd yn poeni na fyddai chwaraeon yn addas ar ei gyfer ef efallai, i fod yn athletwr sy’n anelu at wisgo fest Prydain Fawr yn y Gemau Paralympaidd yr haf yma.

Nid yw'r trawsnewid ar gyfer y sbrintiwr 100m - sydd â nam ar ei olwg - wedi digwydd heb waith caled ac ambell rwystr ar y ffordd, ond byddai'n ei argymell i unrhyw un.

“Yn bendant roedd yna adeg yn fy mywyd i pan oeddwn i’n meddwl nad oedd chwaraeon yn mynd i fod yn rhywbeth y gallwn i gymryd rhan ynddo,” meddai James, o Dreforys yn Abertawe, a gafodd ei eni gyda choloboma dwyochrog a nystagmws, cyflyrau sy’n effeithio ar ei olwg a symudiad ei lygaid ac sydd wedi ei adael gyda llai na phump y cant o olwg.

“Doeddwn i ddim yn teimlo bod drws ar agor i mi ac mae’n debyg fy mod i braidd yn ddiamcan.

“Pan oeddwn i’n iau, doedd gen i ddim breuddwydion na dyheadau mewn gwirionedd. Roeddwn i jyst yn ceisio cuddio pwy oeddwn i a ffitio i mewn. Fe wnes i chwarae pêl droed oherwydd bod fy ffrindiau i'n chwarae, ond doeddwn i ddim yn hoffi pêl droed hyd yn oed!

“Un diwrnod, fe ddywedodd fy nhad, sydd wedi bod y model rôl mwyaf i mi, nad oedd eisiau fy ngwylio i’n cropian i mewn i dwll. Roedd eisiau i mi ddod o hyd i rywbeth oedd yn fy ngwneud i'n hapus.

“Roeddwn i’n lwcus fy mod i wedi dod o hyd i athletau yn fuan, camp unigol lle nad oedd raid i mi ddibynnu ar eraill a ’fyddwn i ddim yn sefyll allan am wneud camgymeriadau. Roedd yn ymwneud â fi a fy ngweithredoedd i.”

Yn 30 oed bellach, James yw sbrintiwr Paralympaidd T11 mwyaf blaenllaw Cymru a Phrydain Fawr, a T11 ydi’r dosbarthiad ar gyfer athletwyr sydd â nam ar eu golwg.

Mae’n cyfuno cystadlu ledled y byd gyda’i swydd fel therapydd tylino chwaraeon cymwys, ond mae’n argyhoeddedig bod chwaraeon wedi rhoi cymaint mwy iddo na dim ond rasys a medalau.

“Pe bawn i heb ddod o hyd i chwaraeon, ’fyddwn i ddim wedi dod o hyd i dawelwch meddwl a’r agwedd at fywyd sy’n fy nghadw i i edrych ymlaen at bethau,” meddai James.

“Mae bod wedi'ch cofrestru fel person dall yn dod â llawer o heriau. I mi, mae wedi ymwneud â derbyn pwy ydw i a fy anabledd.

“Mae chwaraeon wedi fy helpu i i ddod i ddeall y pethau hynny, oherwydd mae chwaraeon yn gymaint o rolyrcostyr o emosiynau, uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Mae gen i rwystredigaethau bob dydd, ond rydw i’n gwneud fy ngorau glas i ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol mewn bywyd a mynd â’r teimlad hwnnw gyda fi ar y trac.”

Mae James Ledger yn rhedeg â mwgwd dros ei lygaid wrth ddal tennyn sy'n ei gysylltu â'i redwr tywys.
James Ledger (dde) yn cystadlu gyda'i redwr tywys, Greg Kelly.
Pe bawn i heb ddod o hyd i chwaraeon, ’fyddwn i ddim wedi dod o hyd i dawelwch meddwl a’r agwedd at fywyd sy’n fy nghadw i i edrych ymlaen at bethau.
James Ledger

Beth yw sbrintio T11?

Mae natur sbrintio fel athletwr T11 wedi dysgu gwerth cydweithredu agos ac ymddiriedaeth mewn pobl eraill sy'n gweithio tuag at yr un nod i James hefyd.

T11 ydi'r dosbarthiad ar gyfer sbrintwyr sydd â nam ar y golwg cyfan gwbl bron, felly mae'r athletwyr yn rhedeg gyda mwgwd, neu sbectol ddu, gyda rhedwr tywys sy’n gallu gweld.  

“Heb y rhedwr tywys, sy’n rhedeg nesaf i ni ar dennyn, ’fydden ni ddim yn gallu cystadlu. Mae’n ymdrech tîm i raddau helaeth,” meddai James, wnaeth gynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn 2018 a Gemau Birmingham yn 2022.

“Felly, mae'n rhaid i chi ddod o hyd i sbrintiwr tywys sy'n gallu rhedeg 100m mewn 10.7 eiliad ac wedyn gweithio gyda’r rhedwr hwnnw i ddatblygu rhythm a dealltwriaeth. Mae hynny'n cymryd amser."

Therapi Tylino, Elusen a phodledu

Y tu allan i chwaraeon, mae gan James nid yn unig ei yrfa fel therapydd tylino, ond mae hefyd yn ymwneud ag amrywiol grwpiau elusennol ac mae'n gyflwynydd podlediadau medrus gyda Phodlediad Chwaraeon Anabledd Cymru.

“Mae llawer yn digwydd yn fy mywyd i y tu allan i chwaraeon, felly mae gen i gydbwysedd a digon o bethau i 'nghadw i'n brysur ac i roi ffocws i mi ar ôl i fy ngyrfa athletau ddod i ben,” meddai.

“Rydw i hefyd yn ymddiriedolwr elusen, The Rocky Road Foundation, sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl mewn chwaraeon.

“Mae hynny'n rhywbeth sy'n agos at fy nghalon i. Felly rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o hynny. Mae’n sefydliad eithaf bach ar hyn o bryd, yn ymwneud yn bennaf â champfeydd bocsio a chlybiau rygbi yn ardal Abertawe, ond rydyn ni’n gobeithio ehangu.”

Sefydlwyd The Rocky Road Foundation gan gyn-godwr pwysau Olympaidd o Gymru, Natasha Perdue, ac fe wnaeth ddeillio o'i theimladau o unigrwydd ar ôl iddi ymddeol o'i champ.

“Rydw i’n meddwl y gallwch chi gael problemau ar ôl bod yn y byd chwaraeon os nad ydych chi’n barod am hynny,” ychwanegodd James.

“I mi, mae’n ymwneud â chyfathrebu ac mae’n haws os ydych chi’n dod i arfer â chyfathrebu agored tra rydych chi dal yn y byd chwaraeon. Rydw i wedi dysgu pŵer adrodd straeon ac mae’r podlediadau’n ffurf ar hynny – yr angen dynol sylfaenol i ddod at ein gilydd a rhannu straeon am yr hyn sy’n digwydd yn ein byd ni a sut rydyn ni’n teimlo.”

O ran mabwysiadu’r agwedd honno, mae’n canmol y diweddar Anthony Hughes – un o hyfforddwyr gorau Cymru – am ei ddylanwad oddi ar y trac yn ogystal ag ar y trac.

“Anthony oedd y person cyntaf i mi ei gyfarfod erioed – heblaw am fy rhieni – oedd wir yn credu yno i,” meddai James.

“Roedd yn un mewn biliwn. Fe allai bob amser weld y person yn gyntaf, wedyn yr athletwr, yn hytrach na'r anabledd. Roedd yn gwneud i bobl weld eu bywyd eu hunain felly hefyd.”

Mae James yn credu bod adrodd straeon ei hun yn ei helpu ef a’r athletwyr cyfredol eraill mae'n siarad â nhw, ond mae'n gobeithio bod ei ymddeoliad fel athletwr yn y dyfodol pell ar hyn o bryd wrth iddo ymgeisio am le yng ngharfan Baralympaidd Prydain Fawr ar gyfer Paris.

“Rydw i’n gyffrous iawn am y tymor sydd i ddod. Rydw i eisiau bod yr athletwr T11 cyntaf o Brydain i redeg 100m mewn llai nag 11 eiliad.

“Os galla’ i wneud hynny, fe ddylwn i ennill medalau ar yr un pryd.”

 

Wedi'ch ysbrydoli gan James Ledger ac eisiau cyrraedd eich potensial mewn chwaraeon anabledd? Cysylltwch â Chwaraeon Anabledd Cymru a all eich rhoi ar ben ffordd ar eich taith chwaraeon. Neu, ewch ar y trac i ddod o hyd i glwb Athletau Cymru yn eich ardal chi.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy