Yr wythnos hon, wrth i godwyr pŵer gorau'r byd gyrraedd rowndiau terfynol y Gemau Olympaidd, mae bachgen yn ei arddegau a chanddo Syndrom Down ac a ysgrifennodd lythyr emosiynol i Chwaraeon Cymru yn ystod y cyfyngiadau symud yn sôn am golli ei ffrindiau o’r gampfa yn gosod ei fryd ar y Gemau Olympaidd Arbennig.
Mae Bleddyn Gibbs o Aberdaugleddau, bellach wedi bod yn codi pŵer ers dros ddwy flynedd. Mae gan y bachgen 16 oed Syndrom Down, cyflwr genetig y mae tua 40,000 o bobl yn y DU yn byw gydag ef. Roedd yr angen iddo warchod a'r cyfyngiadau symud parhaus drwy gydol y pandemig yn golygu nad oedd Bleddyn yn gallu mynd i’w gampfa hyfforddi cryfder arferol.
Mewn llythyr a ysgrifennodd Bleddyn i Chwaraeon Cymru yn ystod y cyfyngiadau symud, dywedodd: “Rwy'n 16 oed. Rwy'n mynd i Academi Cryfder Cymru. Y peth rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei wneud yw hyfforddi gyda fy ffrindiau. Rwyf am fod yn gryf fel The Rock eto drwy ddefnyddio’r fainc wthio, dwy law yn lân ac yn herciog, codi’r pengliniau a hongian a defnyddio’r aml-gampfa. Rwyf wedi colli fy ffrindiau gymaint, alla i ddim aros i'w gweld.”