Cyfarfod â ffrind
Os ydw i wedi trefnu cyfarfod â ffrind i fynd i redeg, neu fynd i ddosbarth gyda’n gilydd, gall meddwl am ei siomi wthio unrhyw amheuon ynglŷn â mynd allan i’r neilltu’n gyflym. Gall ymarfer corff gyda’n gilydd fod yn ffordd wych o ddal i fyny, ond hefyd dangos cefnogaeth i’n gilydd. Pwy a ŵyr – fe allen nhw fod yn brin o gymhelliad, ond mae cyfarfod yn eu helpu i fynd allan a’u cadw’n egnïol hefyd.
Dosbarth rhithwir
Os yw’n anodd i chi gyfarfod â rhywun, beth am wneud dosbarth gyda’ch gilydd yn rhithwir? Dwi wedi gwneud hyn yn aml yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gydag un o’m ffrindiau gorau sy’n byw ymhell i ffwrdd. Byddem yn cysylltu â’n gilydd trwy Zoom, ac yna’n dewis dosbarth ffitrwydd i’w wneud ar YouTube; roedd yn gymaint o hwyl i weld ein gilydd, a’n cefnogi ein gilydd mewn ffordd ddifyr ac egnïol. Mae digonedd o ddosbarthiadau da i ddewis o’u plith sy’n gallu dod yn drefn wythnosol yn gyflym, felly chwiliwch i weld beth allwch chi ddod o hyd iddo.
Ewch am 'runch'
Ond os yw’n anodd i chi wneud gweithgareddau oherwydd ymrwymiadau gwaith neu deuluol, beth am roi cynnig ar rywbeth y mae llawer o aelodau fy nghlwb rhedeg, She Runs: Caerdydd, yn ei wneud yn aml – mynd i redeg amser cinio. Os ydych yn gweithio gartref, gwisgwch eich cit yn syth yn y bore ac yna, amser cinio, ewch am dro neu rediad byr. Yn ogystal â gwneud ymdrech i fod yn fwy egnïol, bydd y seibiant i ffwrdd o’r gliniadur yn gwneud lles i chi hefyd. Roeddwn i’n gwneud hyn gyda fy nghydweithwyr pan oeddwn i’n gweithio yn Llundain, ac roedd yn ffordd arall wych o ddangos cefnogaeth i’n gilydd ar yr un pryd â bod yn egnïol – ac roedd yn gymhelliad gwych hefyd.
Heriwch y plant
Os ydych yn ceisio gweithio o amgylch plant, rydw i wedi bod allan yn rhedeg neu’n sgipio gyda fy nwy ferch, weithiau. Does dim rhaid iddo fod yn rhy bell neu’n rhy anodd, ac yn amlach na pheidio, fe allwch chi gerdded ac yna rhedeg nawr ac yn y man rhwng polion lampau, neu eu herio i wneud rasys bach – gydag addewid o fynd i’r parc i’w hysgogi!
Heriwch Eich Hun
Fy awgrym olaf yw gosod her i’ch hun, sy’n gallu helpu i’ch ysgogi a’ch annog i ganolbwyntio ar aros yn egnïol. Fel arfer, mae gen i rasys wedi’u trefnu ar hyd y flwyddyn, o bellteroedd amrywiol, ac mae’r rhain yn fy helpu i ganolbwyntio a mynd allan i redeg. Mae cynlluniau hyfforddi Soffa i 5k yn wych i ddechrau arni, ond fe allech ddechrau’n symlach drwy osod her i’ch hun o gerdded nifer benodol o gamau bob dydd neu bob wythnos. Does dim rhaid i chi redeg i gyflawni’ch camau, sy’n golygu y gallwch fynd allan am dro 15 munud ar ôl cinio neu swper ac yna gwirio faint o gamau rydych chi wedi’u gwneud. Yna, gallwch osod targed i guro’ch camau y tro nesaf yr ewch chi am dro, neu herio ffrind neu aelod o’r teulu i weld pwy sy’n gallu gwneud y nifer fwyaf o gamau mewn wythnos, pythefnos neu fis.
Mae’n siŵr eich bod wedi sylwi ar thema i’m hawgrymiadau cymhelliad erbyn hyn. Os ydych yn cael trafferth aros yn egnïol, siaradwch â ffrind sy’n agos neu ymhell i ffwrdd, i weld a hoffen nhw fod yn fwy egnïol gyda chi. Wrth geisio newid unrhyw fath o ymddygiad, yn aml gall cefnogaeth roi’r hwb sydd ei angen arnoch i gymryd y cam cyntaf.