"Mae mwy o ddisgwyliadau wrth i ni fynd drwy'r ymgyrch," meddai Giggs, a olynodd Coleman ond a fethodd fynd â Chymru i rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Rwsia.
"Ond rydyn ni wedi cael gêm gyfartal yn Azerbaijan yn y gorffennol, ac mae Croatia newydd gael gêm gyfartal yno hefyd. Felly does dim posib cymryd unrhyw beth yn ganiataol. Fedrwch chi ddim gwneud hynny yn y grŵp yma - o gwbl. Os gwnawn ni berfformio'n dda, rydw i'n meddwl y gwnawn ni ennill y ddwy gêm yma, ond rydw i'n canolbwyntio ar Azerbaijan ar hyn o bryd.
"Rhaid i chi droi fyny ar y noson ond rydyn ni'n chwarae'n dda. Mae gennym ni fomentwm a gyda pherfformiadau'r tair gêm ddiwethaf, rydw i'n meddwl, ar noson wahanol - yn enwedig yn erbyn Slofacia - y bydden ni wedi gallu cael y triphwynt.
"Mae'r tîm mewn cyflwr da ar hyn o bryd ac rydw i'n hyderus. Os gwnawn ni gymhwyso, byddai'n enfawr i bawb yn y byd pêl droed yng Nghymru. Mae'n trawsnewid popeth, fel gwelson ni dair blynedd yn ôl, ac mae'r sgil-effaith yn ymestyn ymhellach."
I ferched Cymru, mae'r gofynion yn edrych yn fwy heriol - yn enwedig gan mai dim ond y tîm ar frig y grŵp sy'n cymhwyso'n awtomatig - ond nid yw'n dasg amhosibl.
I gyrraedd rowndiau terfynol 2021 yn Lloegr, heb fynd drwy'r drws cefn, rhaid i Gymru gau'r bwlch o bedwar pwynt i ddal arweinwyr Grŵp C, Norwy, tîm oedd yn ddigon da i gyrraedd rowndiau gogynderfynol Cwpan y Byd y Merched yn Ffrainc y llynedd.
Mae'n dasg enfawr, ond gyda phedair gêm ar ôl - dwy yn erbyn y Norwyaid - mae gan garfan Ludlow gyfle i droi'r drol.
Efallai nad oedd y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon y canlyniad roeddent ei eisiau, ond mae Ludlow yn benderfynol bod ei thîm yn symud ymlaen i'r cyfeiriad iawn.
"Rydyn ni'n edrych ar y perfformiad ac yn dweud 'rydyn ni'n gwneud cynnydd'. Efallai nad yw'r canlyniad yn dweud hynny ar hyn o bryd, ond roedd lefel y perfformiad yn llawer gwell nag yn ystod y misoedd diwethaf," esboniodd.
"Fe wnaethon ni gystadlu'n dda, dyfalbarhau drwy'r amser a chwarae pêl droed arbennig iawn. Mae gennym ni ddwy gêm yn erbyn Norwy. Rydyn ni'n edrych ymlaen at yr her ym mis Ebrill ac ymhellach i'r Flwyddyn Newydd. Wnawn ni ddim ildio yn sicr.
"Pe bai'r tîm yma'n cymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol, fe fydden nhw'n haeddu rhywbeth gwych yn sicr. Nid o ran y cyflawniad ei hun yn unig, ond o ran o ble maen nhw wedi dod - ymhell ar ôl y timau eraill.
"Y peth positif ydi ein bod ni'n creu'r cyfleoedd. Rydw i mor falch ohonyn nhw ac mae wedi bod yn ymgyrch dda iawn hyd yma."
Os bydd y ddau dîm o Gymru'n llwyddiannus, byddai'n hatrig nodedig i gyfranogiad Cymru yn rowndiau terfynol twrnameintiau chwaraeon mawr dros gyfnod o dair blynedd.
Byddai Cwpan Rygbi'r Byd eleni yn cael ei dilyn gan Ewros pêl droed 2020 yng ngêm y dynion, a fersiwn y merched i ddod yn 2021 - gan sicrhau enw da pellach i Gymru fel gwlad sy'n gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl.
Geiriau gan Dai Sport.