Pe bai’r rhaglen insport sy'n cael ei gweithredu gan Chwaraeon Anabledd Cymru angen athletwyr nodedig i hyrwyddo ei llwyddiant, does dim angen edrych ymhellach na Beth Munro a Harrison Walsh.
Yn athletwyr Paralympaidd yn eu meysydd eu hunain - Munro yn y byd taekwondo a Walsh yn y byd athletau – cawsant eu cyflwyno i gyfleoedd chwaraeon i bobl anabl drwy'r dull cynhwysol o weithredu a gynigir gan insport.
Ond mae’r rhaglen yn ymwneud â llawer mwy na darganfod yr athletwr anabl elitaidd nesaf o Gymru i gystadlu ar lwyfan y byd.
Yn sylfaenol, mae'n ymwneud ag ehangu cyfleoedd i bob grŵp ac oedran drwy gynhwysiant. Y cysyniad yw cynhwysiant + chwaraeon = insport.
Mae sawl elfen i’r rhaglen insport, gyda Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC) yn darparu arbenigedd ac arweiniad i helpu clybiau, cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol, yn ogystal â sefydliadau partner fel yr Urdd, Awdurdodau Lleol, a Chwmnïau Buddiant / Budd Cymunedol i ddatblygu agwedd gynhwysol at chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw.
Ond efallai mai’r agwedd fwyaf gweladwy ar raglen insport, ers iddi ddechrau yn 2012, yw digwyddiadau cyfres insport sy’n cael eu trefnu i roi blas ar wahanol chwaraeon i bobl anabl fel eu bod yn gallu gweld beth sydd ar gael, a gobeithio, yn bleserus.
Gall y rhai sy’n mynychu fod yn enillwyr byd posibl fel Munro (er nad oedd hi’n gwybod hynny cyn iddi gyrraedd am sesiwn) neu’n amlach yn bobl sy’n chwilio am ychydig o hwyl drwy chwaraeon.
Gyda chefnogaeth AF Blakemore (SPAR), mae ChAC yn cydlynu 15 o ddigwyddiadau cyfres insport ledled Cymru bob blwyddyn, gyda'r nod o ddenu miloedd o bobl anabl i roi cynnig ar chwaraeon newydd am y tro cyntaf erioed.
Mae enghreifftiau diweddar o ddigwyddiadau cyfres insport yn cynnwys cynnal digwyddiad pêl droed cadair pŵer, am y tro cyntaf yng Nghymru, ochr yn ochr â Sefydliad CPD Dinas Caerdydd. Hefyd, cynhaliodd ChAC dri digwyddiad cyfresinsport yn canolbwyntio ar chwaraeon cadair olwyn yn rhanbarthau Gwent, Gogledd a Chanolbarth Cymru mewn partneriaeth â WhizzKidz.
Mynychodd mwy na 70 o gyfranogwyr yn gyffredinol a thynnodd y digwyddiadau sylw at y cyfleoedd sydd ar gael ym mhob cymuned leol. Roedd y chwaraeon a gynigiwyd yn cynnwys rygbi cadair olwyn, rygbi'r gynghrair cadair olwyn, pêl droed cadair pŵer, tennis cadair olwyn a boccia.