I bobl hŷn, gall cadw’n actif a dal ati i gymryd rhan mewn chwaraeon ymddangos yn dasg amhosibl yn aml. Ond, diolch i £1,152 o arian y Loteri Genedlaethol, mae Clwb Bowls Awyr Agored Merched Rhiwbeina yn cefnogi mwy na 25 o ferched yn eu 90au i ddal ati i chwarae bowls.
Mae grŵp newydd y clwb, ‘Merched Feteran’, yn chwarae bowls bob wythnos, diolch i offer newydd a brynwyd gyda’r grant. I lawer o’r merched yma, dyma’r unig dro maen nhw’n bod yn actif yn ystod yr wythnos.
Pa offer wnaethon nhw ei brynu gyda'r cyllid?
Mae gan lawer o’r cyfranogwyr broblemau symud, felly mae’r ‘fferelau’ newydd maen nhw wedi’u prynu yn golygu bod eu ffyn cerdded yn ddiogel i’w defnyddio ar y lawnt. Mae ‘codwyr peli a jac’ yn eu helpu i gasglu’r peli a’r jacs heb orfod plygu. Mae ‘casglwr peli’ newydd yn dyblu fel cymorth cerdded i helpu’r merched i gerdded i fyny ac i lawr y lawnt. Heb yr offer yma, ni fyddai'r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gallu chwarae mwyach.
Aelod hynaf Merched Feteran Rhiwbeina yw Moya, 91 oed. Dywedodd: “Rydw i’n defnyddio’r holl offer sy’n cael ei gyflenwi oherwydd fy mod i ei angen. Y ffyn cerdded, y sgŵps, y codwyr… rydw i’n ddiolchgar iawn amdanyn nhw.
Yn ffodus, rydw i'n dal i yrru car. Cyn belled ag y byddaf yn gallu dal i yrru, byddaf yn parhau i ddod i’r clwb!”
Mae Cronfa Cymru Actif gan Chwaraeon Cymru, sy’n cael ei chefnogi gan y Loteri Genedlaethol, yn cynnig grantiau i glybiau chwaraeon ar lawr gwlad a grwpiau cymunedol sy’n gwneud newidiadau i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon.