Ymhlith yr awdurdodau lleol sydd wedi gallu dechrau eu rhaglen well i bobl dros 60 oed eisoes gydag ymarferion rhithwir mae Sir Gaerfyrddin. Yn gynharach yr wythnos hon, ymunodd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, â sesiwn ymarfer ar-lein 'Actif Anywhere' Cyngor Sir Caerfyrddin, i gael blas ar yr hyn sydd ar gael.
Dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas: "Fe wnes i fwynhau'r dosbarth yn fawr a chael fy atgoffa o'r brawdgarwch gwych rydych chi'n ei brofi wrth ymarfer gyda phobl eraill, er mai yn rhithwir mae hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Mae'r agwedd gymdeithasol yr un mor bwysig â'r ochr gorfforol.
"Rydyn ni’n cydnabod yn llwyr nad yw gweithgareddau arferol pobl wedi bod ar gael bob amser yn ystod y pandemig, felly rydw i’n edrych ymlaen at weld sut mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r cyllid yma mewn ffordd wedi'i thargedu i gynyddu'r ystod o opsiynau i bobl dros 60 oed fwynhau manteision ymarfer corff wrth i ni adeiladu'n ôl wedi'r argyfwng ofnadwy yma. Cadwch lygad ar wefannau’r cynghorau am ddiweddariadau."
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yng Nghyngor Sir Caerfyrddin: "Roedden ni’n falch iawn o gael rhoi blas i'r Dirprwy Weinidog o'r sesiynau ar-lein rydyn ni’n eu cynnig ar hyn o bryd a siarad ag e am ein cynlluniau cyffrous ar gyfer pryd byddwn yn lansio ein cynllun yn llawn unwaith y bydd y cyfyngiadau'n cael eu codi. Rydyn ni’n edrych ymlaen at allu dweud mwy wrth bobl leol am ein cynlluniau'n fuan."
Mae ymchwil a gasglwyd gan ComRes Savanta ar ran Chwaraeon Cymru yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yng Ngwanwyn 2020 yn awgrymu bod pobl dros 60 oed hefyd yn debygol o fod ymhlith y grwpiau sy'n cael eu taro galetaf gan y cyfyngiadau presennol o ran faint o ymarfer corff maent yn ei wneud.
Felly, mae clybiau chwaraeon yn cael eu hannog i ystyried sut gallent wneud cais i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru i wella cyfleoedd i bobl hŷn yn y dyfodol, yn ogystal â grwpiau oedran eraill, ac mae’r sector chwaraeon yng Nghymru hefyd yn uno tu ôl i'r hashnod #CymruActif i ddod ag amrywiaeth eang o awgrymiadau, syniadau ac adnoddau ymarfer corff yn y cartref at ei gilydd. Y gobaith yw y bydd y rhain yn gwneud bywyd ychydig yn haws, yn iachach ac yn fwy o hwyl ar hyn o bryd. Ewch i www.chwaraeon.cymru i gael gwybod mwy.