Skip to main content

“Bum mlynedd yn ôl, roeddwn i’n gorwedd mewn gwely ysbyty a rŵan rydw i’n paratoi i gystadlu yn Tokyo” - Ben Pritchard

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. “Bum mlynedd yn ôl, roeddwn i’n gorwedd mewn gwely ysbyty a rŵan rydw i’n paratoi i gystadlu yn Tokyo” - Ben Pritchard

Y tro diwethaf i rwyfo ddigwydd yn y Gemau Paralympaidd, roedd Ben Pritchard yn gorwedd mewn gwely ysbyty, gan feddwl tybed sut roedd yn mynd i ailadeiladu ei fywyd.

Cafodd y para-rwyfwr Cymreig ddamwain seiclo a newidiodd ei fywyd yn 2016, ar yr union adeg roedd yr athletwyr anabl gorau ar y blaned wedi dod at ei gilydd i gystadlu yn Rio de Janeiro.

Bum mlynedd yn ddiweddarach a bydd Pritchard o Rydaman ymhlith y rhwyfwyr elît ei hun – ac yn gystadleuydd medalau – pan fydd y Gemau Paralympaidd yn dechrau yn Tokyo 24 Awst.

Bydd y gŵr 29 oed, sydd wedi cael medal arian Ewropeaidd, ymhlith y ffefrynnau yn ras PR1 y cychod rasio sengl ar gyfer dynion, a bydd y rowndiau’n dechrau ddydd Gwener, 27 Awst.

Eto bum mlynedd yn ôl, roedd yn glaf yn Ysbyty Stoke Mandeville, yn dilyn damwain a oedd wedi ei barlysu o’i ganol i lawr.

“Bum mlynedd yn ôl, roeddwn i’n gorwedd mewn gwely ysbyty a rŵan rydw i’n paratoi i gystadlu yn Tokyo. Mae’n deimlad mor anhygoel, dydw i ddim yn gallu ei gyfleu mewn geiriau,” meddai.

“Roedd y Gemau Paralympaidd yn digwydd codi dros yr haf roeddwn i yn y man lle’r oedd y Gemau wedi dechrau. 

“Doeddwn i ddim wedi rhoi llawer o sylw i’r Gemau cyn hynny. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd rhwyfo Paralympaidd, heb sôn am sut roeddech yn dechrau arni.

“Ond daeth rhwyfo wedyn yn rhan o’r broses o adfer yn Stoke Mandeville. Doeddwn i ddim yn ei hoffi ar y dechrau. Roedd yn waith caled ac yn boenus.

“Ond fe wnes i ddechrau ei fwynhau a gyda chymorth llawer o bobl, fe wnes i sylweddoli mai dyma gyfle i gystadlu eto fel chwaraewr. 

“Mae pob plentyn yn breuddwydio am fod yn athletwr Olympaidd neu Baralympaidd, o ystyried eu hamgylchiadau. Yn ddiweddarach yn fy mywyd, cefais ddamwain ac agorodd hynny’r drws i mi i’r Gemau Paralympaidd.

“Pan ddechreuais i rwyfo, roeddwn i’n meddwl bod Paris yn 2024 yn nod realistig. Roedd yn rhaid i mi ddysgu am fywyd newydd mewn cadair olwyn a dysgu am gamp newydd hefyd.

“Roeddwn i’n meddwl y byddai’n cymryd mwy na phedair blynedd i gyrraedd pinacl y gamp. Ond rywsut, gyda hyfforddiant da a chynllun gwych, rydw i wedi llwyddo.”

Ben Pritchard yn rhwyfo
Mae Ben Pritchard yn rhwyfo am Ddinas Abertawe

O rhwyfwr anfoddog i athletwr Paralympaidd o safon fyd-eang

Mae Pritchard yn dweud bod ganddo lawer o bobl i ddiolch iddyn nhw am ei daith, o fod yn rhwyfwr anfoddog, i fod yn unigolyn a ddaeth i garu’r gamp yn raddol, ac yna’n athletwr Paralympaidd o safon fyd-eang.

Ond ymhlith y rhai y mae’n fwyaf diolchgar iddyn nhw, mae Andrew Williams, llywydd Clwb Rhwyfo Dinas Abertawe.

Williams a eisteddodd i lawr am goffi gyda Pritchard, gan wrando ar ei stori a’i uchelgeisiau newydd, a phenderfynu y byddai clwb Abertawe yn gwneud pa addasiadau bynnag yr oedd eu hangen er mwyn i’w recriwt newydd gyrraedd ei nod.

Roedd ganddyn nhw rywfaint o brofiad o rwyfwyr anabl yn defnyddio’u rhan nhw o Afon Tawe, gan fod James Roberts wedi bod yn rhan o’r clwb rai blynyddoedd ynghynt.

“Mae gen i lawer i ddiolch i Andrew amdano,” meddai Pritchard.

“Roedd ganddo’r agwedd gadarnhaol honno o roi cynnig arni. Roedd yn gymaint o help ac mae wedi dod yn rhan fawr o’m taith rhwyfo a mwy na hynny. Mae wedi dod yn ffigwr tad arall yn fy mywyd.”

Gwnaeth Pritchard ddigon o gynnydd cynnar i’w ddoniau gael eu cydnabod gan Rwyfo Prydain ac ymunodd â’u sgwad datblygu yn 2017, lai na blwyddyn ar ôl ei ddamwain.

Erbyn 2019, roedd yn chwaraewr rhyngwladol i Brydain Fawr ac enillodd ddwy fedal efydd yn ei regatas rhyngwladol cyntaf, cyn cyflawni'r gamp o gyrraedd y pedwerydd safle y tro cyntaf iddo gystadlu ym Mhencampwriaethau’r Byd yr un flwyddyn.

Roedd y pandemig wedi ei adael yn rhwystredig drwy 2020, cyn iddo gael ei orfodi i oresgyn rhwystrau sylweddol – anaf i’r fraich a oedd angen llawdriniaeth, cyn iddo ddal Covid-19 y Nadolig diwethaf.

Fe wellhaodd mewn pryd i fynd i Bencampwriaethau Ewrop eleni, lle dangosodd medal arian ei fod yn ôl ar y trywydd iawn ar gyfer Tokyo.

“Doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn i’n barod ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop ond, diolch i’r drefn, fe wnaeth fy hyfforddwr Tom Dyson a Phrif Swyddog Meddygol Rhwyfo Prydain, Ann Redgrave, fy mherswadio i gystadlu.

“Rhoddodd y fedal arian lawer o ffydd i mi, yn ogystal â phrofiad gwerthfawr o rasio. Roedd Covid yn dal i fy llethu ychydig o ran blinder ond rwy’n teimlo’n dda ar y dŵr, ac rwy’n gobeithio’n fawr y gallaf gystadlu am fedal yn Japan.

“Dwi bob amser yn teimlo’n bryderus nes i mi gyrraedd y gystadleuaeth. Edrychwch ar Alun Wyn Jones a’r Llewod! Gall unrhyw beth ddigwydd.

“Ond rydw i hefyd yn benderfynol o fwynhau’r profiad oherwydd rydw i’n gwybod y bydd wedi darfod mewn dim.”

Cyfweliad gyda Ben Pritchard

Ben Pritchard yn gwisgo cit Team GB

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy