Mae clwb criced sydd wedi helpu i gynhyrchu’r chwaraewr gyda Morgannwg, Lucas Carey, a bowliwr cyflym Middlesex, James Harris, ar fin creu cyfleoedd pellach i blant a phobl ifanc.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Clwb Criced Pontarddulais ger Abertawe wedi gweld nifer y plant ar ei lyfrau’n cynyddu. Mae poblogrwydd cynyddol y clwb ymhlith merched yn llwyddiant pellach.
Ond mae'r clwb yn orlawn. Gyda'r holl chwaraewyr yma angen rhannu gofod rhwyd ymarfer dau fae, mae'r clwb yn ei chael yn anodd ymdopi.
Fodd bynnag, mae help wrth law ar ffurf grant Cymru Actif gwerth £10,000 gan Chwaraeon Cymru a bydd y clwb yn ei ddefnyddio i adnewyddu hen rwyd ymarfer tri bae segur fel ei fod yn cael bywyd newydd.
Mae'n enghraifft arall o sut mae arian gan Lywodraeth Cymru a chyllid sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddosbarthu gan Chwaraeon Cymru drwy’r Gronfa Cymru Actif i helpu clybiau nid yn unig i oroesi pandemig Covid-19, ond i ddod allan yr ochr arall iddo yn barod i gynnig cyfleoedd gwell fyth.
Dyma Ben Roberts, Ysgrifennydd y Clwb, i egluro: "Mae Covid wedi ein taro ni’n galed ond cyn iddo daro, roedden ni mewn lle gwych. Mae gennym ni bob amser nifer uwch na'r cyfartaledd o blant iau'n ymuno â rhaglenni All Stars a Dynamos. Mae'r rhaglenni yma ar gyfer plant pump i wyth oed ac wyth i 11 oed.
"Yn 2019, roedd gennym ni tua 81 o blant wedi cofrestru ar gyfer All Stars ac roedd 30 ohonyn nhw’n ferched. Am y tro cyntaf, roedd Cynghrair Criced Iau De Cymru wedi sefydlu cystadleuaeth strwythuredig i ferched dan 11 a dan 13 oed. Yn anffodus, cafodd All Stars a chystadlaethau'r gynghrair eu canslo oherwydd y Coronafeirws ond roedd gennym ni 14 o ferched oedd yn barod i gystadlu a byddai llawer o rai eraill wedi dod drwodd oni bai ein bod ni yng nghanol y pandemig.
"Mae'n anodd gwybod faint o ferched fydd yn dychwelyd, unwaith y byddwn ni'n dod yn ôl o Covid, ond roedd yr holl arwyddion yn addawol iawn."
Mae'r clwb yn awyddus i wneud y gamp mor fforddiadwy â phosib, fel yr ychwanegodd Ben: "Ychydig i fyny'r hewl o'r clwb, mae gennym ni ardaloedd sy'n fwy difreintiedig. Dydyn ni ddim eisiau i gost fod yn rhwystr i chwarae criced."
Mae Ben hefyd yn nodi sut mae rhaglen lwyddiannus All Stars wedi chwyldroi'r gamp: "Weithiau mae criced yn cael enw am fod yn gamp elitaidd i’r dosbarth uwch. Mae All Stars wedi newid hynny i gyd. Mae wedi agor y gamp ac mae llawer o bobl eisiau chwarae bellach.
"Rydyn ni wedi mwynhau niferoedd mawr o blant - bechgyn a merched – sydd eisiau cymryd rhan. Does dim un ffordd i ni ddarparu cyfleoedd i bawb heb uwchraddio'r hen gyfleuster ymarfer.
“Mae hwn yn brosiect cynaliadwy yn y tymor hir i gymuned Pontarddulais.”