Ond gyda rhywfaint o help, syniadau syml, ychydig o amser a rhywfaint o ddychymyg, gall rhieni, gofalwyr ac athrawon ysbrydoli plant i gadw eu cyrff i symud a bod mewn hwyliau da.
Peidiwch â phoeni. Nid yw hon yn un o'r erthyglau hynny fydd yn mynnu eich bod chi’n dod yn hyfforddwr chwaraeon o'r safon uchaf i ychwanegu at yr holl ddyletswyddau eraill rydych chi’n eu jyglo wrth addysgu gartref.
Rydyn ni newydd gasglu ychydig o awgrymiadau gan wahanol chwaraeon a sefydliadau yng Nghymru sy'n ffyrdd syml o gael plant i ddefnyddio rhywfaint o egni, mireinio eu sgiliau corfforol, a chadw mor hapus â phosibl.
Ac rydyn ni wedi eu rhoi mewn un lle, lle maen nhw'n hawdd dod o hyd iddyn nhw.
Lansiwyd ymgyrch #CymruActif yn ystod y gwanwyn y llynedd pan wnaeth argyfwng Covid-19 orfodi’r cyfyngiadau symud cyntaf ac rydyn ni wedi parhau i ddiweddaru’r adnoddau hynny a cheisio cadw pobl ifanc yn iach.
Mae'r rhain yn weithgareddau y gall plant eu gwneud dan do ac yn yr awyr agored i gyd-fynd â'u haddysgu gartref, neu pan fyddant yn ôl adref os ydynt yn dal i fynychu'r ysgol.
Ar gyfer sgiliau pêl syml i blant ifanc, beth am roi cynnig ar y gemau a'r ymarferion sydd wedi’u rhoi at ei gilydd gan sefydliad Criced Cymru? Mae ganddyn nhw weithgareddau hwyliog i blant pump i wyth oed drwy eu rhaglen "All-Stars" a gweithgareddau i blant hŷn drwy "Chance to Shine".
Ewch i https://cricketwales.org.uk/keeping-active-in-lockdown
Mewn partneriaeth â Morgannwg, mae heriau Gemau Criced Rhithwir i blant eu cwblhau hefyd, gyda chwech o sgiliau i roi cynnig arnyn nhw.
Gallwch ddod o hyd iddyn nhw yn https://www.glamorgancricket.com/documents/kids/cricket-comp-13781.pdf.
Hefyd mae feriswn Cymraeg ar gael yn https://cricketwales.org.uk/documents/cricket-comp-welsh-1053.pdf
Dywedodd rheolwr datblygu Criced Cymru, Mark Frost: "Rydyn ni wedi llunio cyfres o gemau, gweithgareddau a sgiliau y gall plant eu gwneud yn ystod y cyfyngiadau symud.
"Mae'r pethau yma’n llawer o hwyl ac maen nhw i gyd yn cadw plant yn actif yn y byd criced gyda sgiliau sylfaenol dal, taflu, batio a bowlio."
Os yw eich plentyn chi’n ffansïo bod y Gareth Bale neu’r Jess Fishlock nesaf, mae digon o weithgareddau pêl droed ar gael.
Un ohonyn nhw yw'r bartneriaeth newydd rhwng Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru a Girlguiding Cymru, sydd â'r nod o roi cyfle i ferched ddysgu am bêl droed a datblygu sgiliau newydd.
Gallwch lawrlwytho pecyn her pêl droed am ddim, gydag wyth adran i ferched ifanc eu cwblhau ac annog gweithgarwch pêl droed a gwybodaeth. I'r rhai sy'n gorffen yr heriau, mae Bathodyn Pecyn Her Pêl Droed #GirlsCAN ar gael.
I gael mwy o wybodaeth ac i lawrlwytho'r pecyn, ewch i:
https://www.fawtrust.cymru/grassroots/girlguiding/