Skip to main content

Pam mae cadw’n ddiogel mewn chwaraeon y gaeaf yma’n golygu mwy na dim ond osgoi’r feirws.

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Pam mae cadw’n ddiogel mewn chwaraeon y gaeaf yma’n golygu mwy na dim ond osgoi’r feirws.

Cadwch yn ddiogel! Sawl gwaith ydyn ni i gyd wedi clywed neu ddweud y geiriau yma yn ystod y misoedd diwethaf?

Cymaint o weithiau, efallai, fel ei bod yn anodd peidio â chysylltu diogelwch ar unwaith â chadw’n glir o'r pandemig byd-eang.

Ond, wrth gwrs, mae diogelwch yn ymestyn ymhellach o lawer na dim ond lleihau risgiau Covid-19 ac, mewn chwaraeon, mae diogelu wedi symud i gael lle blaenllaw ym mhob sefydliad a gweithgarwch yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Yr Wythnos Diogelu Genedlaethol 

Mae’r wythnos yma’n Wythnos Diogelu Genedlaethol ac yn gyfle i bob camp ystyried nid yn unig materion llesiant corfforol a meddyliol a dyletswyddau o ofal, ond sut mae'r materion cyfarwydd hynny wedi newid drwy gyfyngiadau’r cyfnod clo a ffyrdd newydd o weithredu.

Ers mis Mawrth, mae chwaraeon ledled Cymru wedi gorfod addasu’n fwy nag erioed o'r blaen, ond nid yw eu cyfrifoldebau – yn enwedig i bobl ifanc – wedi newid.

Am bob sesiwn hyfforddi sydd wedi symud ar-lein, neu bob ffynhonnell refeniw a gollwyd, a phob cyflogai sydd ar ffyrlo, ceir sgil-effaith bob amser o ran sut gellir cyflawni'r cyfrifoldebau hynny o hyd.

Un gamp sydd wedi addasu i wynebu’r heriau diogelu newydd hyn yw triathlon.

Mae'n gamp gydag ystod oedran eang yn ogystal â thair elfen wahanol, sef nofio, beicio a rhedeg – gyda rhai o'r rheini'n haws eu gwneud gyda llai o oruchwyliaeth nag eraill.

Triathlon Cymru 

Dywedodd prif weithredwr Triathlon Cymru, Beverley Lewis: "Wrth gyfathrebu â'n clybiau, mae'n amlwg ein bod ni’n llai cysylltiedig ar ryw ystyr gan fod cymaint wedi symud ar-lein.

"Daeth yn amlwg iawn bod ein swyddogion lles ni eisiau mwy o gyngor oherwydd bod natur yr hyn roeddent yn ei wneud yn newid."

O ganlyniad, mae'r corff rheoli wedi sefydlu fforwm lles rheolaidd lle gall swyddogion yn Triathlon Cymru gynnig diweddariadau a chyngor i'r rhai sy'n cyflawni rôl lles yn y clybiau.

Ar gyfer pob camp sydd wedi symud i fyd rhithwir, ceir materion diogelwch wrth gwrs – gan wybod yn union pwy sydd â mynediad i weld a chlywed drwy'r ffenestri ar-lein hynny – yn ogystal â diogelwch corfforol cyfranogwyr nad ydynt bellach o fewn cyrraedd os bydd rhywbeth yn mynd o chwith.

Ond mae llawer o'r cyngor y gofynnwyd amdano, meddai Beverley, wedi ymwneud â helpu hyfforddwyr hefyd, sydd wedi mynd o gyfrannu cymaint o'u hamser at y gamp i fod â rôl lawer llai yn sydyn iawn.

O hyfforddi i eistedd ar y soffa

Mae triathletwyr wedi gallu ailddechrau hyfforddi mewn niferoedd cyfyngedig iawn – felly maent yn gallu mynd allan a nofio, beicio a rhedeg – ond mae'r posibilrwydd o ddigwyddiadau a chystadlaethau fisoedd i ffwrdd o hyd. 

"I hyfforddwyr a oedd yn arfer rhoi eu nosweithiau i hyfforddi, mae'r agwedd hon ar eu bywyd wedi diflannu i bob pwrpas i lawer, felly mae cryn dipyn o addasu wedi bod," meddai Beverley.

"Mae'n her i lawer o bobl oherwydd os nad ydyn nhw’n hyfforddi, dydyn nhw ddim yn siŵr iawn pwy ydyn nhw na beth i’w wneud gyda nhw’u hunain.

"I lawer o bobl, mae dal ati i gyfathrebu wedi bod yn rôl bwysig i'w chyflawni i'r corff rheoli – cadw pobl mewn cysylltiad â'i gilydd, fel eu bod yn gwybod eu bod mewn cysylltiad yn gymdeithasol o hyd, ac nad ydi'r sefyllfa yma’n mynd i bara am byth, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gweld cymaint ar yr athletwyr eraill. Mae'n ymwneud nid yn unig â hyfforddiant erbyn hyn – ond â chysylltu hefyd."

Pan fydd plant ifanc yn cymryd rhan, gall y materion sy'n ymwneud â diogelu sy’n deillio o’r cyfnod clo fod yn anos fyth eu rheoli.

Nid yn unig mae llawer iawn o bobl ifanc yn awyddus i gael chwaraeon a gweithgarwch corfforol trefnus yn eu bywydau, ond gall hynny yn aml hefyd fod yn erbyn cefndir o bwysau arall yn y cartref

Lle diogel

Gyda’r risgiau uwch o gam-drin corfforol ac emosiynol wedi'u hachosi gan effaith gymdeithasol ac economaidd y pandemig wedi'u cofnodi'n dda, mae chwaraeon yn fwy awyddus nag erioed i gynnig eu hunain fel lle diogel.

Dywedodd Laura Whapham, y Swyddog Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon ar gyfer yr NSPCC, bod y brys dealladwy a deimlir gan blant, rhieni a chlybiau i ddal ati wedi creu heriau newydd o ran diogelu.

 

Yr ateb oedd ceisio addasu rhai o'r egwyddorion a'r cyngor a roddwyd i athrawon i'r rhai sy'n ceisio sicrhau bod eu chwaraeon yn dal ati mewn byd rhithwir.

Dywedodd: "Mae llawer o'r canllawiau hynny wedi bod yn ddefnyddiol wrth gynnal gweithgareddau chwaraeon ar-lein i blant, ond mae wedi bod yn anodd i glybiau a rhieni.

"Mae chwaraeon yn rhan hwyliog o'u bywydau i'r rhan fwyaf o blant ac felly mae'n hanfodol i'w hiechyd meddwl. Roedd eu cael yn ôl i chwaraeon yn hanfodol felly, hyd yn oed os oedd yn golygu bod rhaid i'r bobl oedd yn gysylltiedig addasu'n gyflym iawn. Mae wedi bod yn wers bwysig i’w dysgu.

"Mae wedi bod yn anodd cyflawni hynny a chadw at y rheolau. Roedd rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd lle'r oedd pobl yn torri rheolau’r cyfnod clo i gynnal sesiynau i blant ac weithiau roedd rhaid i’r chwaraeon eu hunain weithredu yn erbyn y clybiau hynny, oherwydd wrth gwrs dydi hynny ddim o fudd i unrhyw un."

Yr un sianel

Gyda phroblemau newydd i'w datrys yn ogystal â'r hen rai, mae’r NSPCC yn falch o weld chwaraeon eraill, fel gymnasteg, yn dilyn arweiniad trithlon wrth greu sianeli i swyddogion lles ofyn am y canllawiau diweddaraf.

Ond beth am y sianel hanfodol o adrodd am bryderon diogelu, lle gall rhiant, aelod o glwb neu unrhyw un arall leisio eu pryderon?

Ydi’r cyfnod clo a'r byd rhithwir wedi lleihau nifer y galwadau?

"Diolch byth, does dim tystiolaeth o hynny," meddai Laura. 

"Mae'r broses ar gyfer sut rydych chi'n adrodd am bryder mewn chwaraeon wedi aros yr un fath, felly mae'r holl sianelau yno o hyd."

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy