Mae Grantiau Arbed Ynni Chwaraeon Cymru yn ôl ac maen nhw’n sicr yn hwb mawr – gofynnwch i’r pencampwr bocsio Joe Calzaghe.
Mae Academi Calzaghe yn Nhrecelyn, sy’n cael ei rhedeg gan y teulu, ymhlith y 78 o glybiau chwaraeon sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i Chwaraeon Cymru am Grant Arbed Ynni hyd at £25,000 y llynedd i wneud ei chyfleusterau’n fwy effeithlon o ran ynni.
Drwy osod paneli solar yn eu lle ac uwchraddio ei inswleiddiad, bydd Academi Calzaghe yn arbed miloedd o bunnoedd ar ei biliau ynni am flynyddoedd i ddod, gan ddarparu mwy o sefydlogrwydd ariannol i barhau â gwaddol Joe yn ei dref enedigol.
Dywedodd Joe: “Rydyn ni wedi hyfforddi llawer o bencampwyr, ond y dyddiau yma rydyn ni’n canolbwyntio ar gefnogi amaturiaid ac ieuenctid lleol. Roedd bocsio’n bopeth i mi fel plentyn. Fe gefais i amser caled yn yr ysgol, fe gefais i fy mwlio ac roeddwn i’n eithaf mewnblyg. Roedd dod i gampfa’n rhoi hunan-werth i mi, a dyna beth rydyn ni i gyd eisiau – darparu rhywle i blant gael hwyl, cadw’n heini a theimlo’n dda amdanyn nhw eu hunain.
“Bydd y grant gan Chwaraeon Cymru wir yn ein helpu ni i leihau’r gost o redeg y gampfa ac yn rhoi gwell amgylchedd i’r plant hyfforddi ynddo.”