Mae goroeswr strôc o Lantrisant yn ddim ond un o filiynau o bobl ledled Cymru sy'n edrych ymlaen at fod nôl yn y gêm wrth i'r cyfyngiadau lacio.
Ar ôl mwy na 30 mlynedd o chwarae bowls, nid yw Alan Thompson, 74 oed, wedi bod ar lawnt fowlio ers dioddef strôc a beryglodd ei fywyd yn 2018, a wnaeth ei adael yn methu symud ac yn yr ysbyty am 14 wythnos. Fwy na thair blynedd yn ddiweddarach, mae Alan yn gobeithio dychwelyd i'w glwb bowls lleol am y tro cyntaf ers ei strôc.
Ar ôl llwybr araf at adferiad, mae Alan bellach yn gallu cerdded gyda chymorth ffon gerdded yn unig. Ddechrau'r flwyddyn eleni roedd yn teimlo ei fod yn barod i fod yn fwy actif eto ac ailddechrau chwarae bowls. Gyda'r cyfyngiadau symud a chlybiau chwaraeon ledled Cymru ar gau, trefnodd y Gymdeithas Strôc, mewn partneriaeth â Bowls Cymru, sesiynau bowls rhithwir ar gyfer goroeswyr strôc fel Alan.
Ar ôl adennill rhywfaint o'i gryfder corfforol a'i hyder yn dilyn cyflwr a beryglodd ei fywyd, mae Alan bellach yn dyheu am fod nôl yn gwneud rhywbeth mae mor hoff ohono.