Main Content CTA Title

Cardiff Dragons: Cefnogi'r gymuned LHDTC+ mewn chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cardiff Dragons: Cefnogi'r gymuned LHDTC+ mewn chwaraeon

Mewn cymdeithas lle mae cynnwys a derbyn yn werthoedd hanfodol, mae Clwb Pêl-droed Cardiff Dragons wedi dod i'r amlwg fel enghraifft arbennig o glwb chwaraeon sy'n mynd yr ail filltir a mwy i gefnogi'r gymuned LHDTC+. Wedi'i sefydlu ym mis Mai 2008, mae'r clwb wedi gweithio'n ddiflino i ddarparu cyfleoedd i unigolion LHDTC+ gymryd rhan mewn chwaraeon a chreu amgylchedd croesawgar lle maent yn teimlo'n gyfforddus yn bod yn nhw eu hunain. 

I nodi Mis Pride, dyma olwg fanylach ar siwrnai’r clwb, y bobl dan sylw, a'u hymroddiad i gydraddoldeb a chynhwysiant.

O’r Sharks i’r Dragons

Daeth Cardiff Dragons i fodolaeth pan gysylltodd chwaraewr Birmingham Blaze oedd yn gadael â chynrychiolydd Rhwydwaith Cefnogwyr Pêl-droed Hoywon De Cymru (GFSN) <https://www.gfsn.co.uk/index.html> yn holi am dîm ar gyfer cyfarfod blynyddol GFSN 2008 yn Lerpwl. Heb unrhyw gynlluniau yn eu lle, penderfynodd ffurfio tîm. Yn wreiddiol dan yr enw Cardiff Sharks, unodd pum chwaraewr o Gymru i gynrychioli eu gwlad ar lefel genedlaethol. Gwnaeth y profiad a'r llwyddiant a gawsant argraff fawr arnynt, a phenderfynodd y chwaraewyr ffurfio clwb. Yn y broses, newidiwyd yr enw 'Sharks' i'r teitl mwy Cymreig, sef 'Dragons'. Drwy hysbysebu clyfar ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol, denodd y clwb ystod amrywiol o chwaraewyr yn gyflym, a'u hymddangosiad cyhoeddus cyntaf oedd ym Mardi Gras Caerdydd yn 2008, a lwyddodd i greu diddordeb sylweddol ac ehangu eu haelodaeth.

Beth sy'n wahanol am Cardiff Dragons?

Ers y dyddiau cynnar hynny, mae’r Cardiff Dragons wedi mynd o nerth i nerth, gan gynnig ystod eang o gyfleoedd pêl-droed a meithrin sylfaen aelodaeth amrywiol. Mae gwerthoedd craidd y clwb o gydraddoldeb a chynhwysiant yn parhau wrth wraidd popeth maent yn ei wneud.

Dywedodd Charlotte Galloway, Cadeirydd Cardiff Dragons: "Nid dim ond ennill gemau sy'n bwysig i’r Dragons; mae ein ffocws ni yn ymestyn ymhell y tu hwnt i fyd pêl-droed. I ni, mae'n fwy na phêl-droed ac rydyn ni'n blaenoriaethu cymuned a chefnogaeth, gan feithrin amgylchedd lle mae disgwyliadau cystadleuol gan ein gilydd yn cael eu disodli gan gyfeillgarwch a lles. Mae ein clwb ni’n cynnig cymorth iechyd meddwl oddi ar y cae, yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol sy'n gynhwysol ac yn ystyriol o beidio â chanolbwyntio ar alcohol, ac yn cynnal pwyllgor sy'n ymdrechu i wasanaethu a chefnogi pob aelod. Mae dysgu parhaus o brofiadau yn agwedd allweddol ar ethos ein clwb ni.”

Mae creu lle diogel a chroesawgar i bob aelod yn hollbwysig i Cardiff Dragons, ac maen nhw'n cyflawni hyn drwy ddefnyddio amryw o egwyddorion arweiniol. Mae’r sesiynau hyfforddi yn dechrau gyda chyflwyniadau, lle mae pawb yn rhannu eu henwau a'u rhagenwau. Mae'r arfer yma nid yn unig yn helpu i osgoi dryswch dros rywedd, ond hefyd yn cydnabod bod rhai unigolion yn uniaethu y tu hwnt i'r sbectrwm deuaidd traddodiadol. Mae'n darparu lle diogel i unigolion archwilio hunaniaeth a chyflwyniad, gan ganiatáu iddynt ddod o hyd i'r hyn sy'n teimlo'n iawn iddyn nhw. 

Ychwanegodd Charlotte: "Rydyn ni'n annog deialog agored a dealltwriaeth, hyd yn oed yn annog pawb i estyn allan ar ôl sesiynau i ddysgu mwy am rywedd, labeli a hunaniaethau. Mae'r Dragons yn cyfrannu'n weithredol at gymunedau blaengar a chynhwysol drwy feithrin gwelededd a grymuso cyfeillgarwch.”

"Mae iaith gynhwysol yn chwarae rhan hanfodol yn y clwb. Mae geiriau fel 'pawb', 'i gyd', 'tîm' neu 'Dragons' yn cael eu defnyddio i sicrhau bod pob aelod yn teimlo ei fod yn cael ei gynnwys a'i werthfawrogi. Ar ben hynny, mae ein clwb ni’n parchu ac yn cydnabod defodau crefyddol, gan anfon dymuniadau da a bod yn ymwybodol o gyfnodau gwyliau fel y Nadolig a Ramadan.”

Mae’r Cardiff Dragons hefyd yn sylwgar i anghenion unigolion niwroamrywiol a'r rhai sydd â gofynion dysgu gwahanol. Wrth hyfforddi, maen nhw'n darparu ar gyfer arddulliau dysgu amrywiol ac yn ymatal rhag pwyso ar unigolion i gadarnhau i ddulliau penodol, gan gydnabod bod pawb yn ymgysylltu'n wahanol. 

Er mwyn sicrhau atebolrwydd unigol ac i gynnal amgylchedd parchus, mae aelodau newydd yn llofnodi ffurflen aelodaeth ac yn cytuno i god ymddygiad sy'n pwysleisio cynhwysiant a pharch at bawb, dim ot beth yw eu hunaniaeth. Mae'r dull hwn o weithredu’n hyrwyddo ymdeimlad o gyfrifoldeb ymhlith yr aelodau ac yn helpu i gynnal awyrgylch gynhwysol y clwb.

Meddai Jason Webber, Uwch Reolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Uniondeb Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Rydyn ni'n falch o fod yn gweithio’n agos gyda Dreigiau Caerdydd sy’n chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cyfleoedd i unigolion LGBTQ+ gymryd rhan mewn pêl droed mewn amgylchedd diogel. Rydyn ni'n credu bod pêl droed ar gyfer pawb a’n cenhadaeth ni yw sicrhau bod y gêm ar bob lefel ledled Cymru yn amgylchedd lle mae pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan, yn cael eu cynnwys a bod yn driw iddyn nhw eu hunain. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau â’n cefnogaeth i’r Dreigiau ac i Glybiau LGBTQ+ eraill yn y dyfodol.”

Beth sydd ar y gweill i Cardiff Dragons?

Dyma ateb Charlotte: "Rydyn ni'n edrych ar sefydlu tîm cymunedol wrth i'n niferoedd ni dyfu. Os ydyn nhw'n parhau i dyfu ar y gyfradd maen nhw nawr, fe allaf weld ni'n cael sawl tîm 11 bob ochr a 7 bob ochr erbyn yr adeg yma y flwyddyn nesaf (ar hyn o bryd mae gennym ni un o bob un ac mae'r chwaraewyr hynny'n chwarae mewn cynghrair 5 bob ochr). Mae'n dipyn o gur pen wrth feddwl am yr holl gyfyngiadau a phosibiliadau - ond mae'n sicr yn gur pen braf i'w gael!”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy