Skip to main content

Chef de Mission Tîm Cymru … felly, pwy sy’n bodloni’r gofynion?

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Chef de Mission Tîm Cymru … felly, pwy sy’n bodloni’r gofynion?

YN EISIAU: Chef de Mission. Rhaid bod yn dalentog, yn greadigol, yn cŵl dan bwysau mawr, ac yn abl i gael y gorau o ddeunyddiau crai.

Mae'r hysbyseb swydd allan ac mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn chwilio am Chef de Mission newydd ar gyfer Birmingham 2022.

Mae'n rôl gydag amcan syml: paratoi, cynllunio a darparu'r ‘fwydlen’ orau un o amgylchiadau a fydd yn caniatáu i 200 o athletwyr gorau'r wlad roi eu perfformiadau gorau pan fydd y gynnau’n tanio, y chwibanau’n chwythu a chlychau'n canu ymhen 19 mis.

Fel unrhyw ‘chef’ da, rhaid i Chef de Mission newydd Tîm Cymru redeg cegin daclus. Mae gweithredu llyfn yn allweddol, ond y sgiliau personol – y gallu i ysbrydoli pobl i weini’r fersiynau gorau ohonyn nhw eu hunain - sy'n gwahanu’r MasterChef oddi wrth y rhai sy’n cael eu gwrthod gan Gregg Wallace.

Chris Jenkins, sydd bellach yn brif weithredwr Gemau'r Gymanwlad, oedd Chef de Mission Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi.

Does ganddo ddim amheuaeth ei bod yn swydd werth chweil i'r person cywir ac mae'n dweud: "Os ydych chi'n caru chwaraeon ac yn gallu arwain pobl, mae'n rôl unwaith mewn oes.

"Os ydych chi'n falch o'ch gwlad ac eisiau i'r wlad ragori, mae'r teimlad o falchder, ond hefyd o gyfrifoldeb, yn amhosib ei ddisgrifio bron. Chi sy'n arwain y ddirprwyaeth, ond rydych chi hefyd yn arwain y tîm.

"Gyda hynny daw heriau mawr, oherwydd yn y pen draw mae'n swydd reoli gymhleth iawn. Gofynnodd rhywun i mi ddisgrifio'r swydd unwaith a fy ateb i oedd ‘anhrefn gyda strwythur’.

"Fe fyddwch chi eisiau gwneud A,B,C a D mewn un diwrnod, ond efallai na fyddwch chi’n ei wneud yn y drefn yr oeddech chi wedi'i chynllunio na'r ffordd yr oeddech chi wedi dychmygu. Mae’n rhaid i chi gael cynllun, ond mae'n rhaid i chi allu ymdopi â tharfu ar y cynllun hwnnw hefyd."

Roedd Delhi yn gemau heriol a dweud y lleiaf, gyda llawer o'r blociau llety ym mhentref yr athletwyr yn dal i gael eu ffitio wrth i bobl droi eu hallweddi yn eu drws. Fe wnaeth gwaith caled gan bawb ar y tir ddatrys y problemau hynny yn y pen draw ac ystyriwyd y Gemau fel llwyddiant mawr. "

Ond dim ond rhan o rôl y ‘Chef’ yw sicrhau bod y materion ymarferol yn cael eu datrys. Yn fwy allweddol efallai na hyd yn oed y cynllunio a’r arolygu manylion ymarferol yw sgiliau pobl fel siarad, datrys problemau ac ysbrydoli.

Pan ddaeth y nofwraig Jazz Carlin i Gemau'r Gymanwlad Melbourne yn 2006, roedd hi'n 15 oed ac ymhell iawn o'i chartref.

Byddai'n mynd yn ei blaen i ennill dwy fedal arian Olympaidd, ond bryd hynny, yn ferch ifanc swil yn ei harddegau, chwaraeodd pennaeth tîm Cymru ran hollbwysig wrth ei helpu i setlo i mewn i'r cystadlu rhyngwladol.

"Mae bod oddi cartref yn 15 oed yn anodd, felly mae cael rhywun yn gofalu sy'n gallu bod yn gynnes a chyfeillgar a chymwynasgar, yn ogystal â rhywun sy'n eich ysgogi a'ch ysbrydoli chi, yn hynod bwysig," meddai Jazz.

Y Chef de Mission yn Awstralia y flwyddyn honno oedd seren y byd hoci, Anne Ellis, ac meddai Jazz: "Mae dweud y geiriau cywir yn gallu gwneud cymaint o wahaniaeth i'ch diwrnod chi pan rydych chi'n athletwr ifanc.

"Mae gwybod bod rhywun yno i chi, yn eich cefnogi chi ac yn gofalu am bethau’n bwysig iawn oherwydd gall cystadleuaeth ryngwladol fod yn frawychus iawn i rywun ifanc."

Aeth Jazz yn ei blaen i gystadlu yn y Gemau Cymanwlad bedair gwaith i gyd a chario baner Cymru ar flaen Tîm Cymru yng Ngemau 2018 ar yr Arfordir Aur.

Prin yw'r athletwyr sydd â gwell persbectif o beth sy’n gwneud ‘chef’ da a phwysigrwydd y rôl i holl aelodau Tîm Cymru yn Birmingham.

"Mae angen rhywun sy'n gallu creu egni sy'n rhedeg drwy'r tîm, gan ysbrydoli pobl i berfformio i'w gorau a dod â medalau gartref.

"Mae'n dîm ac rydych chi eisiau i bawb deimlo eu bod nhw ar yr un siwrnai. Mae angen arweinydd cryf yn ogystal â sgiliau cynnes, personol."

Hefyd mae angen person manwl. Mae Jazz yn canmol Chef de Mission 2018 Nicola Phillips am helpu i lunio cynllun gweithredu a oedd yn caniatáu i arweinydd tîm Cymru gario baner drom mewn seremoni agoriadol flinedig, gan sicrhau ei bod yn cael digon o seibiant yn eistedd i lawr ar gadair er mwyn cadw ei hegni cyn y gystadleuaeth.

Fel rôl anrhydeddus, nid yw bod yn Chef de Mission Tîm Cymru yn mynd i wneud unrhyw un yn gyfoethog, ond bydd yn darparu cyfoeth o brofiadau cofiadwy ym mhinacl chwaraeon yng Nghymru.

I Chris Jenkins, mae’r atgofion am y gwaith tîm, y balchder a’r brawdgarwch yn gwneud y cyfan yn werth chweil.

"Rydw i'n gallu cofio un noson, hebrwng Jazz allan i ddal tacsi yn Delhi i fynd i wneud ei holl gyfweliadau gyda'r cyfryngau. Roedd ei medal hi o amgylch ei gwddw ac roedd hi'n gwenu'n llydan ac fe wnes i feddwl, 'Waw!' Da iawn ti. Mae hyn yn wych.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy