Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd ym Mharis yn Gymry, gan ddarparu modelau rôl newydd i’r genhedlaeth nesaf o ferched eu hedmygu.
Mae Elinor Barker, sydd wedi ennill dwy fedal Olympaidd, yn dychwelyd i’r Gemau am y trydydd tro, a bydd tair fydd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf, Anna Morris, Jess Roberts ac Emma Finucane, yn ymuno â hi, a chwaer Elinor, Megan Barker, yn teithio fel aelod wrth gefn a hefyd Lowri Thomas.
Yn y cyfamser, oddi ar y trac, Ella Maclean-Howell o Lantrisant fydd y beiciwr mynydd cyntaf o Gymru i gystadlu mewn Gemau Olympaidd.
Dydi Cymru ddim wedi cael grŵp mor eithriadol o feicwyr benywaidd erioed. A thu hwnt i'r saith yma sy'n teithio i Baris mae sêr fel y sbrintiwr trac Rhian Edmunds, y feicwraig BMX dull rhydd Holly Pipe a'r chwiorydd Bäckstedt sy'n rasio ffordd, Elynor a Zoe.
Yn wir, os edrychwch chi ar restr Beicio Prydain o’r rhai sy’n derbyn cyllid y Loteri Genedlaethol ar y lefel uchaf, fe welwch chi fod mwy na chwarter y beicwyr benywaidd yn Gymry.
Mae’n dra gwahanol i Lundain 2012 pan mai’r unig fenyw o Gymru oedd yn cynrychioli Prydain Fawr mewn unrhyw gystadleuaeth beicio oedd yr arloeswraig Nicole Cooke. Yn y Gemau yma fe ddaeth Prydain Fawr i frig tabl y medalau beicio ac ysbrydoli cymaint o’n doniau presennol ni i gymryd rhan yn y gamp.
Mae hynny’n sicr yn wir am Ella Maclean-Howell a ddywedodd: “Y rheswm pam wnes i ddechrau oedd Gemau Olympaidd 2012. Fe wnes i wylio ac roeddwn i eisiau rhoi cynnig arni. A phan wnes i ddechrau hyfforddi yn Felodrom Casnewydd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe fyddwn i’n gweld beicwyr proffesiynol yn hyfforddi yno, fel Becky James a Geraint Thomas. Yng Nghymru, oherwydd ein bod ni’n llai, rydych chi’n gweld llawer mwy o’r beicwyr gorau a dydi hynny ddim yn digwydd o reidrwydd mewn ardaloedd eraill yn y DU.”
Er bod dwy o garfan Paris yn chwiorydd go iawn - y Barkers - mae'r ysbryd ymhlith y merched eraill wedi creu chwaeroliaeth gref hefyd.
Mae Megan Barker yn cytuno bod maint Cymru yn gallu bod yn gryfder efallai, gan helpu’r merched i feithrin cysylltiadau cryf: “Fel tîm beicio, rydyn ni i gyd yn agos gan ein bod ni i gyd yn adnabod ein gilydd wrth dyfu i fyny. Mae gan Feicio Cymru ei gynghreiriau ei hun, omniwms rhanbarthol, a phencampwriaethau, ac mae hynny'n rhoi llawer o gyfleoedd i feicwyr ifanc. Mae wir yn eich gwthio chi ymlaen.”
Mae beicwyr dawnus Cymru’n cael eu meithrin gan Feicio Cymru – y corff rheoli cenedlaethol ar gyfer y gamp yng Nghymru – a phan fydd y beicwyr yn barod ar gyfer y cam nesaf, maen nhw’n symud ymlaen i Feicio Prydain gyda’r nod o gystadlu dros Dîm Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd neu Baralympaidd.
Mae Beicio Cymru yn sicrhau bod eu beicwyr wedi cael eu paratoi’n llawn gyda’r sgiliau y bydd arnyn nhw eu hangen ar y beic ac oddi arno wrth iddyn nhw symud ymlaen i Feicio Prydain.
Does dim un garreg yn cael ei gadael heb ei throi, fel yr eglura hyfforddwr Beicio Cymru, Rachel Draper:
“Rydyn ni’n gweithio gyda’r ymarferyddion yn Chwaraeon Cymru fel yr hyfforddwyr cryfder a chyflyru a’r maethegwyr. Mae llawer o feicwyr yn symud i Fanceinion, lle mae Beicio Prydain wedi’i leoli, yn 18 oed ac mae’n gam enfawr. Felly, rydyn ni eisiau i’n beicwyr ni allu coginio prydau iach yn hyderus a deall effaith yr holl bethau yma ar berfformiad.”
Ac i wneud yn siŵr bod yr olwynion yn dal i droi yng Nghymru, mae'r beicwyr hynny sydd wedi llwyddo i gyrraedd y brig gyda Beicio Prydain yn dychwelyd yn gyson i gynnig cyngor neu ddau i'r criw iau.
“Fe ddaeth Rhian (Edmunds) yn ôl ac ymuno yn ddiweddar. Mae hi’n dod yn ei chit Prydain ac yn dangos i’n beicwyr iau ni sut i wneud dechrau yn sefyll. Mae Lowri (Thomas) ac Anna (Morris) wedi bod i mewn yn ddiweddar hefyd,” eglurodd Rachel.
“Mae’n dangos beth sy’n gyraeddadwy. Pan rydych chi'n hyfforddi ochr yn ochr â merched eraill sydd wedi dod drwy'r un llwybr ac sydd bellach ar y lefel nesaf, mae'n dangos iddyn nhw bod y cyfan o fewn eu gafael nhw."
Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Llongyfarchiadau i’r grŵp eithriadol dalentog yma o feicwyr o Gymru ac yn wir i’n holl athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd ni ar gael eu dewis.
“Gobeithio y bydd gweld cymaint o athletwyr o Gymru yn cystadlu ar y llwyfan mwyaf yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon. Os byddan nhw’n cydio mewn bat tennis bwrdd am y tro cyntaf neu’n rhoi cynnig ar bêl fasged neu BMX neu sglefrfyrddio, rydyn ni eisiau i bob person yng Nghymru fwynhau chwaraeon a dal ati i fod yn actif drwy gydol eu hoes.”